Neidio i'r prif gynnwy

1. Pethau sydd angen i chi wybod am yr ystadegau hyn

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl  y math o drafodiad. 

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth (er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp, ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir). 

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno. Cyhoeddwyd setiau data manwl newydd ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru ym mis Mehefin. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl awdurdod lleol, etholaethau’r Cynulliad a chan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae’r diagram ar y dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn esbonio amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Mae'r amcangyfrifon a gyflwynir ar gyfer Mehefin 2019 a'r chwarter o Ebrill i Fehefin 2019 yn rhai dros dro. Cyflwynir amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Bydd y data dros dro yn cael ei ddiwygio yn y dyfodol, gan efallai nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto. 

Gellir parhau i ddiwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach yn y dyfodol, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn fwyaf arbennig, oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol.

Wrth ddarllen y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân. Mae’r termau perthnasol yn cael eu diffinio yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad. Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn ystod 2018-19, ac os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau. Er eingraifft yn ystod 2018-19, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3.5% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn .

Defnyddir y symbolau canlynol yn y datganiad hwn:

r     Mae’r gwerth hwn wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn
p    Mae'r gwerth hwn yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ffigur 2.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn dod i rym. Mae Ffigur 2.1 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Ar ddiwedd 15 Gorffennaf 2019, roedd 14,500 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u cofnodi oedd â dyddiad dod i rym ar gyfer Ebrill i Fehefin 2019, gyda nifer bach o hysbysiadau pellach yn debygol o gael eu derbyn.
     
  • Yn Ebrill i Fehefin 2019, roedd 90% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 10% yn rhai amhreswyl, canrannau tebyg i chwarteri blaenorol.

Ffigur 2.2  Treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 2.2 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Ar ddiwedd 15 Gorffennaf 2019, roedd £47.8 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym ar gyfer Ebrill i Fehefin 2019. Mae hyn yn cynnwys £10.4 miliwn mewn treth oedd yn ddyledus am drafodiadau amhreswyl, y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yma.
     
  • Gall fod effeithiau tymhorol yn lefelau'r trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus. Felly gall cymharu data Ebrill a Mehefin 2019 gyda’r un cyfnod yn 2018 fod o gymorth. O gymharu data mis Ebrill a mis Mehefin 2019 gyda'r un cyfnod yn 2018, cafodd gostyngiad yn y dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus ei wrthbwyso gan gynnydd yn y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, gan arwain at ychydig iawn o wahaniaeth yn y swm yn ei gyfanrwydd.
     
  • Y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer 2018-19 oedd £226.6 miliwn.Mae hwn wedi'i ddiwygio am i lawr fymryn ers ein cyhoeddiad blaenorol ym mis Mehefin 2019 pan oedd y ffigur yn £226.9 miliwn. Mae'r gostyngiad hwn oherwydd bod ad-daliadau cyfraddau uwch wedi'u talu yn ystod y mis diwethaf (ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch a ddaeth i rym yn ystod 2018-19).

Ffigur 2.3  Gwerth a briodolir i eiddo sy’n agored i Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 2.3 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y chwarter a’r flwyddyn yr oedd y trafodiadau mewn grym.

  • Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ebrill i Fehefin 2019 oedd £2.7 biliwn, ychydig yn is nag yn yr un cyfnod yn 2018.
     
  • Ar wahân i hynny, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £213 miliwn yn Ebrill i Fehefin 2019 a £1,284 miliwn yn 2018-19.
     
  • Mae'r ffigur olaf hwn ar gyfer 2018-19 wedi'i ddiwygio i fyny (o £693 miliwn) ers ein cyhoeddiad blaenorol ym mis Mehefin 2019. Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith bod gwell amcangyfrif o werth rhent bellach ar gael. Yn flaenorol, nid oedd y gwerth rhent ar gael ar gyfran o ffurflenni treth a gyflwynwyd gan drethdalwyr ar gyfer 2018-19 oherwydd y ffordd y cai rhai mathau penodol o drafodiadau eu prosesu gan system drethi’r Awdurdod. Fodd bynnag, mae'r Awdurdod bellach wedi cyfrifo’r gwerthoedd hyn drwy ddefnyddio data arall sydd ar y ffurflenni, ac maent yn rhan o'r ffigurau diwygiedig ar gyfer 2018-19. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r dull hwn yn y dyfodol.

Ffigur 2.4  Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Mae Ffigur 2.4 yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mehefin 2019, ar gyfer trafodiadau preswyl a amhreswyl.

  • Mae nifer y trafodiadau yn ôl y mis y daeth y trafodiadau hynny i rym wedi amrywio'n fawr ers mis Ebrill 2018. Gwelwyd niferoedd uwch yn gyffredinol yn ail hanner 2018, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Tachwedd 2018. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod pum dydd Gwener ym mis Tachwedd 2018 (Mae Ffigur 10.8 yn adran 10 o'r ein datganiad blynyddol yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener).
     
  • Ym mis Mawrth 2019, cafwyd cynnydd ers y mis blaenorol mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn i’w ddisgwyl, gan ei bod yn gyffredin i lesoedd amhreswyl gael eu hadnewyddu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
     
  • Roedd niferoedd misol y trafodiadau ym mis Ebrill i Fehefin 2019 ar lefel weddol debyg i'r un cyfnod yn 2018.

Ffigur 2.5  Treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl mis dod i rym

Mae Ffigur 2.5 yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mehefin 2019, ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Fel y gellir disgwyl, mae tueddiadau tebyg i’w gweld yn y dreth oedd yn ddyledus yn fisol ag y gwelir yn nifer misol y trafodiadau.
     
  • Fodd bynnag, mae'r gymhariaeth hon yn fwy anwadal wrth ystyried trafodiadau amhreswyl yn unig.
     
  • Mae'r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau amhreswyl hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus na’r gyfran o nifer y trafodiadau. Mae'r un peth yn wir am y refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Ffigur 2.6  Trafodiadau yn ôl y math o drafodiad, Ebrill i Fehefin 2019

Mae Ffigur 2.6 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Ebrill i Fehefin 2019. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn ystod Ebrill i Fehefin 2019 yn £2.5 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.6).
     
  • Roedd trawsgludo neu drosglwyddo perchenogaeth i gyfrif am y rhan fwyaf o’r trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd yn Ebrill i Fehefin 2019. 94% oedd y ffigur hwn ar gyfer trafodiadau preswyl a 70% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.
     
  • Rhoddwyd les newydd mewn 26% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 2% o drafodiadau preswyl).
     
  • Gwelir canrannau tebyg ar gyfer y pedwar cyfnod chwarterol yn 2018-19 hefyd.

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Ffigur 3.1  Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ffigur 3.2  Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

  • Mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol ar gyfer pob band treth, o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae chwe band treth preswyl ac mae'r tri band mwyaf wedi’u cyfuno yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo gyda phris prynu o fwy na £400,000.
     
  • Gellir gweld tueddiadau tebyg ar gyfer y bandiau treth o ran nifer y trafodiadau a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae'r rhan fwyaf o'r bandiau treth yn dangos uchafbwynt o ran nifer y trafodiadau a’r dreth oedd yn ddyledus yn ystod Hydref i Ragfyr 2018.
     
  • Fodd bynnag, mae mwy o ansefydlogrwydd yn y tueddiadau wrth ystyried y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo yn y bandiau gwerth uwch.

Ffigur 3.3  Nifer y trafodiadau preswyl a’r dreth sy'n ddyledus ar yr eiddo hwnnw, yn ôl band treth preswyl, Ebrill i Fehefin 2019

Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ebrill i Fehefin 2019.

  • Roedd bron i ddwy ran o dair o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000 yn 0%, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am bron i bumed ran o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.
     
  • Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 4% yn unig o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 30% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus.

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Ffigur 4.1  Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ffigur 4.2  Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

  • Mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos roedd 1,400 o drafodiadau amhreswyl hysbysadwy a gofnodwyd, mewn grym yn Ebrill i Fehefin 2019, gyda threth o £10.4 miliwn yn ddyledus.
     
  • Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae dros hanner y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob cyfnod o dri mis, mae rhwng 10% a 20% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl.

Ffigur 4.3  Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth, Ebrill i Fehefin 2019

Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ebrill i Fehefin 2019.

Ffigur 4.4  Treth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth, Ebrill i Fehefin 2019

Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ebrill i Fehefin 2019.

  • Mae Ffigur 4.3 yn dangos yn Ebrill i Fehefin 2019, 4% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn, er mai roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 54% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).
     
  • Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos bron un rhan o bedwar o drafodiadau amhreswyl, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).
     
  • Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am bron un rhan o bump o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

5. Rhyddhadau

Gellir hawlio rhyddhad ar eiddo preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi sawl rhyddhad ar un trafodiad a gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus i sero (a elwir yn rhyddhad llawn) neu o ganran neu swm penodol (a elwir yn rhyddhad rhannol).

Ffigur 5.1  Nifer y trafodiadau a ryddhawyd, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [1]

Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

  • Mae Ffigur 5.1 yn dangos bod 280 o drafodiadau nad oeddent yn drafodiadau cysylltiol yn Ebrill i Fehefin 2019 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus.
     
  • Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 100 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus, ac nid yw’r rhain yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth. Er enghraifft, mae rhai o'r rhain yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.
     
  • Mae'r enghraifft hon hefyd yn disgrifio rhai addasiadau a wnaed er mwyn nodi’n fwy cywir werth y dreth a ryddhawyd sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn. Disgwylir mwy o addasiadau yn y dyfodol; ac felly rydym yn disgwyl diwygio'r eitem olaf hon yn Ffigur 5.1 yn y dyfodol.

Ffigur 5.2  Treth a ryddhawyd, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [1]

Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

  • Mae Ffigur 5.2 yn dangos fod cyfanswm gwerth y rhyddhadau a gafodd eu hawlio ym mis Ebrill i Fehefin 2019 ar gyfer trafodiadau nad oedd yn drafodiadau cysylltiol yn £4.7 miliwn. Mae hyn yn sylweddol is nag mewn unrhyw gyfnod o dri mis blaenorol, yn ôl i Ebrill 2018.
     
  • Ar gyfer pob cyfnod o dri mis rhwng Ebrill a Mehefin 2018, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Fodd bynnag, mae cyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd wedi bod yn fwy yn gyffredinol ar gyfer trafodiadau amhreswyl nag ar gyfer trafodiadau amhreswyl (heblaw am fis Ebrill i Fehefin 2019).

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Ffigur 6.1  Nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Pan fydd ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan yr Awdurdod hyd at a chan gynnwys 15 Gorffennaf 2019.

Mae Ffigur 6.1 yn dangos bod 950 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn ystod 2018-19, gyda £7.3 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr. Mae'r gwerthoedd hyn wedi'u diwygio i fyny ers ein cyhoeddiad blaenorol ym mis Mehefin 2019.

Gan fod hyd at dair blynedd i drethdalwyr werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad, bydd y data hwn ar gyfer 2018-19 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol (gyda gostyngiad felly yng nghyfanswm y dreth a ddangosir mewn tablau eraill).

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2019 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Data ychwanegol ar ad-daliadau cyfradd uwch

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan yr Awdurdod. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn, a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol hefyd, ar wefan StatsCymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, yn Nhabl 6A o'n hystadegau misol a chwarterol.

Caiff y data ychwanegol hyn eu darparu, yn bennaf, er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

7. Treth a dalwyd

Ffigur 7.1  Treth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod

Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Fehefin 2019.

  • Yn 2018-19, derbyniodd yr Awdurdod £220.2 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Mae'r ffigurau hyn yn llai na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.2 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd mewn gwirionedd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'), yn hytrach na'r symiau oedd yn ddyledus ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.
     
  • Yn fwyaf arbennig, mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018, gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd yr Awdurdod gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.
     
  • Ar ôl Ebrill 2018, cynyddodd y derbyniadau yn gyffredinol hyd Awst 2018, a dilynwyd hynny gan gyfnod o sefydlogrwydd cymharol tan Chwefror 2019 a welodd y ffigur isaf ers mis Ebrill 2018. Yna cododd derbyniadau misol i mewn i fis Mawrth 2019 ond maent wedi gostwng ychydig ers hynny, ac mae'r data ar gyfer Mehefin 2019 yn debyg i'r data ar gyfer Mehefin 2018.

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Mae'r atodiad hwn yn edrych ar effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Mae'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis penodol yn cael eu dadansoddi yma ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus. Er enghraifft, cyhoeddwyd tri amcangyfrif ar gyfer mis Ebrill 2019. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 24 Mai 2019, yr ail amcangyfrif ar 27 Mehefin 2019 a'r trydydd amcangyfrif ar 25 Gorffennaf 2019.

Ffigur A1  Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Mae Ffigur A1 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn nifer y trafodiadau a'r newid yn y dreth oedd yn ddyledus.

Mae Ffigur A1 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd yr Awdurdod gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data. Fodd bynnag, mae’r ffigwr o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (10%). Yr esboniad yw nad oedd yr Awdurdod wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill).

Mae Ffigur A1 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers Hydref 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod rhwng 0 a 3%. Mae’n debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system, ac mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at yr Awdurdod dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar y data. Er enghraifft, diwygiwyd mwy ar amcangyfrifon Gorffennaf na’r misoedd o’i gwmpas. Ond, bydd angen i ni gael o leiaf flwyddyn arall o ddata i asesu unrhyw faterion tymhorol sy’n gysylltiedig â’r data.

Gwnaed diwygiad am i lawr i'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus ar gyfer Ebrill 2019 (rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail). Cafodd trafodiad amhreswyl a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019 ei nodi'n anghywir fel un mawr a chafodd ei ddiwygio’n ddiweddarach.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’n hystadegau misol a chwarterol, mae Tablau 1 a 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Cynnydd cymharol fach a welwyd rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis penodol. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym, ac maent yn cael eu dadansoddi yn y prif ddatganiad ystadegol Treth Trafodiadau Tir sy’n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r Atodiad hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf rhyw fis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir er mwyn cyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, mae modd gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Ystadegau cryno

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Rhestr termau