Mae'r adroddiad yn monitro tueddiadau yn y sector atyniadau twristiaeth yn 2018 er mwyn darparu dealltwriaeth well o’r sector i sefydliadau diwydiant a sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth
Prif ganfyddiadauGwnaed 22.2 miliwn o ymweliadau ag atyniadau yng Nghymru a gymerodd ran yn arolwg 2018. Roedd 61% o'r ymweliadau yn ymwneud ag atyniadau am ddim ac roedd 39% yn ymwneud ag atyniadau â thâl. Roedd y 23 atyniad mwyaf poblogaidd yn rhoi cyfrif am bron i hanner yr holl ymweliadau a gofnodwyd yn 2018. Cafodd amgueddfeydd ac orielau celf ac atyniadau bywyd gwyllt / gwarchodfeydd natur y gyfran uchaf o ymweliadau ar y cyfan (sef 25.4% a 22.2%) i gymharu â mathau o atyniadau eraill. Roedd bron i hanner o’r ymwelwyr ag atyniadau a gymerodd ran yn ymwelwyr lleol, gyda phedwar ym mhob deg yn dod o weddill y DU a thuag un ym mhob deg o wledydd tramor. Cymhariaeth 2017 â 2018Ymysg yr atyniadau a chymerodd rhan yn 2017 a 2018, gwelwyd cynnydd o 4.4% yn nifer yr ymweliadau ar gyfartal. Gwelwyd cynnydd o 9.2% â’r atyniadau am ddim, tra bo ymweliadau ag atyniadau â thâl wedi gostwng 1.4%. Nododd bron i hanner yr atyniadau a gymerodd ran gynnydd mewn refeniw gros yn 2018 o’i gymharu â 2017. Cofnodwyd ychydig mwy na un ym mhob tri bod eu refeniw’n debyg, a’r gweddill wedi nodi gostyngiad o’r un flwyddyn i’r llall. Cynyddodd ymweliadau â safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru 9.8% o un flwyddyn i’r llall, gyda chynnydd mawr hefyd yn amlwg ar gyfer atyniadau mewn perchnogaeth breifat ac eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gwybodaeth bellachI gymryd rhan, cysylltwch â'r adran ymchwil twristiaeth drwy anfon e-bost at ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru. |
Adroddiadau
Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.