Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith hanfodol i osod uniadau newydd ar Draphont Glanconwy wrth gyffordd 19 ar yr A55 wedi'i aildrefnu ar gyfer diwedd y mis.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros y 30 mlynedd diwethaf, amcangyfrifir bod dros 370 miliwn o gerbydau wedi teithio dros yr uniadau hyn ers i’r draphont gael eu hagor ym 1991. Mae'r uniadau ehangu mawr ym mhen dwyreiniol y bont wedi treulio erbyn hyn a rhaid rhoi gosod rhai newydd yn eu lle.

Gan ddechrau ar 15 Ionawr, disgwylir i'r uniadau ddechrau ar eu taith i’r safle adeiladu yn ystod y pythefnos nesaf, a disgwylir i'r gwaith ddechrau ddydd Gwener 29 Ionawr. Er mwyn cadw defnyddwyr y ffordd a'r gweithlu'n ddiogel, mae’n bosibl y bydd y Draphont uwchben cyffordd 19 yn cael ei chau am hyd at bythefnos, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio drwy'r gylchfan a'r ffyrdd ymuno ac ymadael islaw.

Gwelwyd oedi anochel cyn i’r uniadau gyrraedd porthladd Felixstowe ac ers hynny, cafwyd problemau yn y porthladd ei hun.

Mae’n bosibl y bydd y prosiect yn dal i gyd-fynd â'r cyfnod presennol o gyfyngiadau symud, lle mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn golygu bod gofyn i bobl aros gartref gymaint â phosibl, gan wneud teithiau hanfodol yn unig.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen fwy i adnewyddu uniadau ehangu ar bontydd. Ar ôl i’r cynllun hwn gael ei gwblhau, bydd gwaith yn dechrau ar Draphont Afon Ceiriog ar yr A5 ddydd Llun, 22 Chwefror ac ar Draphont Goat Inn ar yr A55 (Cyffordd 15 i 16) ddydd Gwener, 5 Mawrth. Fodd bynnag, os bydd rhagor o oedi, mae’n bosibl y bydd y dyddiadau hynny’n newid hefyd.

Ychwanegodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Ar ôl i brosiectau ar ein rhwydwaith ffyrdd gael eu hatal dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae angen inni bellach fwrw ’mlaen â gwaith pwysig i gadw’r A55 yn ddiogel.

"Mae'n rhaid inni wneud y gwaith adnewyddu hanfodol hwn ar Bont Glan Conwy ger cyffordd 19 ar yr A55. Bwriedir i’r gwaith hwnnw bara hyd at bythefnos. Gan fod oedi'n bosibl, byddwn yn eich annog i gynllunio unrhyw deithiau hanfodol yn ofalus ac i droi at wefan Traffig Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

"Mae'r uniadau ehangu mawr ym mhen dwyreiniol y bont wedi cyrraedd diwedd eu hoes a rhaid eu newid ar frys er mwyn cadw modurwyr yn ddiogel ac osgoi'r angen i gau’r bont yn ddisymwth.

"Dydyn ni ddim yn cau cerbytffyrdd yn llwyr oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, ond y peth pwysicaf yw cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac mae angen gwneud y gwaith hwn er mwyn sicrhau hynny.

"Bydd y tîm penodedig yn gweithio mewn sifftiau 24 awr y dydd, a hoffen ni annog modurwyr i fod yn amyneddgar. Gofynnir ichi aros ar yr A55 ac i osgoi ffyrdd lleol er mwyn sicrhau bod traffig yn llifo mor rhwydd â phosibl.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith arfaethedig i’w gweld ar wefan Traffig Cymru. Mae cyngor ac awgrymiadau ar sut i wneud yn siŵr bod eich car mewn cyflwr iach i’w gweld o dan adran y modurwyr: Amddiffyn eich hun ag eraill rhag y coronafeirws.

Dilynwch Traffig Cymru ar Twitter: @TraffigCymruG  @TrafffigCymruD