Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i gyni, Brexit, yr argyfwng hinsawdd a phandemig y Coronafeirws. Ym mis Mawrth 2020 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i lunio Cynllun Cydraddoldeb Hiliol (Cynllun Gweithredu), yn dilyn galwadau gan Fforwm Hil Cymru a rhanddeiliaid ehangach. Yn dilyn sefydlu Grŵp Llywio Pobl Ddu, Asiaidd a ac Ethnig Leiafrifol y Prif Weinidog ac argymhellion adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-Gymdeithasol, cyflymwyd y gwaith i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu.  

Ym mis Mai 2020, ymatebodd y gymuned fyd-eang gydag anghrediniaeth i farwolaeth George Floyd. Mewn gwahanol ffyrdd, taflwyd goleuni ar y hiliaeth systemig a sefydliadol a wynebir gan gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (ethnig leiafrifol o hyn ymlaen) yng Nghymru ac mewn mannau eraill. 

Rydym ni, Llywodraeth Cymru, yn cydnabod ei bod yn bryd gweithredu ar frys. Ar y cyd â phartneriaid a rhanddeiliaid rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol sy’n cynnwys gweledigaeth ar gyfer y newid rydym am ei weld.

Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw gwlad sy'n wrth-hiliol, lle mae pawb yn cael eu trin fel dinesydd cyfartal. Ein diben yw creu newid ystyrlon i fywydau pobl ethnig leiafrifol. Rydym eisiau gwneud hyn mewn ffordd sy'n dryloyw ac yn agored, sy'n adlewyrchu profiadau go iawn pobl ethnig leiafrifol ym mhob peth a wnawn ac yn derbyn yn llawn bod hyn yn ymwneud â pharchu a gwireddu'r hawliau sydd gan bobl eisoes ond nad ydynt yn manteisio arnynt. Rydym hefyd wedi mynd ati gyda’n partneriaid i archwilio sut olwg fydd ar hyn erbyn 2030, os ydym yn llwyddo.

Datblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Yn dilyn cyfres o weithdai, trafodaethau bord gron, ac archwiliad manwl o feysydd polisi penodol dros y chwe mis diwethaf, rydym bellach yn ymgynghori ar y Cynllun Gweithredu drafft hwn. Mae'n cynnwys nodau, camau gweithredu a chanlyniadau lefel uchel ar gyfer y themâu polisi a materion trawsbynciol. Mae'r rhain yn sail i’n gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol, a’u nod yw creu newidiadau ystyrlon i fywydau grwpiau ethnig leiafrifol.

Wrth baratoi'r Cynllun Gweithredu hwn, rydym wedi rhoi profiadau go iawn pobl ethnig leiafrifol, ynghyd ag ymchwil blaenorol o wahaniaethau ar sail hil, wrth wraidd y broses gyd-greu. Ceir rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y Cynllun Gweithredu yn y Cynllun drafft ei hun.

Yn ogystal, rydym yn cynnig amlinelliad o sut y byddwn yn cael ein dwyn i gyfrif am y gwaith hwn. Ymdrinnir â hyn yn yr adran Llywodraethu.

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer yr ymgynghoriad hwn

Nododd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru feysydd blaenoriaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i'w hystyried mewn themâu polisi gwahanol ac yn gyffredinol yn y Cynllun.  Nododd yr heriau allweddol sy'n gysylltiedig â phob un o'r themâu polisi a chamau i fynd i'r afael â nhw. Mae'r blaenoriaethau hyn yn adlewyrchu'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a phwysigrwydd canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i gydnabod hiliaeth strwythurol a systemig a mynd ati’n weithredol i’w ddatgymalu. Y blaenoriaethau hyn oedd:

  • addysg
  • cyflogaeth ac incwm
  • arweinyddiaeth a chynrychiolaeth
  • iechyd
  • gofal cymdeithasol
  • troseddau casineb a chyfiawnder
  • tai a llety.

Ar ôl ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, nodwyd y canlynol hefyd:

  • diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth
  • democratiaeth leol
  • yr amgylchedd
  • y Gymraeg
  • materion trawsbynciol.

Adolygiadau manwl a chyfarfodydd bord gron

Cynhaliwyd nifer o adolygiadau manwl i gasglu ynghyd y dystiolaeth o'r ymchwil ac o brofiadau go iawn. Fe wnaeth y rhain alluogi arweinwyr polisi i nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a dechrau datblygu eu nodau a'u camau gweithredu. Mae'r cyfarfodydd bord gron dilynol yn darparu lle i rannu syniadau sy'n dod i'r amlwg a phrofi a mireinio cynigion ymhellach.

Yn ogystal, cafodd arweinwyr polisi gefnogaeth gan fentoriaid cymunedol a rannodd eu profiadau go iawn a rhoi adborth ar y gwaith o ddatblygu nodau a chamau gweithredu ar gyfer themâu polisi penodol, yn ogystal â chyfrannu at y cyfarfodydd bord gron.

Amserlen yr ymgynghoriad

Yn ystod y cyfnod ymgynghori o 12 wythnos byddwn yn ehangu ein gwaith ymgysylltu a chyd-greu ac yn ceisio barn unigolion, cymunedau, grwpiau cymunedol, undebau llafur ac arbenigwyr, a barn ein partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector i fireinio a datblygu'r gwaith hwn ymhellach.

Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r ddeialog bellach â chymunedau a rhanddeiliaid ehangach er mwyn cwblhau fersiwn derfynol o'r Cynllun, Byddwn yn ceisio cymeradwyaeth a pherchnogaeth o'r Cynllun Gweithredu terfynol gan Lywodraeth newydd Cymru, a gaiff ei ffurfio ar ôl yr etholiad arfaethedig ar gyfer y Senedd, a byddwn yn anelu at gyhoeddi'r cynllun terfynol yn ystod hydref 2021.

Yr hyn rydym am ei gyflawni

Mae'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn cynnwys camau gweithredu clir wedi'u targedu a bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i gael adborth mewn sawl maes. Rydym wedi gosod nifer o gwestiynau i chi eu hystyried. Fodd bynnag, rydym yn croesawu pob ymateb yn y fformat sydd fwyaf hygyrch i chi. Os hoffech anfon clip fideo atom gyda'ch sylwadau, neu os byddai'n well gennych ysgrifennu eich sylwadau yn yr iaith rydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn ysgrifennu ynddi, byddem yn croesawu hyn.

Ni fyddwn yn goddef sylwadau annymunol am hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol na hunaniaeth rywedd unigolyn a bydd unrhyw ymatebion sy'n cynnwys iaith casineb yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Mae gan y Cynllun Gweithredu dri maes penodol yr hoffem i chi roi eich barn i ni arnynt. Maent yn cynnwys y tudalennau sy’n gosod y weledigaeth, y themâu polisi gyda'r nodau a'r camau gweithredu, a'r adran lywodraethu.

Gallwch roi sylwadau ar un neu fwy o’r meysydd hyn.

Ceir rhai cwestiynau isod a allai eich helpu i ymateb:

Cwestiwn 1

A yw'r weledigaeth, y diben, y gwerthoedd a'r dyfodol dychmygol hyd at 2030 yn adlewyrchu'r hyn yr hoffech ei weld yn cael ei gyflawni erbyn 2030? Beth allai rwystro’r weledigaeth a’r gwerthoedd rhag cael eu gwireddu? Beth allai helpu i wireddu’r weledigaeth a’r gwerthoedd?

Cwestiwn 2

Hoffem gael eich barn ar y nodau a'r camau gweithredu. I fynegi barn ar rai o’r nodau, camau gweithredu a chanlyniadau, neu phob un ohonynt, ystyriwch y canlynol:

  • A yw'r esboniad (naratif / cefndir) yn egluro pam rydym wedi dewis y nodau a'r camau gweithredu yn y maes polisi hwn?
  • A oes unrhyw flaenoriaethau neu wybodaeth gefndir ar goll neu unrhyw wybodaeth arall?
  • Ydych chi'n cytuno â'r nodau a’r camau gweithredu a ddewiswyd? Pa gamau fyddech chi’n eu hychwanegu neu eu dileu?
  • A fydd pob nod a cham gweithredu cysylltiedig yn cynhyrchu'r canlyniadau dymunol a nodwyd gennym? Os na, beth fyddech chi am ei newid fel ein bod yn cyflawni newidiadau sy'n wirioneddol wrth-hiliol yn yr amserlenni a nodir?
  • Sut y gellid cynyddu neu liniaru'r effaith gadarnhaol neu negyddol?

Cwestiwn 3

A oes unrhyw nodau a chamau gweithredu y gallwch feddwl amdanynt sydd ar goll? Pwy ddylai eu cyflawni a pha gamau a fyddai'n eu helpu i wneud hynny?

Cwestiwn 4

Beth yw'r heriau allweddol a allai atal y nodau a'r camau gweithredu rhag cyflawni gwrth-hiliaeth erbyn 2025?

Cwestiwn 5

Pa adnoddau (gallai hyn gynnwys cyllid, amser staff, hyfforddiant, mynediad at wasanaethau cymorth neu eiriolaeth ymhlith pethau eraill) a fydd yn angenrheidiol yn eich barn chi i gyflawni'r nodau a’r camau gweithredu a amlinellir?

Cwestiwn 6

Ydych chi'n teimlo bod y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn ymdrin yn ddigonol â chroestoriad hil â nodweddion gwarchodedig eraill megis crefydd, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, trawsrywedd, rhyw, a statws priodasol a phartneriaeth sifil?  Os na, sut y gallwn wella hyn?

Cwestiwn 7

Gweler yr adran Llywodraethu. Pa awgrymiadau allwch chi eu cynnig ar gyfer mesur llwyddiant wrth greu Cymru wrth-hiliol ac ar gyfer cryfhau atebolrwydd am weithredu?

Cwestiwn 8

Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai'r canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 9

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid trefnu neu newid y dull polisi arfaethedig er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu mwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 10

Datblygwyd y cynllun hwn ar y cyd, ac mae trafodaethau ynghylch iaith a hunaniaeth wedi dangos nad yw llawer o bobl yn ystyried bod y term 'BAME' yn briodol. O ganlyniad, rydym yn cyfeirio at bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol neu bobl ethnig leiafrifol penodol yn y Cynllun. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y term hwn hefyd yn broblemus a’i bod yn well, lle bo'n bosibl, bod yn fwy penodol am yr hil neu’r ethnigrwydd y mae unigolyn neu gymuned yn uniaethu ag ef. Fodd bynnag, ar adegau mae angen cyfeirio at yr holl bobl hynny sy'n rhannu'r profiad o fod yn destun hiliaeth.

Rydym wedi defnyddio'r term pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol at y diben hwn. Beth yw eich barn am y term hwn ac a oes dewis arall sy’n well gennych? Gall siaradwyr Cymraeg ystyried termau addas yn y ddwy iaith.

Cwestiwn 11

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, gallwch eu nodi yma.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 15 Gorffennaf 2021, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Y Tîm Cydraddoldeb
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG41881

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.