Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 14 Mehefin 2021 a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 6 Mehefin 2021.

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC)

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Mai 2021.

  • Ar 31 Mai 2021, roedd 88,500 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 7% - ychydig yn is na’r gyfradd derbyn ledled y DU sydd yn 8%.
  •  Roedd gostyngiad o 34% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng 30 Ebrill ac 31 Mai 2021, ac mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo ar y lefel isaf ers i’r gyfres amser dechrau ar 1 Gorffennaf 2020.
  • Roedd 43,700 o fenywod a 44,800 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Mai 2021.
  • Roedd cyfradd y niferoedd sy'n manteisio ar gyflogaethau ar ffyrlo ledled Cymru yn amrywio o 6% i 10%.

Nodyn

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Mai 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 14 Mehefin 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Mai yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH)

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am bedwerydd grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) a agorodd ar gyfer hawliadau ar 22 Ebrill 2020 a chaeodd ar 1 Mehefin 2020.

  • Hyd at 6 Mehefin 2021, cafwyd 77,000 o hawliadau llwyddiannus ar gyfer y pedwerydd CCIH yng Nghymru, sef 55% o’r boblogaeth gymwys.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru hyd at 6 Mehefin 2021 oedd £203 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn y maes adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r holl hawliadau (32%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.