Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ers dros 50 mlynedd, roedd talwyr ardrethi a oedd yn meddiannu mwy nag un uned o eiddo mewn adeilad a rennir gyda busnesau a sefydliadau eraill yn cael eu hasesu ar gyfer ardrethi annomestig (NDR) yn seiliedig ar y rhagosodiad canlynol:

  • Lle'r oedd eu hunedau eiddo yn gyffiniol (yn cyffwrdd), roeddent yn cael un bil ardrethi.    
  • Lle'r oedd yr unedau o eiddo'n cael eu gwahanu gan fusnes arall neu arwynebedd mewn cyd-ddefnydd, roeddent yn cael bil ardrethi am bob uned o eiddo. 

Er enghraifft, roedd hyn yn golygu:

  • Lle'r oedd busnes yn meddiannu dau lawr cyffiniol adeilad neu ddwy ystafell sy'n cael eu gwahanu gan wal yn unig, roeddent yn cael un bil ardrethi.
  • Lle'r oedd y busnes yn meddiannu dau lawr wedi'u gwahanu gan lawr arall a ddefnyddir gan fusnes arall, neu'n  meddiannu dwy ystafell ar y naill ochr a'r llall i goridor cyffredin, roeddent yn cael dau fil ardrethi. 

Yn 2015, dyfarnodd y Goruchaf Lys, yn achos Woolway (VO) v Mazars [2015] UKSC 53 (“penderfyniad Mazars”) y dylai'r prawf ymwneud â natur ddaearyddol yr eiddo ac, o ganlyniad, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi newid ei harfer.

Ers dyfarniad y Goruchaf Lys, mae unedau eiddo ar wahân mewn adeilad a rennir yn cael eu trin fel unedau ardrethu  ar wahân ac mae bil ardrethi yn cael ei ddyroddi am bob uned, ni waeth a ydynt o dan yr un feddiannaeth ac yn gyffiniol.  O ganlyniad, mae rhai talwyr ardrethi a oedd yn cael un bil ardrethi yn flaenorol bellach yn cael dau neu fwy.  Mewn rhai achosion, maent wedi gorfod talu mwy mewn ardrethi annomestig o ganlyniad i'r newid hwn, ond mewn achosion eraill, mae biliau wedi gostwng.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ar gynnig Llywodraeth Cymru i adfer elfennau perthnasol arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn y dyfarniad.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru yn unig, ond mae newidiadau tebyg eisoes wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, i adfer arfer blaenorol Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn perthynas ag ardrethu yn Lloegr.

Y cyd-destun

Cyn penderfyniad Mazars, roedd dyfarniad y Llys Apêl yn Gilbert (VO) v S Hickinbottom & Sons Ltd [1956] 2 Q.B. 40 yn cael ei ystyried fel yr achos arweiniol ar adnabod yr uned asesu (a elwir ‘yr hereditament’) ar gyfer Ardrethi Annomestig.

Yn dilyn y rheolau cyffredinol a nodwyd yn yr achos hwnnw, arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio oedd trin eiddo cyffiniol fel un hereditament, pan oedd yn cael ei feddiannu gan yr un person. Ymagwedd Asiantaeth y Swyddfa Brisio at ymdrin ag ystyr "cyffiniol" oedd trin dwy uned o eiddo yn y modd hwnnw lle'r oeddent yn cael eu gwahanu gan wal neu lawr/nenfwd yn unig. Er enghraifft, gall wal neu lawr nenfwd rhwng dwy swyddfa gyffiniol fel arall gynnwys gwasanaethau mewn gwagle, a ddefnyddir gan y landlord, ond ym marn Asiantaeth y Swyddfa Brisio nid oedd mannau o'r fath yn atal yr unedau o eiddo rhag bod yn gyffiniol.

Gan gymryd yr enghraifft isod, mae ystafelloedd A, B ac C ar yr un llawr, yn yr un feddiannaeth, ac wedi'u cysylltu â choridor cyffredin (heb ei ddangos). Mae ystafelloedd B ac C yn cael eu gwahanu gan ystafelloedd eraill mewn meddiannaeth wahanol.  Byddai Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi ystyried bod ystafelloedd A a B yn gyffiniol ac yn ffurfio un hereditament, ond nid ystafell C, a fyddai'n ffurfio hereditament ar wahân.

Image
yn dangos agosrwydd swyddfeydd A a B yn 'ôl i'r cefn' ac wedi'u gwahanu gan waliau. Nid yw Swyddfa C yn cyffwrdd â naill ai A neu B ac mae wedi'i gwahanu gan swyddfeydd eraill.

Yn yr enghraifft isod, mae ystafell D ar y llawr uwchben ystafelloedd E ac F, yn yr un feddiannaeth ac wedi'i chysylltu â choridorau a grisiau cyffredin (heb eu dangos).  Byddai Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi ystyried bod ystafelloedd D ac E yn gyffiniol ac yn ffurfio un hereditament, ond nid ystafell F, a fyddai'n ffurfio hereditament ar wahân.

Image
yn dangos agosrwydd swyddfeydd wedi'u gwahanu gan loriau a nenfydau. Mae Swyddfa D yn uniongyrchol uwch na'r swyddfa E. Nid yw Swyddfa F yn nesaf at, neu'n uwch neu'n is na swyddfa D neu E.

Roedd rhai eithriadau i'r rheolau cyffredinol:

  1. Byddai dau eiddo cyffiniol o dan yr un feddiannaeth yn dal i gael eu trin fel hereditamentau ar wahân lle'r oedd y ddwy ran yn cael eu defnyddio at ddibenion cwbl wahanol. Un enghraifft, o bosibl, yw lle'r oedd un rhan yn gallu cael ei gosod ar wahân a dim yn cael ei defnyddio.
  2. Byddai dau eiddo nad ydynt yn gyffiniol sydd wedi'u gwahanu gan briffordd gyhoeddus neu fan cyffredin (megis coridor cyffredin) yn dal i gael eu hasesu fel un hereditament lle gellid dangos bod cysylltiad swyddogaethol digon cryf rhwng y ddwy ran.  Un enghraifft fyddai dwy ran o barc hamdden sydd wedi'u wahanu gan ffordd.

Cafodd y rheolau cyffredinol hyn eu derbyn a'u mabwysiadu'n eang mewn ardrethu annomestig.

Achos Mazars

Yn achos Mazars, canfu'r Goruchaf Lys mai'r prif brawf wrth benderfynu beth yw hereditament yw y dylai ymwneud â natur ddaearyddol yr eiddo.

O ganlyniad i benderfyniad Mazars, newidiodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei dull gweithredu.  Y rheol gyffredinol sy'n cael ei gweithredu yng Nghymru bellach yw na ellir asesu dau eiddo cyffiniol o dan yr un feddiannaeth fel un ond os gellir eu hystyried yn ddarn o eiddo hunangynhwysol. Fel arfer, bydd hyn yn gymwys os yw'r ddwy ran yn hygyrch yn gorfforol oddi wrth ei gilydd heb orfod mynd i eiddo arall neu drwy rannau cyffredin (megis coridor cyffredin neu risiau).

Yn yr enghreifftiau uchod, byddai eiddo A a B a D ac E i gyd bellach yn cael eu graddio ar wahân ac yn cael eu biliau ardrethi eu hunain. Pe bai'r talwr ardrethi yn creu drws drwy'r wal rhwng eiddo A a B, neu risiau drwy'r llawr/nenfwd rhwng eiddo D ac E, byddai'r unedau unwaith eto'n un hereditament.

Gall eiddo a fyddai fel arall yn ffurfio un hereditament gael ei asesu ar wahân o hyd pan gaiff ei ddefnyddio at ddibenion cwbl wahanol. A gellir asesu dau eiddo ar wahân o hyd fel un os oes cysylltiad swyddogaethol digon cryf rhyngddynt. 

Effaith penderfyniad Mazars

Arweiniodd y newid yn arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dilyn penderfyniad Mazars at nodi 466 o achosion yng Nghymru.  Nodwyd yr achosion yn bennaf mewn pryd i newid rhestr ardrethu 2010, gyda 54 yn cael eu nodi ar ôl i restr ardrethu 2017 gael ei chyhoeddi.

O'r eiddo yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad, ni welodd 57 unrhyw newid i'w gwerth ardrethol, gwelodd 246 gynnydd, tra gwelodd 163 ostyngiad.  Gwelodd codiadau a gostyngiadau newid cyfartalog yn y gwerth ardrethol o tua £4,500, o ganlyniad i'r newid mewn methodoleg. 

Effaith gyffredinol y newid ar y sylfaen drethi yw cynnydd o £480,000 yn y gwerth ardrethol. Mae hyn yn arwain at gynnydd mewn refeniw a gesglir gan yr awdurdodau lleol, unwaith y bydd y lluosydd blynyddol a'r rhyddhad yn cael eu cymryd i ystyriaeth.

Mae'n hysbys bod yr effaith ar refeniw yn gymedrol, yn seiliedig ar gydbwysedd y newidiadau yn y gwerth ardrethol. Ni fu modd cyfrifo'r union effaith, oherwydd ffactorau megis y terfyn eiddo lluosog ar gyfer talwyr ardrethi sy'n cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. Mae amrywiaeth o ffactorau eraill hefyd a allai arwain at newid yn y gwerth ardrethol.

Cynnydd i'r gwerth ardrethol cyffredinol oherwydd colli ‘disgownt cwantwm’  

Wrth brisio ardrethi, gall eiddo mwy ddenu gwerth is am bob metr sgwâr o le nag eiddo tebyg llai.  Mae hyn yn adlewyrchu'r arfer yn y farchnad lle bydd landlordiaid yn cytuno ar ddisgownt i denantiaid sy'n cymryd mwy o le.& Gelwir hyn yn ‘ddisgownt cwantwm’.

Byddai rhai o'r eiddo a aseswyd yn flaenorol fel un hereditament cyn penderfyniad Mazars wedi elwa o'r disgownt cwantwm hwn. Mae'n bosibl bod yr asesiad ar wahân o'r eiddo hynny gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, o ganlyniad i benderfyniad Mazars, wedi lleihau neu ddileu'r disgownt cwantwm. O ganlyniad, bydd y gwerth ardrethol cyffredinol ar gyfer yr eiddo o dan sylw yn cynyddu a gallai'r talwr ardrethi wynebu bil ardrethi uwch.  Er hynny, nid oes modd dweud gyda sicrwydd faint y mae gwerthoedd wedi newid o ganlyniad i benderfyniad Mazars a faint sy'n codi o ffactorau eraill.

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Yng Nghymru, dim ond ar gyfer hyd at ddau eiddo i bob  ardal awdurdod lleol y mae talwyr ardrethi yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac mae'r rhyddhad wedi'i gyfyngu i eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000.

Gallai rhai talwyr ardrethi a oedd yn gymwys i gael SBRR, ond sydd wedi gweld eu heiddo yn cael ei hollti'n rhannau o ganlyniad i benderfyniad Mazars, fod wedi colli'r rhyddhad oherwydd bod ganddynt bellach fwy na dau hereditament i bob awdurdod lleol.

Mae'n bosibl bod rhai talwyr ardrethi nad oeddent yn gymwys i gael SBRR o'r blaen oherwydd bod eu gwerth ardrethol yn fwy na £12,000 wedi dod yn gymwys ar ôl i'w hereditament gael ei hollti at ddibenion ardrethu.

Mae gwybodaeth gyfyngedig ar gael am yr effaith y byddai unrhyw newid i'r dull prisio yn ei chael ar gymhwysedd i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. 

Adfer arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn penderfyniad Mazars

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ystyried:

  • a ddylai elfennau perthnasol o arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn penderfyniad Mazars gael eu hadfer neu beidio; a
  • sut y dylid trin hereditamentau yr effeithir arnynt gan benderfyniad Mazars.

Er enghraifft, byddai modd adlewyrchu'r canlynol mewn deddfwriaeth:

  • Rhagnodi amgylchiadau lle y bydd dau neu fwy o hereditamentau a feddiannir gan yr un person yn cael eu trin fel un hereditament.    
  • Darparu, pan fo dau neu fwy o hereditamentau yn cael eu meddiannu gan yr un person ac yn bodloni'r amod cyffinioldeb, y cânt eu trin fel un hereditament.    
  • Nodi amod cyffinioldeb. Mae hereditamentau yn bodloni'r amod lle maent yn gyffiniol â'i gilydd a lle ceir cadwyn o gyffinioldeb.  Gallai dau hereditament yn gyffiniol:  
    • os oes rhan neu'r cyfan o wal un hereditament yn ffurfio'r cyfan neu ran o wal yr hereditament arall; neu
    • os oes rhan neu'r cyfan o lawr un hereditament yn ffurfio'r cyfan neu ran o nenfwd yr hereditament arall; neu.

Gallai Llywodraeth Cymru hefyd sicrhau nad yw hereditamentau a ddefnyddir at ddibenion cwbl wahanol yn cael eu cynnwys yn narpariaethau unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig. Yr arfer cyn ac ar ôl penderfyniad Mazars yw y dylai dwy uned neu fwy o eiddo a ddefnyddir at ddibenion cwbl wahanol fod yn hereditamentau ar wahân. Felly, gallai deddfwriaeth eithrio hereditamentau a ddefnyddir at ddibenion cwbl wahanol.    

Ni fwriedir i unrhyw ddeddfwriaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru hefyd yn tarfu ar gyfraith achosion sefydledig. O dan y gyfraith hon byddai dau eiddo nad ydynt yn gyffiniol sydd wedi'u gwahanu gan briffordd gyhoeddus neu fan cyffredin (megis coridor cyffredin) yn dal i gael eu hasesu fel un hereditament lle gellid dangos bod cysylltiad swyddogaethol digon cryf rhwng y ddwy ran.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud is-ddeddfwriaeth i adfer arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio, cyn penderfyniad Mazars, i gyd-fynd â dechrau rhestr ardrethu 2023 a'i gymhwyso at y dyfodol. Os caiff unrhyw gynigion deddfwriaethol yn cael eu datblygu, byddai ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal ar agweddau technegol fel y ddeddfwriaeth hon.

Effaith ar restrau ardrethi 2010 a 2017

Gwnaed penderfyniad y Goruchaf Lys yn 2015 ac ers hynny mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi gwneud newidiadau i'r rhestrau ardrethi.

Efallai y bydd rhai talwyr ardrethi wedi gweld effaith penderfyniad Mazars yn cael ei ôl-ddyddio i'w heiddo mor bell ag 1 Ebrill 2010. Er hynny, ni all  Asiantaeth y Swyddfa Brisio bellach ddiwygio rhestr ardrethi 2010. Ers mis Ebrill 2018, mae rhestr ardrethi 2010 wedi'i chau heblaw am gynigion a gyflwynwyd eisoes. 

Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddyletswydd i gynnal rhestr ardrethi gyfredol 2017 ac, yn ddarostyngedig i rai cyfyngiadau, rhaid iddynt gadw'r rhestr ardrethi yn ôl-weithredol yn ôl i 1 Ebrill 2017 yn ôl yr angen. Er mwyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio gynnal rhestr ardrethu 2017 i adlewyrchu adfer yr arfer cyn penderfyniad Mazars, byddai angen newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol.

Er mwyn caniatáu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ailgymhwyso  ei harfer blaenorol i'r eiddo yr effeithir arno ar restr ardrethu 2017, gallai Llywodraeth Cymru ddeddfu i unrhyw newidiadau fod yn ôl-weithredol. Er hynny, ni ellid cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol mewn pryd ar gyfer dechrau rhestr ardrethi 2023. Byddai'n debygol o fod yn sawl blwyddyn arall cyn i gyfle i wneud deddfwriaeth godi. Pe bai newidiadau ôl-weithredol yn cael eu gwneud, byddai'n ofynnol iddynt fod yn deg ac yn gymesur a dim yn anghydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwneud newidiadau a fydd yn gymwys yn y dyfodol  yn unig ac i beidio ag ôl-ddyddio'r newidiadau i restrau 2010 neu 2017.  

Safbwyntiau

Hoffem glywed eich barn ar drin eiddo wedi'i hollti at ddibenion ardrethu ac effaith bosibl adfer arfer blaenorol Asiantaeth y Swyddfa Brisio, fel sydd wedi ei wneud eisoes yn Lloegr. Hoffem hefyd glywed eich barn ar sut y dylid trin hereditamentau y mae penderfyniad Mazars yn effeithio arnynt, gan ystyried effaith y newidiadau ar eu biliau ardrethi annomestig.    

Rydym yn cydnabod y gallai adfer yr arfer o drin eiddo wedi'i hollti fel un hereditament mewn rhai amgylchiadau effeithio ar filiau ardrethi i dalwyr ardrethi penodol.  Rydym hefyd yn cydnabod bod camau ôl-weithredol yn arwain at effaith fwy sylweddol ar y talwyr ardrethi hynny y mae eu bil ardrethi'n cynyddu o ganlyniad i newidiadau.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1

Beth yw eich barn am y cynnig i adfer arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn penderfyniad Mazars?

Cwestiwn 2

Beth yw eich barn am y cynnig i flaenoriaethu gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol i fod yn gymwys o ddechrau rhestr ardrethi 2023?

Y Gymraeg

Mae ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ yn un o saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn gweithio tuag at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gwahoddir sylwadau am yr effeithiau (boed cadarnhaol neu negyddol) y gallai newidiadau i drin eiddo wedi'i hollti at ddibenion ardrethu eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 3

Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn am yr effeithiau posibl y gallai newid y gyfraith sy'n gymwys i ardrethu eiddo wedi'i hollti eu cael ar y Gymraeg, yn benodol:

  1. ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; ac
  2. ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 4

Esboniwch hefyd sut yr ydych yn credu y gellid datblygu polisi ar ardrethu eiddo wedi'i hollti er mwyn:

  1. cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a
  2. osgoi unrhyw effaith niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 5

A oes gennych unrhyw safbwyntiau eraill am ardrethu eiddo wedi'i hollti mewn perthynas ag ystyriaethau'r Gymraeg?

Y camau nesaf

Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor am gyfnod o 12 wythnos. Pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, caiff yr holl ymatebion eu dadansoddi ac fe'u defnyddir i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylid gwneud newidiadau i'r ffordd o drin eiddo wedi'i hollti at ddibenion ardrethi yng Nghymru.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma.

Sut i ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 1 Mehefin 2022, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod i ni.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y Du ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.  Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.  Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol.  Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol).  Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath.  Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb.  Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif LlC: WG44686

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.