Ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi: Gorffennaf i Medi 2024
Y datganiad ystadegol chwarterol ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi a gyhoeddir gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'r data’n cynnwys y pwysau a’r dreth sy'n ddyledus ar wastraff sy'n cael ei waredu i safleoedd tirlenwi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi, a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth. Diben y dreth yw lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau treth sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19 i 2024-25.
Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net.
Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Gwarediadau Tirlenwi i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mae'r eirfa yn diffinio termau perthnasol a ddefnyddir yn y datganiad hwn ac mae wedi'i diweddaru yn y rhifyn hwn o'r datganiad. Mae ein gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.
Prif bwyntiau
Nid yw'r holl ddadansoddiadau yn y datganiad hwn yn cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi. Hyd yma, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu swm bach o dreth yn ymwneud â gwarediadau heb eu hawdurdodi. Yn y datganiad hwn, gwnaethom ystyried a allem gyhoeddi ystadegau ar y gwarediadau heb eu hawdurdodi hyn. Fodd bynnag, oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yma, nid yw'n bosibl ar hyn o bryd. Yn y dyfodol byddwn yn parhau i adolygu ein dull o gyhoeddi ystadegau ar warediadau heb eu hawdurdodi, wrth i’r sefydliad barhau i dderbyn achosion newydd a datblygu achosion o warediadau heb eu hawdurdodi sydd eisioes ar y gweill.
O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Gorffennaf i Fedi 2024:
- Bu 260 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn gostnygiad o 25% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023. Dylanwadwyd ar hyn yn bennaf gan ostyngiadau mewn gwarediadau cyfradd safonol a gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio, wedi’u gwrthbwyso ychydig gan gynnydd mewn gwarediadau cyfradd safonol. Er i’r gwarediadau cyfradd safonol godi ers y flwyddyn cynt, maent yn parhau i fod yn is na'r un cyfnod yn y blynyddoedd cyn hynny.
- Ymhlith y rhesymau posibl am y duedd hon mae:
- effeithiau polisi amgylcheddol sy’n annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff megis ailgylchu a llosgi
- amrywioldeb yng nghyfaint y gwarediadau ar safleoedd penodol lle mae’r celloedd tirlenwi yn llawn neu bron yn llawn, a rhai safleoedd tirlenwi yn nesáu at ddiwedd eu hoes
- Roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £8.7 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma’r 8% yn uwch na’r treth yn ddyledus ar gyfer yr un cyfnod yn 2023.
- Cyfrifodd gronynnau mân am 15% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is, y ffigwr chwarterol isaf ar y cyd a welwyd hyd yma. Roedd pridd a cherrig i gyfrif am 47%, y ffigwr chwarterol uchaf ar y cyd a welwyd hyd yma. Nid yw’n glir a fydd patrwm tymhorol yn dod i’r amlwg yn y data hwn, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn y dyfodol.
- Roedd 5 gweithredwr safle tirlenwi yn cyfrif 97% yr holl dreth yn ddyledus ac roedd y ffigwr hwn hefyd yn uwch na 90% yn y tri chwarter blaenorol. Cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%.
Sylw'r ystadegydd
Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:
Bu cynnydd o 8% yn y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a oedd yn ddyledus am Ebrill i Fehefin, o gymharu â’r yn cyfnod ynghynt. Roedd hyn oherwydd cynnydd mewn gwarediadau cyfradd safonol yn y chwarter diweddaraf.
Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd hwn, mae gwarediadau cyfradd safonol yn parhau i fod yn is na chyfnodau cyn y flwyddyn ddiweddaraf, ac mae’n rhy gynnar i ddweud beth mae hyn yn ei awgrymu ar gyfer y duedd gyffredinol.
Dadansoddiad
Nid yw'r holl ddadansoddiadau yn y datganiad hwn yn cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi. Hyd yma, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu swm bach o dreth yn ymwneud â gwarediadau heb eu hawdurdodi. Yn y datganiad hwn, gwnaethom ystyried a allem gyhoeddi ystadegau ar y gwarediadau heb eu hawdurdodi hyn. Fodd bynnag, oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yma, nid yw'n bosibl ar hyn o bryd. Yn y dyfodol byddwn yn parhau i adolygu ein dull o gyhoeddi ystadegau ar warediadau heb eu hawdurdodi, wrth i’r sefydliad barhau i dderbyn achosion newydd a datblygu achosion o warediadau heb eu hawdurdodi sydd eisioes ar y gweill.
Mae'r dadansoddiad yn y datganiad hwn yn cynnwys rhai cywiriadau ystadegol sydd wedi'u cymhwyso. Mae’r rhesymau pam ein bod yn gwneud cywiriadau ystadegol yn cynnwys:
- Pan fyddwn yn gwybod bod gwybodaeth ar ffurflen dreth yn anghywir a’n bod yn aros i ddiwygiad y trethdalwr gael ei gyflwyno i ni
- Pan fo diwygiad y trethdalwr yn cael ei adolygu gan dîm gweithrediadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i weld a yw'n ddilys, gallwn wneud cywiriadau ystadegol er mwyn dadwneud effaith y diwygiad yn ein hystadegau
Mae Tabl 1 isod yn dangos newidiadau canrannol ar gyfer y chwarter diweddaraf yn erbyn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae rhai newidiadau canrannol yn fawr gan eu bod yn seiliedig ar niferoedd bach, felly mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw newidiadau canrannol mawr a ddangosir.
Pwysau a waredwyd [mil tunnell] - Gor i Med 2023 | Pwysau a waredwyd [mil tunnell] - Gor i Med 2024 [dros dro] | Newid o ran % | |
---|---|---|---|
Cyfradd safonol | 73 | 79 | 9% |
Cyfradd is, of which: | 142 | 146 | 3% |
Deunydd gronynnau mân [nodyn 1] | 67 | 22 | -68% |
Priddoedd a cherrig [nodyn 2] | 28 | 69 | 151% |
Teils, brics, concrid, a serameg [nodyn 2] | 18 | 14 | -24% |
Cyfradd is arall [nodyn 2] | 30 | 42 | 39% |
Rhyddhad neu ddisgownt [nodyn 3] | 56 | 35 | -38% |
Cyfanswm | 272 | 260 | -4% |
Treth yn ddyledus [£ miliwn] - Gor i Med 2023 | Treth yn ddyledus [£ miliwn] - Gor i Med 2024 [dros dro] | Newid o ran % | |
---|---|---|---|
Cyfradd safonol | 7.4 | 8.2 | 10% |
Cyfradd is | 0.5 | 0.5 | 4% |
Cyfanswm | 7.9 | 8.7 | 10% |
Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 4] | 0.2 | 0.1 | -42% |
Treth yn ddyledus [£ miliwn] | ||||
---|---|---|---|---|
Blwyddyn ariannol | Cyfradd is | Cyfradd safonol | Cyfanswm | Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 4] |
2018-19 | 1.5 | 47.1 | 48.6 | 0.9 |
2019-20 | 1.3 | 36.0 | 37.3 | 0.2 |
2020-21 | 1.6 | 30.4 | 32.0 | 0.3 |
2021-22 | 1.8 | 43.3 | 45.1 | 0.3 |
2022-23 | 1.8 | 40.4 | 42.1 | 0.7 |
2023-24 [r] | 1.9 | 27.6 | 29.5 | 0.6 |
2024-25 [to date] [p] | 0.9 | 16.7 | 17.5 | 0.2 |
Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru
[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.
[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.
[Nodyn 3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.
[Nodyn 4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.
Ffigur 1: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos, ers 2018, bod amrywiadau tymhorol wedi’u gweld yn gyffredinol ym mhwysau chwarterol gwarediadau cyfradd safonol, a’r 2 chwarter diweddaraf yn uwch na phob un o'r 5 chwarter blaenorol. Amrywiodd gwarediadau cyfradd is, gan ymddangos fel pe na bai'n dilyn unrhyw batrwm gosodedig, tra bod gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio’n gyffredinol isel ers Ebrill 2019 ac eithrio’r niferoedd cyffredinol uwch a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2022 ac yn ystod 2023.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Mae Tabl 1 yn dangos bod yn Ngorffennaf i Fedi 2024, roedd 260 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 4% yn is na'r un cyfnod yn 2023.
O fewn y cyfanswm hwn, roedd 79 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn 9% yn uwch na'r un cyfnod yn y blwyddyn ynghynt. Er gwaethaf hyn, mae'n parhau i fod yn is na'r un cyfnod ddwy flynedd ynghynt. Mae'r rhesymau posibl dros y gostyngiad cyffredinol o uchafbwyntiau diweddar yn 2021 a 2022 yn cynnwys:
- effeithiau polisi amgylcheddol sy’n annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff megis ailgylchu a llosgi
- amrywioldeb yng nghyfaint y gwarediadau ar safleoedd penodol lle mae’r celloedd tirlenwi yn llawn neu bron yn llawn, a rhai safleoedd tirlenwi yn nesáu at ddiwedd eu hoes
Mae tîm gweithrediadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi’n parhau i ymgysylltu â gweithredwyr safleoedd tirlenwi er mwyn deall y rhesymau dros dueddiadau ac i gefnogi sylwebaeth yn y dyfodol.
Roedd y 1465 mil o dunelli a waredwyd ar y gyfradd is 3% yn uwch nag yn Ngorffennaf i Fedi 2023. Mae'r esboniad o dan Ffigurau 3 and 4 yn dadansoddi'r categorïau o fewn data cyfradd is sy'n cyfrannu at y duedd hon.
Yn Ngorffennaf i Fedi 2024, roedd y 25 mil tunnell o warediadau wedi’u rhyddhau neu disgowntio yn uwch na'r chwarter blaenorol ond yn is na'r 4 chwarter cyn hynny. Mae lefel y gwastraff sydd wedi ei ryddhau neu ei ddisgowntio wedi amrywio'n fawr dros amser. Er enghraifft, pan ddaw cell dirlenwi’n llawn, gallai fod lefel uwch dros dro o ryddhad adfer safle yn cael ei hawlio gan y gweithredwr ar gyfer deunyddiau i gapio'r gell. Felly, nid yw'n syml pennu a fydd symiau tebyg o wastraff wedi'i ryddhau neu ddisgowntio yn codi neu'n gostwng yn y dyfodol.
Ffigur 2: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter
[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 at £8.7 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae hyn 10% yn iuwch na'r un cyfnod yn 2023. Roedd y duedd hon yn bennaf oherwydd y cynnydd o 9% ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol dros yr un cyfnod. Disgrifir y tueddiadau ym mhwysau'r gwastraff a waredwyd a rhai rhesymau posibl am hyn yn Ffigur 1.
Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau.
Ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024, roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 97% yr holl dreth a dalwyd, y ganran chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Hyd at Gorffennaf i Fedi 2023, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%, ond o Hydref i Ragfyr 2023, mae wedi aros dros 90%.
Nid yw’r swm treth a ryddhawyd yn cael ei ddangos ar y siart ond mae wedi amrywio o ychydig iawn hyd at £0.3 miliwn bob chwarter. £0.1 miliwn oedd y gwerth hwn yn Gorffennaf i Fedi 2024.
Diwygiadau i bwysau’r gwastraff a warediwyda’r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024
Fel y disgrifir yn adran Dulliau'r datganiad hwn, mae ein prosesau amcangyfrif yn arwain at ddiwygio amcangyfrifon dros dro a wnaethpwyd ar gyfer y chwarter diweddaraf fel mater o drefn yn rhifyn nesaf y datganiad ystadegol. Fel arfer, mae'r diwygiadau hyn yn gymharol fach.
O’i gymharu ag amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn ein datganiad ystadegol blaenorol, rydym wedi diwygio data Ebrill i Fehefin 2024 fel a ganlyn:
- pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd safonol wedi’i ddiwygio i lawr o 83 mil tunnell i 81 mil tunnell.
- pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is wedi'i ddiwygio i lawr o 115 mil tunnell i 111 mil tunnell.
roedd cyfanswm y dreth a oedd ddyledus wedi’i ddiwygio i lawr o £9.0 miliwn i £8.8 miliwn.
Ffigur 3: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos bod, gostyngodd pwysau’r deunydd gronynnau mân a waredwyd ym mhob un o'r pedwar chwarter diwethaf i’r y ffigwr chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn Ngorffennaf i Fedi 2024. Roedd pwysau'r priddoedd a'r cerrig a waredwyd yn sylweddol uwch nag yn yr un chwarter flwyddyn ynghynt a hwn oedd y ffigwr chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Mae ‘cyfradd is arall’ wedi tyfu dros y tair blynedd diwethaf o gyfraniad bychan i fod yr ail gategori uchaf y chwarter hwn, tra bod ‘concrit, brics, teils a serameg’ y categori isaf o hyd.
Ffigur 4: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill i Fehefin 2024, bod canran y pwysau cyfradd is a gyfrifwyd fel deunydd gronynnau mân oedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yn hyn. Ar gyfer prioedd a cherrig, roedd y gwerth pwynt canran y canran oedd bron hanner, y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yn hyn. Ar gyfer ‘cyfradd is arall’, roedd y ganran y gwerth chwarterol ail uchaf a welwyd hyd yn hyn.
Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru
[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler y tudalen geirfa am ragor o wybodaeth.
[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Roedd Tabl 1 yn gynharach yn y datganiad yn dangos bod 22 mil tunnell o ddeunydd gronynnau mân wedi'i waredu Gorffennaf i Fedi 2024 ar y gyfradd dreth is. Mae hyn 68% yn is na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol a'r gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yn hyn. Rydym yn disgwyl fod o leiaf rhywfaint o'r gostyngiad hwn mewn deunydd gronynnau mân yn effaith dros dro mewn rhai safleoedd.
Ar gyfer pwysau priddoedd a cherrig a waredwyd ar y gyfradd dreth is, bu cynnydd o 151% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, hefyd i 69 mil o dunelli, y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yn hyn.
Ers Ebrill 2021, mae Ffigur 4 yn dangos bod canran chwarterol y gwastraff cyfradd is sy’n ronynnau mân yn amrywio o 15% i 48%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn y chwarter hwn ac Ebrill i Fehefin 2021 yn y drefn honno.
Ers Ebrill 2021, roedd canran chwarterol y gwastraff cyfradd is oedd yn briddoedd a cherrig yn amrywio o 19% i 47%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2023 y chwarter hwn yn y drefn honno.
Cododd yn ngyffredinol canran y gwarediadau cyfradd is a ddosbarthwyd fel ‘arall’ o 3% yn Ebrill i Fehefin 2021 i 28% yn Ngorffennaf i Fedi 2024, y gwerth chwarterol ail uchaf a welwyd hyd yn hyn. Mewn datganiadau yn y dyfodol, mae’n debygol na fyddwn yn gallu rhoi mwy o fanylion am y categori hwn. Mae hyn oherwydd heriau o ran datgelu gwybodaeth posibl am weithredwyr unigol.
Gyda dim ond ychydig o flynyddoedd o ddata hyd yn hyn, nid yw'n glir a fydd unrhyw batrymau tymhorol yn y ganran hon. Byddwn yn parhau i fonitro hyn mewn datganiadau yn y dyfodol.
Cod Rhestr Wastraffoedd | Disgrifiad | Canran |
19 12 12 | Gwastraff arall (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddiol ar wahân i'r hyn sy'n 19 12 11 | 80% |
19 12 09 | Mwynau (e.e. tywod, cerrig) | 20% |
17 05 04 | Pridd a cherrig ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 03 | 0% |
Yn blaenorol, rydym wedi derbyn cais i ddadansoddi data ar gyfer deunydd gronynnau mân cyfradd is yn ôl cod Rhestr Wastraffoedd. Yna gwnaethom ddechrau cyhoeddi’r tabl hwn yn rhifyn Hydref i Ragfyr 2022 y datganiad hwn. Yn y datganiadau ers, rydym wedi diweddaru'r canrannau bras hyn i gynnwys data ar gyfer y chwarter diweddaraf, ni arweiniodd hyn at unrhyw newid yn y canrannau. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r canrannau hyn mewn modd debyg yn y dyfodol.
Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Hefyd, rydym yn cyhoeddi data derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar StatsCymru. Mae data hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.
Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru
Mae'r data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Yn gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol. Bydd data derbyniadau arian:
- yn cynnwys symiau bach iawn o gosbau a llog a dalwyd mewn perthynas â Threth Gwarediadau Tirlenwi
- ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion
Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi
Yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y dudalen bigion, mae Tabl 3 yn cynnwys manylion yr addasiadau a wnaed er mwyn adlewyrchu gwastraff a waredwyd mewn un flwyddyn ond y rhoddwyd cyfrif amdano mewn blwyddyn wahanol yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru.
Rydym yn diweddaru Tabl 3 yn flynyddol yn rhifyn y datganiad sy'n dilyn cyhoeddi cyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru. Cyhoeddwyd cyfrifon 2023-24 ym mis Medi 2024 felly rydym wedi diweddaru Tabl 3 y daenlen yn y rhifyn hwn.
Gall gwahaniaethau rhwng blynyddoedd gwaredu a blynyddoedd cyfrifo ddigwydd pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn rhoi gwybod am welliant trethdalwr i’r gwarediadau. Mewn rhai sefyllfaoedd gall y gwelliannau hyn gael eu derbyn, neu arwain at ymholiad, ac wedi hynny gellir eu cadarnhau, eu gwrthod neu wrthdroi'r gwelliant (os oedd wedi'i dderbyn yn flaenorol). Gall yr holl senarios hyn arwain at addasiadau cyfrifyddu. Gall y sefyllfa gael ei chymhlethu ymhellach gan apêl I’r tribiwnlys ac at oedi pellach o ran cyfrifyddu. Gellir gwneud addasiadau cyfrifyddu pan fo ansicrwydd a fydd treth yn ddyledus yn y pen draw, cyn i ganlyniad unrhyw apêl i’r tribiwnlys gael ei benderfynu.
Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn
Amcangyfrifon ar gyfer gweithredwyr sydd â chyfnodau cyfrifyddu ansafonol
Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.
Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.
Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:
- mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol.
Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.
A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.
C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.
Rhyddhad a disgowntiau
Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.
Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.
Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym wedi ychwanegu gwybodaeth newydd am y rhesymau dros y gwahaniaethau rhwng y data o ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi a data a’r data a gesglir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff i mewn ac allan o safleoedd gwastraff trwyddedig. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer gwastraff wedi'i ryddhau.
Ansolfedd cwsmer
Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.
Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.
Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.
Gwarediadau esempt
Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.