Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford y caiff cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach ei gyflwyno o 1 Ebrill 2018.
Bydd y cynllun parhaol newydd yn cyfyngu ar nifer yr eiddo sy'n gymwys am gynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i ddau fusnes ym mhob awdurdod lleol, gan atal busnesau mwy a chadwyni cenedlaethol rhag elwa ar y cynllun.
Bydd hyn yn caniatáu i ryddhad gael ei dargedu'n fwy effeithiol i gefnogi busnesau bach a lleol ac yn rhyddhau £7m i'w ail-fuddsoddi mewn busnesau bach.
Yn ogystal â darparu cymorth o fwy na £110m i fusnesau bach yng Nghymru bob blwyddyn, bydd y cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach (SBBR) hefyd yn darparu:
- Cymorth ychwanegol ar gyfer y sector gofal plant, gan gynyddu'r trothwy uchaf ar gyfer rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant o £12,000 i £20,500.
- Cymorth wedi'i dargedu ar gyfer prosiectau ynni dŵr bach, yn unol â’t cytundeb ar y gyllideb â Phlaid Cymru.
- £5m i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi dros dro ar gyfer y Stryd Fawr i 2018-19;
- £1.3m yn ychwanegol i'r awdurdodau lleol ar gyfer 2018-19, er mwyn iddynt ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i ddarparu rhyddhad wedi'i dargedu i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa fwyaf ar gymorth ychwanegol.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Rwyf eisoes wedi nodi fy mwriad i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach o 1 Ebrill 2018.
“Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i fusnesau bach yng Nghymru, gan ddarparu toriad treth i fusnesau i yrru twf economaidd hirdymor. Rwy'n falch o gyhoeddi manylion y cynllun parhaol heddiw.
“Eleni, rydym wedi rhoi cymorth gwerth mwy na £110m i'w helpu i dalu eu biliau. Bydd ein cynllun parhaol, a fydd ar waith o 1 Ebrill, yn cadw'r lefel hon o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
“Yn unol â'n hegwyddorion treth, bydd y cynllun parhaol newydd yn targedu'r cymorth yn fwy effeithiol tuag at y busnesau hynny a fydd ar eu hennill fwyaf - gan gefnogi swyddi a thwf a darparu manteision ehangach i'n cymunedau lleol.
“Mae'n fwriad gennyf arddel dull gweithredu blaengar, teg a thryloyw tuag at drethi lleol yng Nghymru, sy'n parhau i ddarparu cyllid hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol.
“Mae darparu cynllun parhaol ar gyfer busnesau bach yn gam allweddol wrth gyflawni hyn.”
Mae newidiadau i gynllun SBRR yn cael eu cyflwyno yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun parhaol yn yr hydref.