Neidio i'r prif gynnwy

Roedd cynlluniau ar gyfer Gorsaf Rheilffordd Parcio a Theithio newydd ar y Brif Linell yn Llaneirwg wedi symud cam yn eu blaen heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr orsaf, a fyddai'n rhan o Fetro ehangach De Cymru, yn cynnig gwasanaeth cyrraedd a theithio tua 8 munud i ffwrdd o Gaerdydd neu Gasnewydd. Byddai'r cyfleuster parcio a theithio yn agos i draffordd yr M4 sydd hefyd yn golygu y bydd llai o geir yn teithio i ganol ein dinasoedd. Fel rhan o'r bartneriaeth newydd, bydd Llywodraeth Cymru yn dod yn rhanddeiliad ac yn fuddsoddwr yn South Wales Infrastructure Limited, sef menter ar y cyd gydag Investec a'r dynion busnes Nigel ac Andrew, a bydd Llywodraeth Cymru ac Investec yn darparu'r un faint o gyllid ar gyfer y cam datblygu nesaf.

Yr amcan yw cyflwyno cais cynllunio yn ystod yr haf eleni, a bydd disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2020. Yr uchelgais yw y bydd trenau sy'n teithio i Abertawe, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llundain, Bryste a Birmingham yn galw yno.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Dyma brosiect cyffrous ac rydyn ni yn Llywodraeth Cymru yn falch iawn o fod yn rhan ohono. Mae'n enghraifft wych o'r Llywodraeth a'r sector preifat yn dod ynghyd i edrych ar sut y gallwn sicrhau gwell seilwaith i'r rheilffyrdd gan greu swyddi o ansawdd ar yr un pryd. Yn ogystal â'r manteision dydd i ddydd i deithwyr, bydd hefyd yn helpu i reoli traffig a lleihau llygredd aer a sŵn yng nghanol Caerdydd gan wella mynediad drwy drafnidiaeth gyhoeddus i'r rheini yn ardal Llaneirwg. Mae hefyd yn gyfleuster pwysig o ran y nifer cynyddol o ddigwyddiadau mawr sy'n cael eu denu i'n prifddinas a'r ardal o'i hamgylch. Mae potensial y datblygiad hwn yn enfawr"

Dywedodd Nigel Roberts, Cadeirydd South Wales Infrastructure Limited:

"Braf iawn yw cael gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect trawsnewidiol hwn ochr yn ochr ag Investec sydd wedi dangos gymaint o hyder yn y buddsoddiad mawr hwn a fydd yn cael effaith hynod gadarnhaol ar brifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar ei gorau pan fo gwell gan bobl ei defnyddio nag unrhyw gyfrwng arall a byddwn yn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael profiadau gwych. Rydym yn cydnabod brwdfrydedd Network Rail a phob rhanddeiliad arall yn hynny o beth"

Ychwanegodd David van der Walt, Prif Swyddog Gweithredol Investec:

"Rydym yn bendant y bydd y datblygiad yn allweddol i'r economi ranbarthol ac yn rhan bwysig o fywyd dinesig. Mae'r ffordd y mae ein partner newydd yn hyrwyddo pwysigrwydd strategol y cynllun hwn yn hwb mawr i dîm y prosiect i godi momentwm a helpu'r cwmni i wireddu ei uchelgais a sicrhau manteision heb unrhyw oedi.  Mae Investec yn croesawu Llywodraeth Cymru i'r fenter ar y cyd hon"