Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio'r system apelio ar gyfer ardrethu annomestig rhwng 17 Hydref 2017 a 9 Ionawr 2018. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried gwahanol agweddau ar y system yng Nghymru a rhoi eu barn ar newidiadau posibl i'r agweddau canlynol:

  • gwella'r broses apelio
  • cofrestru ar gyfer y broses apelio
  • cyfnodau amser ar gyfer pob cam
  • darparu gwybodaeth
  • ôl-ddyddio apelau
  • dirwy (cosbau sifil)
  • ffioedd apelio
  • rôl Tribiwnlys Prisio Cymru.

Un o'r negeseuon allweddol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad oedd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau hanner ffordd drwy restr ardrethu annomestig (rhwng ailbrisiadau) ac mai’r amser a ffefrid ar gyfer gwneud newidiadau fyddai’r rhestr newydd nesaf, a oedd ar y pryd wedi’i chynllunio ar gyfer 1 Ebrill 2021. O ganlyniad i bandemig y coronafeirws, mae'r ailbrisiad nesaf wedi'i aildrefnu i 1 Ebrill 2023.

Ar 29 Mawrth 2022, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi annomestig yn ystod tymor y Senedd bresennol. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i symud tuag sefyllfa o ailbrisio’n amlach. Bydd newidiadau i'r system apelau, a ategir drwy fabwysiadu'r platfform digidol a ddarperir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer Cymru, yn dull allweddol o alluogi’r amcan hwn, gan sicrhau bod trethdalwyr yng Nghymru yn elwa ar welliannau parhaus.

Ymgynghoriad technegol yw hwn ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 drafft ("y Rheoliadau drafft"), a fydd yn darparu ar gyfer mabwysiadu platfform digidol Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer Cymru, ynghyd â nifer bach o newidiadau ychwanegol i'r trefniadau ar gyfer apelau i'r Tribiwnlys Prisio. Mae'r newidiadau allweddol y bydd y Rheoliadau drafft yn darparu ar eu cyfer wedi'u nodi isod. Mae'r Rheoliadau drafft i'w gweld yn Atodiad A.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am gymhwyso'r Rheoliadau drafft yn ddeddfwriaethol ac yn ymarferol. Bydd yn agored am gyfnod o 12 wythnos a than 3 Hydref 2022. Mae'r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i Gymru’n unig.

Diwygio'r broses apelio

Gweinyddir y system apelio gan ddau sefydliad annibynnol, sy'n gyfrifol am wahanol gamau o'r broses. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gyfrifol am brisio a rhestru hereditamentau ar gyfer ardrethi annomestig, gan gynnwys ystyried cynigion gan drethdalwyr sy'n credu y dylai eu prisiad gael ei newid. Mae'r Asiantaeth yn gyfrifol am apelau, pan na cheir cytundeb rhwng trethdalwr a'r Tribiwnlys Prisio mewn perthynas â newid arfaethedig i brisiad.

Mae camau'r broses a ategir gan blatfform digidol Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynrychioli cysyniadau newydd i gymryd lle'r broses bresennol. Bydd trefn gosbi  hefyd yn cael ei chyflwyno, gan ganiatáu dirwyon am ddarparu gwybodaeth y gwyddys ei bod yn anwir.  Mae'r newidiadau sy'n ofynnol i gam apelio’r Tribiwnys yn fwy cyfyngedig. Bydd y seiliau, y broses a'r terfynau amser ar gyfer gwneud apêl yn cael eu sefydlu. Bydd cyfyngiadau hefyd ar ddarparu tystiolaeth newydd yn ystod y cam apelio. Ni fydd y trefniadau cyffredinol i'r Tribiwnlys ymdrin ag apelau yn newid.

Esbonnir y newidiadau allweddol yn y broses apelio yn fanylach isod a'u nod yw gwella effeithlonrwydd y system drwy leihau hap-apelau ac apelau aflwyddiannus.

Platfform digidol Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Defnyddiodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio y platfform digidol ar gyfer rhestr ardrethu 2017 yn Lloegr. Roedd ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn dymuno cadw golwg ar y cynnydd o ran gweithredu cyn gwneud unrhyw newid i'r broses apelio yng Nghymru. Mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos bod yr heriau cychwynnol, ar ôl eu gweithredu yn 2017, wedi'u datrys ac mae’r Asiantaeth yn parhau i wella'r ddarpariaeth er budd trethdalwyr.

Bydd y system apelau ddiwygiedig ar gyfer ardrethi annomestig yn cael ei hategu gan blatfform digidol Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a fydd yn cael ei ymestyn i Gymru. Bydd y platfform digidol yn cadw data prisio ardrethi annomestig ac yn darparu'r porth i drethdalwyr weld eu data prisio a chyfnewid gwybodaeth â’r Asiantaeth. Bydd hyn yn darparu'r cyfleuster ar-lein i drethdalwyr 'wirio' a 'herio' eu prisiadau, yn unol â'r broses sydd eisoes wedi'i gweithredu a'i hymgorffori ar gyfer trethdalwyr yn Lloegr.

Y cam 'gwirio

Bydd y cam 'gwirio' yn sicrhau bod yr wybodaeth a gedwir gan yr Asiantaeth am hereditament yn gywir ac yn cael ei dilysu. Bydd y cam hwn yn y broses yn ei gwneud yn ofynnol i'r trethdalwr (neu berson arall) wneud cais i ddechrau ac adolygu'r wybodaeth a gedwir gan yr Asiantaeth am yr hereditament. Gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio ofyn am unrhyw wybodaeth sydd ar goll. Pan fydd y trethdalwr yn fodlon bod yr wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir, rhaid iddynt gadarnhau hyn i'r Asiantaeth.

Y dyddiad cau terfynol mewn deddfwriaeth ar gyfer cwblhau 'gwiriad' gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio fydd 12 mis ar ôl derbyn y cadarnhad hwn. Mae'r cyfnod hwyaf hwn yn caniatáu ystyried achosion cymhleth yn briodol, yn ogystal ag amgylchiadau sy'n arwain at gyflwyno llawer o achosion ar yr un pryd, ond mae bron pob un ohonynt yn cael eu cwblhau o fewn tri mis. Os gwneir unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau i'r wybodaeth, rhaid i Asiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu'r newidiadau hyn ac, os yw'n eu derbyn, diwygio'r rhestr brisio ac ardrethu lle bo hynny'n berthnasol. Y dyddiad y mae'r Asiantaeth yn hysbysu'r person ei fod wedi cwblhau ei adolygiad ac wedi gwneud unrhyw newidiadau o ganlyniad, yw'r dyddiad y mae'r 'gwiriad' wedi'i gwblhau.

Y cam 'her’

Unwaith y bydd gwiriad wedi'i gwblhau, bydd y cam 'her' yn ystyried unrhyw anghytundebau sy'n parhau ac yn caniatáu i gynnig ar gyfer prisiad amgen gael ei gyflwyno i’r Asiantaeth, wedi'i hategu gan dystiolaeth. Rhaid gwneud hyn o fewn pedwar mis ar ôl cwblhau 'gwiriad' (neu wedi i’r terfyn amser o 12 mis fynd heibio, os na chaiff ei fodloni). Rhaid i gynigydd fod â rheswm dros gyflwyno 'her', yn unol â'r seiliau dros y cynnig sydd eisoes wedi'i sefydlu o dan y broses apelio bresennol.

Bydd yr Asiantaeth yn gwrthod unrhyw 'her' nad yw'n cynnwys yr holl wybodaeth a thystiolaeth ofynnol. Os gwrthodir 'her', rhaid i'r Asiantaeth hysbysu'r cynigydd a rhoi gwybod iddo am y wybodaeth sydd ar goll. Bydd y cynigydd yn gallu cyflwyno un newydd o fewn y terfyn amser gwreiddiol o bedwar mis ar gyfer cyflwyno 'her', ar ôl cwblhau 'gwiriad’. Nid yw'r amser rhwng i’r Asiantaeth gael yr her anghyflawn a’i gwrthod yn cyfrif tuag at y cyfnod hwn.

O fewn chwe wythnos i dderbyn 'her' bydd yr Asiantaeth yn hysbysu'r trethdalwr (os nad ef yw'r cynigydd) a'r awdurdod lleol y lleolir yr hereditament ynddo. Bydd yr awdurdod lleol yn gallu darparu tystiolaeth i’r Asiantaeth sy'n ymwneud â'r cynnig. Bydd yr Asiantaeth yn ymateb i'r 'her' gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'n ei dal neu'n ei chael sy'n berthnasol i fanylion y cynnig. Bydd y cynigydd yn gallu ymateb drwy ddarparu tystiolaeth bellach cyn i’r Asiantaeth ddatrys yr 'her’. Os bydd y cynigydd yn cael tystiolaeth bellach na ellid bod wedi'i chael yn rhesymol cyn i'r 'her' gael ei chyflwyno, gallant ddarparu hyn i'r Asiantaeth.

Bydd yr Asiantaeth yn penderfynu a yw'r 'her', fel y'i hategir gan yr holl dystiolaeth sydd ar gael - wedi’i seilio ar gynnig sydd â sail gref, ac a yw’n cyfiawnhau'r newidiadau y mae'n eu cynnig. Os bydd yr Asiantaeth yn penderfynu bod sail gadarn i gynnig, bydd yn newid y rhestr mewn ymateb i'r 'her’. Bydd yr Asiantaeth yn penderfynu nad oes sail gadarn i 'her' os yw'n anghytuno â chynnig ac yn ystyried bod y rhestr bresennol yn gywir, neu'n ystyried bod cyfiawnhad dros newid, ond ni ellir dod i gytundeb wedi’i negodi. Unwaith y gwneir penderfyniad, rhaid i'r Asiantaeth hysbysu personau perthnasol o'r penderfyniad, y rhesymu, a hawl y cynigydd i apelio i'r Tribiwnlys o fewn pedwar mis.

Dirwyon (cosbau sifil)

Roedd ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn gyffredinol yn derbyn y byddai dirwyon yn briodol ar gyfer darparu gwybodaeth ffug yn fwriadol gan drethdalwyr, ond byddai angen diffinio'r paramedrau'n ofalus er mwyn osgoi anghydfodau pellach. Ystyriwyd hefyd y dylai lefel unrhyw ddirwyon fod yn fforddiadwy i bawb fel nad ydynt yn cael eu heithrio o’r broses apelio.

Bydd yr Asiantaeth yn gallu gosod cosb o £200 ar berson am ddarparu gwybodaeth yn fwriadol, yn ddi-hid neu'n ddiofal mewn 'gwiriad' neu 'her' sy'n anwir mewn manylyn perthnasol. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei hystyried yn anwir mewn manylyn perthnasol os yw'n cynnwys anwiredd a allai, os dibynnir arno, newid canlyniad y 'gwiriad' neu'r 'her', neu a allai arwain at anghywirdeb yn y rhestr ardrethu. Bydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddisgresiwn ynghylch a ddylid rhoi cosbau ai peidio.

Bydd yr Asiantaeth yn cyflwyno hysbysiad cosb i'r derbynnydd, gan ddarparu manylion sy'n ymwneud â'r wybodaeth y canfuwyd ei bod yn anwir a swm y gosb. Bydd y sawl sy'n derbyn hysbysiad cosb yn gallu apelio i'r Tribiwnlys o fewn 28 diwrnod. Ni all yr Asiantaeth adennill y gosb tan ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud apêl fynd heibio, neu fod unrhyw apêl wedi'i datrys gan y Tribiwnlys Bydd penderfyniad y Tribiwnlys ynghylch apêl cosb yn derfynol ac ni fydd yn destun apêl i'r Uwch Dribiwnlys.

Apelau i'r Tribiwnlys

Cam olaf y broses yw'r cyfle i drethdalwyr apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Tribiwnlys Prisio Cymru sy’n ymdrinnir ag apelau, a hynny mewn proses ar wahân i blatfform digidol yr Asiantaeth. Bydd llawer o'r broses ar gyfer y cam apelio yn aros yr un fath. Ar hyn o bryd, os nad yw'r Asiantaeth yn gwneud penderfyniad ar gynnig i newid prisiad o fewn tri mis, caiff yr achos ei drosglwyddo'n awtomatig i'r Tribiwnlys fel apêl. Mae hyn yn arwain at nifer fawr o apelau diangen a bydd hyn yn cael sylw yn y broses ddiwygiedig.

Y cam 'apêl’

Bydd trethdalwyr yn gallu gwneud apêl i'r Tribiwnlys unwaith y byddant wedi symud ymlaen drwy'r camau 'gwirio' a 'herio' gyda'r Asiantaeth. Ni fydd cynigion yn trosglwyddo'n awtomatig i apelau mwyach os na chânt eu datrys gan yr Asiantaeth o fewn tri mis. Caniateir apêl hyd at bedwar mis ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ar y cynnig. Os nad yw’r Asiantaeth wedi gwneud penderfyniad o fewn 18 mis i dderbyn y cynnig, caniateir apêl hyd at bedwar mis ar ôl i'r dyddiad hwn ddod i ben.

Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caniateir apêl: os nad yw’r Asiantaeth wedi newid y rhestr mewn ymateb i 'her', os yw wedi newid y rhestr mewn ffordd na chafodd ei chynnig, neu ei bod heb wneud penderfyniad o fewn 18 mis (ac nad yw'r her wedi'i chytuno na'i thynnu'n ôl). Os oes un o'r amodau hyn yn gymwys, gellir gwneud apêl ar y naill sail neu'r llall neu'r ddau sail: nad yw gwerth ardrethol yr eiddo yn rhesymol; neu fod y rhestr, ac eithrio'r gwerth ardrethol, yn anghywir ar gyfer yr hereditament.

Bydd yn rhaid cyflwyno'r hysbysiad o apêl o fewn y terfyn amser, nodi'r sail/seiliau ar gyfer yr apêl, a nodi pa fanylion yn ymwneud â'r rhestr sy'n cael eu hystyried yn anghywir ac sydd heb eu datrys yng nham yr 'her’. Bydd yn rhaid cynnwys copïau o'r cynnig ac unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyfnewidir fel rhan o'r 'her', yn ogystal â phenderfyniad yr Asiantaeth. Bydd y Tribiwnlys wedyn yn ystyried yr apêl yn unol â’i drefniadau presennol.

Derbyn tystiolaeth newydd mewn apêl

Cynigiodd yr ymgynghoriad y dylid cyfyngu ar gyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd yn ystod y cam apelio, ac mai dim ond o gael gytundeb y partïon dan sylw, neu mewn amgylchiadau eithriadol, y caniateir hynny. Roedd ymatebwyr o'r farn ei bod yn hanfodol bod y Tribiwnlys yn cael yr holl wybodaeth berthnasol i'w alluogi i wneud penderfyniad cywir a theg a nododd nad yw gwybodaeth hanfodol ar gael weithiau i apelwyr yn y camau cyn-apelio. Felly, dim ond os nad oedd yn hysbys, neu na ellid bod wedi'i chael yn rhesymol, cyn i'r cynnig gael ei ystyried gan yr Asiantaeth y caiff tystiolaeth newydd ei derbyn yn ystod y cam apelio. Ni fydd unrhyw dystiolaeth na ddarperir ar yr adeg briodol yn y broses, neu sy’n berthnasol i’r eithriad hwn, yn cael ei hystyried yn yr apêl.

Ffioedd apelio

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar godi ffioedd am apelau. Dywedodd ymatebwyr y gallai ffioedd fod yn ffordd o rwystro apelau annilys neu amddiffynnol, ond na ddylai lefel y ffioedd fod mor uchel fel eu bod yn atal apelwyr. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn y dylai ffioedd, os cânt eu cyflwyno, fod yn daladwy ar y cam apelio (y Tribiwnlys) ac y dylid ad-dalu apelwyr pe bai apêl yn llwyddiannus. Disgwylir y bydd y diwygiadau eraill i'r broses apelio yn cyfrannu at leihau nifer yr apelau diangen. Os bydd hyn yn llwyddiannus, efallai na fydd y budd ychwanegol o gyfundrefn ffioedd yn cyfiawnhau'r gost weinyddol o'i weithredu. Felly, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ffioedd ar gyfer apelau ar hyn o bryd, ond gall ailystyried hyn yn y dyfodol, os oes angen mecanwaith pellach i leihau apelau diangen.

Personau sy'n gallu cymryd rhan yn y broses apelio

Mae'r broses apelio ddiwygiedig yn cynnwys rhai gwelliannau i'r ffyrdd y gall rhai personau gymryd rhan ynddo.

Mae'n bosibl mai’r person oedd y trethdalwr o'r blaen, ond nad yw hynny’n wir bellach. Os cyflwynir 'gwiriad' gan berson â buddiant, bydd yn dal i allu cyflwyno 'her' (o fewn pedwar mis) o dan unrhyw sail, hyd yn oed os yw wedi peidio â bod yn berson â buddiant. Os nad yw person â buddiant yn cyflwyno 'gwiriad' cyn iddo beidio â bod yn un, bydd yn gallu gwneud hynny yn ystod oes y rhestr, ond dim ond ar gyfer yr amser pan oedd yn berson â buddiant a dim ond o dan sail benodol.

O dan y broses apelio bresennol, caiff awdurdod lleol wneud cynnig ac apelio mewn perthynas â hereditament yn ei ardal, er nad oes ganddo ddiddordeb uniongyrchol yn yr eiddo. Nid yw'n glir o dan ba amgylchiadau y byddai angen apelau o'r fath ac efallai na fyddai'r gallu i wneud hynny yn gydnaws â'u rôl fel yr awdurdod bilio o fewn y system ardrethi annomestig. Felly, ni fydd y broses ddiwygiedig yn cynnwys darpariaeth i awdurdodau lleol gyflwyno 'gwiriad' neu 'her, na gwneud apêl, mewn perthynas â hereditament yn eu hardal (oni bai eu bod yn gallu gwneud hynny fel y trethdalwr ar gyfer yr hereditament).

Strwythur y ddeddfwriaeth

Bydd y Rheoliadau drafft yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2005 ("Rheoliadau 2005”). Mae chwe rhan i'r Rheoliadau drafft ac mae'r strwythur cyffredinol yn dilyn rheoliadau 2005. Disgrifir strwythur cyffredinol y Rheoliadau drafft yn yr adran hon, sy'n nodi'r meysydd allweddol sy’n wahanol i Reoliadau 2005.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau drafft yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir. Yn ogystal â'r rhai a gynhwysir yn rheoliadau 2005, mae'r diffiniadau sy'n ofynnol ar gyfer termau newydd wedi'u cynnwys.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau drafft yn ymdrin â newid rhestrau ardrethi annomestig lleol. Dyma'r rhan o'r Rheoliadau drafft sydd fwyaf gwahanol i Reoliadau 2005. Darperir y weithdrefn ar gyfer cwblhau 'gwiriad' gan reoliadau 5 i 10. Darperir y terfyn amser, y gofynion a'r weithdrefn ar gyfer 'her' gan reoliadau 11 i 15. Darperir trefn gosbi ar gyfer darparu gwybodaeth ffug yn fwriadol, yn ddi-hid neu'n ddiofal gan reoliadau 16 i 19. Darperir y weithdrefn yn dilyn penderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gynnig gan reoliadau 20 i 23. Darperir y seiliau a'r weithdrefn ar gyfer gwneud apêl i'r Tribiwnlys gan reoliadau 24 i 26. Mae darpariaethau eraill yn y rhan hon yn ailadrodd y darpariaethau cyfatebol yn Rheoliadau 2005, gyda mân addasiadau neu ddim addasiadau.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau drafft yn ymdrin ag addasiadau i restrau ardrethi annomestig canolog, gan gymhwyso Rhan 2, gydag addasiadau, i hereditamentau a ddangosir ar restr ganolog. Mae'r darpariaethau'n cadw effaith y rhan gyfatebol o Reoliadau 2005.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau drafft yn ymdrin ag apelau yn erbyn hysbysiadau cwblhau a gosod hysbysiadau cosb penodol (nid y rhai sy'n ymwneud â'r drefn gosbau newydd ar gyfer darparu gwybodaeth ffug). Mae'r darpariaethau'n cadw effaith y rhan gyfatebol o Reoliadau 2005.

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau drafft yn ymdrin â'r prosesau cyffredinol sydd i'w dilyn gan y Tribiwnlys wrth reoli apelau ac mae’n ailadrodd i raddau helaeth, gyda mân addasiadau, y rhan gyfatebol o Reoliadau 2005. Yr eithriadau yw cyflwyno cyfyngiad ar dderbyn tystiolaeth newydd yn ystod y cam apelio, a ddarperir gan reoliad 46, a chynnwys darpariaeth yn rheoliad 49 i'r Tribiwnlys orchymyn i'r Asiantaeth osod cosb am ddarparu gwybodaeth ffug yn dilyn apêl.

Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau drafft yn ymdrin â materion amrywiol a chyffredinol, gan ddyblygu gyda mân addasiadau y darpariaethau cyfatebol yn Rheoliadau 2005, lle bo hynny'n berthnasol. Bwriedir i'r Rheoliadau drafft ddod i rym ar 1 Ebrill 2023, i gyd-fynd â'r rhestr ardrethi annomestig newydd, ar ôl ailbrisio. Mae darpariaeth bontio yn rheoliad 59 yn egluro y bydd Rheoliadau 2005 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â rhestr ardrethu leol neu ganolog a luniwyd cyn 1 Ebrill 2023.

Y camau nesaf

Bydd yr ymgynghoriad technegol hwn ar y Rheoliadau drafft yn agored am gyfnod o 12 wythnos. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, caiff yr ymatebion eu hystyried a bydd unrhyw ddiwygiadau ychwanegol y gall fod eu hangen yn cael eu drafftio.

Yn amodol ar y farn a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn, bwriedir i'r Rheoliadau drafft gael eu gosod gerbron y Senedd maes o law a dod i rym ar 1 Ebrill 2023. 

Cwestiynau'r Ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer 'gwirio’?

Cwestiwn 2

A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer 'her’?

Cwestiwn 3

A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer gosod cosb am ddarparu gwybodaeth ffug yn fwriadol, yn ddi-hid neu'n ddiofal?

Cwestiwn 4

A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru?

Cwestiwn 5

A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y cyfyngiadau ar dystiolaeth newydd a dderbynnir mewn apêl?

Cwestiwn 6

A oes unrhyw faterion eraill yn codi o ran cymhwyso’r Rheoliadau drafft yn ymarferol?

Cwestiwn 7

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y Rheoliadau drafft?

Cwestiwn 8

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

  1. ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; ac
  2. ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 9

Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y cynigion, yn eich barn chi, er mwyn:

  1. cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; 
  2. pheidio â chael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 10

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.

Sut i ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 11 Hydref 2022, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Eich Hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ehif ffôn:  01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.  Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.  Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol.  Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol).  Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath.  Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon.  Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn.  Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb.  Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb.  Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.  Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.  Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif LlC:  WG45526

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.