Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir

Mae ardrethi annomestig yn cyfrannu dros £1.1 biliwn y flwyddyn tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan lywodraeth leol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £250 miliwn mewn rhyddhad ardrethi annomestig parhaol bob blwyddyn. Caiff rhyddhadau eu targedu er mwyn cefnogi sectorau penodol o'r sylfaen drethu a chyfrannu at nodau ehangach Llywodraeth Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cymhwystra ysgolion preifat sy'n elusennau cofrestredig i gael rhyddhad ardrethi annomestig elusennol. O ystyried y gellid ailgyfeirio'r cyllid a ddarperir ar gyfer rhyddhadau tuag at wasanaethau cyhoeddus, mae'n hanfodol eu bod yn cael eu targedu'n briodol. Yng Nghymru, caiff ysgolion preifat eu cofrestru fel ysgolion annibynnol (nid ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol). Mae incwm ysgolion annibynnol (p'un a ydynt yn elusennau cofrestredig ai peidio) yn deillio'n bennaf o'r ffioedd a delir gan rieni a all fforddio addysg breifat i'w plant, yn hytrach na'u hanfon i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol. Felly mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw darparu rhyddhad elusennol i'r sefydliadau hyn o bosibl yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr. 

Rhyddhad elusennol 

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) yn darparu ar gyfer rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo sydd wedi'i feddiannu (gostyngiad o 80%) ac eiddo heb ei feddiannu (gostyngiad o 100%), lle mae'r talwr ardrethi yn elusen neu'n ymddiriedolwr ar gyfer elusen ac y caiff meini prawf cymhwystra eraill eu bodloni. Caiff y rhyddhad ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, am gyfanswm cost o dros £75 miliwn y flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae ysgolion annibynnol sy'n elusennau cofrestredig yn cael tua £1.3 miliwn y flwyddyn mewn rhyddhad elusennol.

Mae Deddf 1988 yn nodi mai ystyr elusen yw sefydliad neu fudiad arall a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig neu unrhyw unigolyn sy'n gweinyddu ymddiriedolaeth a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig. Yng Nghymru a Lloegr, ystyr ‘diben elusennol’ yw diben y mae adran 3(1) o Ddeddf Elusennau 2011 (Deddf 2011) yn berthnasol iddo ac sydd er budd y cyhoedd. Rhestrir “hyrwyddo addysg” fel diben elusennol. Nid oes unrhyw ragdybiaeth bod hyrwyddo addysg er budd y cyhoedd. 

Ysgolion annibynnol yng Nghymru 

Fel gyda'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n gweithredu o eiddo annomestig, mae rhai ysgolion annibynnol yn gwneud cyfraniad pwysig at y broses o ariannu gwasanaethau lleol drwy eu hatebolrwydd i dalu ardrethi annomestig. Fodd bynnag, mae rhai ysgolion annibynnol yn elwa ar ryddhad elusennol. Mae gan yr ysgolion hyn hefyd hawl i amrywiaeth o fuddiannau ariannol eraill sy'n gysylltiedig â statws elusennol. Gallant hefyd weithredu ar sail fasnachol a chodi refeniw drwy ffioedd a thaliadau. 

Ar hyn o bryd, mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru. O'u plith, mae 17 ohonynt yn cael rhyddhad elusennol. Mae 6,167 o ddisgyblion mewn ysgolion annibynnol yn cael rhyddhad elusennol (tua 60% o'r disgyblion ym mhob ysgol annibynnol, Cyfrifiad Ysgolion Annibynnol 2024). Ceir rhywfaint o amrywiad yn nodweddion yr ysgolion hyn, ond mae pob un ohonynt yn codi ffioedd ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dethol eu disgyblion ar sail gallu academaidd neu gredoau crefyddol. Er bod gan rai ohonynt ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, mae cyfran y disgyblion hynny yn llawer is na'r gyfran yng ngweddill y sector ysgolion annibynnol ac yn y sector a gynhelir.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw ysgolion annibynnol sy'n cael rhyddhad elusennol sydd wedi'u trefnu'n arbennig er mwyn cynnig darpariaeth ddysgu amgen. Nid yw'r rhan fwyaf o ysgolion sydd wedi'u trefnu yn y fath fodd yn elusennau. Mae'r system ardrethi annomestig hefyd yn cynnwys eithriad llawn ar gyfer eiddo, neu rannau o eiddo, os yw'n cynnwys eiddo a ddefnyddir yn llwyr i ddarparu cyfleusterau i hyfforddi pobl anabl neu bobl sy'n dioddef o salwch neu sydd wedi bod yn dioddef o salwch, neu i ddarparu gweithgareddau addas i'r bobl hynny. Yn hynny o beth, mae'n bosibl y bydd rhai ysgolion annibynnol â darpariaeth arbenigol iawn o'r fath wedi'u heithrio'n llwyr rhag ardrethi annomestig (ac na fydd newid y rhyddhad elusennol yn effeithio arnynt).

Ar gyfartaledd, mae ysgolion annibynnol sy'n cael rhyddhad elusennol yn codi ffioedd o ryw £3,750, sy'n dod i gyfanswm o £11,250 ar gyfer tri thymor y flwyddyn (yn seiliedig ar yr wybodaeth am ffioedd a gyhoeddir ar wefannau’r ysgolion yr effeithir arnynt). Codir ffioedd uwch ar gyfer disgyblion preswyl. Mae dadansoddiad o ddata bilio’r awdurdodau lleol yn dangos bod cyfanswm rhyddhad elusennol o ryw £1.3m yn cael ei ddarparu i ysgolion annibynnol, sy'n cyfateb i gyfartaledd o ryw £75,000 fesul ysgol. At ddibenion enghreifftiol, mae hyn yn cyfateb yn fras i'r incwm cyfartalog o ffioedd saith disgybl dibreswyl, er bod amrywiadau sylweddol o ran maint a ffioedd pob ysgol. 

Y cynnig

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol yn ôl, gyda’r bwriad o’u rhoi ar sail debyg i ysgolion annibynnol nad oes ganddynt statws elusennol at ddibenion ardrethi annomestig. Nod y cynnig hwn yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol yng Nghymru, drwy dynnu rhyddhad treth, y telir amdano drwy gronfeydd cyhoeddus, ar gyfer addysg breifat yn ôl.

Bydd angen llunio rheoliadau er mwyn rhoi'r cynnig ar waith. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai'r newid hwn fod yn gymwys o 1 Ebrill 2025.

Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn wedi'i ategu gan gynlluniau Llywodraeth y DU i dynnu'r eithriad rhag TAW (nad yw'n fater datganoledig) sy'n gymwys i ysgolion preifat ledled y DU ar hyn o bryd yn ôl ac i dynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion preifat yn Lloegr yn ôl. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi tynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol yn ôl. 

Ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gymhwystra ysgolion i gael rhyddhad elusennol yng Nghymru yn 2020. Cafodd yr ymgynghoriad 51 o ymatebion, gyda'r ymatebwyr yn cynrychioli unigolion, ysgolion annibynnol, ysgolion a gynhelir, llywodraeth leol a chyrff cynrychioliadol. Cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau, yr oedd rhai ohonynt o blaid cynnal y trefniadau presennol ac eraill o blaid newid. Yr unig safbwynt mwyafrifol a ddeilliodd o'r ymgynghoriad oedd y dylai sefydliadau yn y sector cyhoeddus barhau i fod yn gymwys am ryddhad.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cadarnhawyd y byddai angen llunio dull gweithredu arfaethedig ar gyfer unrhyw newid polisi yn y maes hwn ac y byddai angen iddo fod yn destun ymgynghoriad pellach. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cynnig i dynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol yn ôl. Mae'r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i randdeiliaid dynnu sylw at effeithiau posibl y cynnig ar y sector addysg. 

Adran 8: Casgliad

Sut y cafodd y bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt eu cynnwys wrth ei ddatblygu? 

Ystyriwyd gwaith ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid, gan gynnwys ysgolion a llywodraeth leol, wrth ddatblygu'r cynigion. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gymhwystra ysgolion i gael rhyddhad elusennol yng Nghymru yn 2020 (gweler Adran 1). Cymerodd rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru, ran yn yr ymgynghoriad. Cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau gan randdeiliaid, yr oedd rhai ohonynt o blaid cynnal y trefniadau presennol ac eraill o blaid newid. 

Mae ymgynghoriad bellach yn cael ei gynnal ar y cynnig penodol i dynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru yn ôl. Bydd y cyfnod ymgynghori yn para 12 wythnos, o 16 Medi i 9 Rhagfyr 2024. Tynnir sylw rhanddeiliaid perthnasol at yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr ysgolion y byddai'r cynnig yn cael effaith uniongyrchol arnynt. 

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol? 

Prif effaith y cynnig hwn fydd cynnydd yn atebolrwydd ardrethi annomestig yr ysgolion annibynnol yr effeithir arnynt, gyda’r bwriad o’u cysoni ag ysgolion annibynnol eraill (nad oes ganddynt statws elusennol). Bydd y cynnydd o ran eu hatebolrwydd i dalu’r ardrethi yn amrywio a byddai pob ysgol yn gallu dewis sut i addasu ei model busnes i fodloni’r gost honno, fel y mae ysgolion annibynnol eraill eisoes yn ei wneud. 

Yn seiliedig ar gyfanswm niferoedd y disgyblion a'r ffi gyfartalog ar gyfer disgyblion dibreswyl, amcangyfrifir y bydd yr atebolrwydd ychwanegol yn cyfateb i lai na 2% o'r incwm ffioedd cyffredinol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld ei bod hi'n debygol iawn y bydd effaith sylweddol ar ffioedd cyfartalog, felly, gan nad yw'r goblygiadau ariannol yn sylweddol.

Nododd rhai o'r ymatebwyr i ymgynghoriad blaenorol ar y mater hwn y byddai risg y byddai disgyblion yn symud i ysgolion a gynhelir, pe byddai cynnydd mewn ffioedd yn arwain at benderfyniadau gan rieni i symud eu plant allan o ysgolion annibynnol. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae ysgolion annibynnol yn gyffredinol wedi cynyddu eu ffioedd flwyddyn ar ôl blwyddyn ar lefel uwchlaw chwyddiant, heb i gwymp yn niferoedd y disgyblion gael effaith andwyol ar eu hyfywedd. Mae'n bosibl y bydd ysgolion hefyd yn dod o hyd i ffyrdd eraill o amsugno'r cynnydd yn eu hatebolrwydd yn llawn neu'n rhannol (e.e. lleihau gwargedau, cronfeydd wrth gefn neu wariant nad yw'n wariant hanfodol) yn hytrach na chynyddu ffioedd. Yn hynny o beth, nid ystyrir bod effeithiau anuniongyrchol y gellir eu nodi ar ddisgyblion, o ganlyniad i'r cynnig, yn debygol o ddigwydd. 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y potensial y gallai fod cynnydd bach yn y costau i rai rhieni. O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd nifer bach o ddisgyblion yn symud i'r sector a gynhelir. Yn hynny o beth, ni fydd yn bosibl datgysylltu effaith y cynnig hwn oddi wrth effaith cynlluniau Llywodraeth y DU mewn perthynas â TAW (a gaiff fwy o effaith ariannol). Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi amcangyfrif y bydd 3-7% o ddisgyblion o bosibl yn symud ysgolion yn y tymor canolig i'r tymor hwy o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i eithriadau treth. Mae'r amcangyfrif hwn yn ymwneud yn bennaf â'r newidiadau TAW ac ni ddisgwylir y bydd y cynnig i dynnu rhyddhad elusennol yn ôl yn gwneud cyfraniad sylweddol. Mae'r nifer cysylltiedig o ddisgyblion ond yn cynrychioli cyfran fach iawn (llai na 0.1%) o boblogaeth gyffredinol ysgolion a gynhelir. 

Mae gan bob plentyn o oedran ysgol gorfodol hawl i le mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd y sector a gynhelir yn gallu darparu ar gyfer unrhyw ddisgyblion ychwanegol. Cydnabyddir y gall symud ysgolion fod yn heriol. Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion eisoes brosesau ar waith i gefnogi disgyblion sy'n symud ysgol am unrhyw reswm.

O ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn gwneud y canlynol: 

  1. yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant

  2. yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

Bydd sicrhau y caiff y defnydd o arian cyhoeddus i gefnogi'r sector preifat ei dargedu mewn ffordd briodol yn cefnogi rhai o nodau llesiant Cymru fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd gostyngiad yng nghost darparu rhyddhadau yn golygu y bydd mwy o gyllid ar gael i lywodraeth leol ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n cefnogi'r cymunedau a wasanaethir ganddi, gan gynnwys mewn perthynas ag addysg a phobl ifanc. 

Mae'r cynnig hwn yn cyfrannu at y nod llesiant sy'n anelu at Gymru fwy cyfartal, drwy dynnu gostyngiad treth, y telir amdano drwy gronfeydd cyhoeddus, ar gyfer addysg breifat yn ôl. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gyllid ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn helpu i gefnogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Bydd unrhyw gyfraniad at ymdrechion i ddatblygu poblogaeth fedrus â lefelau addysg da hefyd yn helpu i gyflawni'r nod llesiant sy'n anelu at Gymru lewyrchus.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol anfwriadol sy'n gysylltiedig â'r cynigion sy'n golygu y byddai angen ymgymryd â gweithgareddau lliniaru. 

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth roi'r cynnig ar waith ac ar ddiwedd y broses? 

Byddwn yn parhau i gael data ar ardrethi annomestig gan awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio bob blwyddyn. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro nifer a chost yr eiddo sy'n cael rhyddhad elusennol. 

Bydd Cyfrifiad Ysgolion Annibynnol blynyddol Llywodraeth Cymru yn darparu data i fonitro nifer y dysgwyr yn yr ysgolion annibynnol yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y cynnig hwn. Mewn perthynas â'r potensial y bydd nifer bach iawn o ddisgyblion yn symud o ysgolion annibynnol, ni fydd yn bosibl datgysylltu effaith y cynnig hwn oddi wrth effaith cynlluniau Llywodraeth y DU mewn perthynas â TAW (y byddai disgwyl iddynt gael fwy o effaith). Nid yw'n debygol ychwaith y byddai modd gwahaniaethu rhwng y nifer bach o ddisgyblion a fyddai'n symud a'r amrywiadau arferol o ran niferoedd disgyblion.

Bydd yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn yn cynnig cyfle i ystyried unrhyw effeithiau posibl na nodwyd ac na chynhwyswyd eisoes yn yr asesiad hwn.