Neidio i'r prif gynnwy

Termau allweddol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Datblygu Cynaliadwy

Mae datblygu cynaliadwy yn golygu’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau gweithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, i gyflawni’r amcanion llesiant.

Nodau llesiant

Mae’r saith nod llesiant yn dangos y Gymru yr hoffem ei gweld. Gyda’i gilydd, maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd, ac yn disgrifio’r canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a fydd yn gwneud Cymru yn wlad fwy cynaliadwy.

Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn golygu gweithredu mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Mae hyn yn golygu meddwl am y dyfodol yn yr hyn a wnawn.

Mae’r egwyddor yn cynnwys pum ffordd o weithio y mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus eu hystyried wrth gymhwyso datblygu cynaliadwy. Dyma nhw:

  • Edrych ar bethau o safbwynt yr hirdymor er mwyn sicrhau nad ydym yn peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain
  • Mabwysiadu dull integredig fel bod cyrff cyhoeddus yn ystyried yr holl nodau llesiant wrth benderfynu ar eu hamcanion llesiant
  • Cynnwys amrywiaeth o bobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
  • Gweithio ar y cyd ag eraill er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy cyffredin
  • Deall yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd

Dyletswydd Llesiant Unigol ar gyrff cyhoeddus

Mae gan rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ymgymryd â datblygu cynaliadwy – dyma’r ddyletswydd llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i gyrff cyhoeddus bennu a chyhoeddi amcanion sydd â'r nod o sicrhau eu bod yn cyfrannu i’r eithaf at gyflawni pob un o’r nodau llesiant ac yn cymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion.

Cyd-ddyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus

Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant. Rhaid i hyn gynnwys asesu cyflwr llesiant, pennu amcanion llesiant lleol, a chymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny.

Dyletswydd llesiant ar gynghorau cymuned

Mae gan rai cynghorau cymuned a thref ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol tuag at gyflawni’r amcanion lleol sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun llesiant lleol sydd mewn grym yn eu hardaloedd.

Cerrig Milltir a Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol

Er mwyn ein helpu ni i wybod a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at y saith nod llesiant, mae gennym 50 o ddangosyddion cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir cenedlaethol yn gyfres o fesurau yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol sy’n nodi ein disgwyliadau o’r hyn y dylai’r dangosyddion ei ddangos yn y dyfodol.

Cyflwyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Mae gennym gyfraith yng Nghymru sy’n ein helpu ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant. Er mwyn pobl, ac er mwyn ein planed. Yn awr, ac ar gyfer ein dyfodol.

Gelwir hyn yn Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel ‘Deddf LlCD’). Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol mewn ffordd sy’n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae Deddf LlCD wedi’i chynllunio i hwyluso canlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru a’n planed, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae Deddf LlCD yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n rhoi saith nod llesiant i ni sydd â’r nod o greu Cymru sy’n fwy cyfartal, ffyniannus, iach, cydnerth a chyfrifol ar lefel fyd-eang gyda chymunedau mwy cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Dyletswydd Llesiant ar gyrff cyhoeddus unigol

Mae Deddf LlCD yn rhoi dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i ymgymryd â datblygu cynaliadwy.

Rhaid i gyrff cyhoeddus, wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy, bennu a chyhoeddi eu hamcanion llesiant. Rhaid i’r amcanion llesiant gael eu cynllunio i sicrhau bod y corff cyhoeddus yn cyfrannu cymaint â phosibl at gyflawni pob un o’r nodau llesiant.

Bydd gan wahanol gyrff cyhoeddus fwy o gapasiti a gallu i gyfrannu at gyflawni rhai neu’r cyfan o’r nodau llesiant nag eraill. Fodd bynnag, mae’r ddyletswydd yn ymwneud â’r cyfraniad y gall corff cyhoeddus ei wneud. Mae Deddf LlCD yn rhoi hyblygrwydd i gyrff cyhoeddus wrth bennu amcanion llesiant i wneud hynny mewn ffordd sy’n gweddu i'w rôl a’u swyddogaethau.

Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol (wrth arfer eu swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion llesiant a bennwyd ganddynt. Bydd terfyn bob amser o ran faint o gyllid, pobl, amser ac asedau sydd ar gael i gymryd y camau angenrheidiol. Ond mae angen adolygu’r ystyriaeth a roddir i’r ffactorau hyn drwy’r pum ffordd o weithio a ddarperir gan yr egwyddor datblygu cynaliadwy o’i gymharu â’r cyfraniad a wneir gan yr amcanion llesiant.

Mae rhagor o fanylion am y gofynion penodol sydd ar gyrff cyhoeddus ar gael yn y canllawiau statudol

Pa gyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru ar hyn o bryd?

Mae 48 o gyrff cyhoeddus wedi’u rhestru ar hyn o bryd yn adran 6 y Ddeddf, ac mae’n ofynnol iddynt fodloni’r ddyletswydd llesiant, sef:

  • Awdurdodau Lleol (mae’r 4 Cyd-bwyllgor Corfforedig a sefydlwyd yn 2021 wedi’u cynnwys ers Rhagfyr 2021)
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (mae Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd fel corff hyd braich, ac yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru)
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru)
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Cymru)
  • Gweinidogion Cymru

Beth mae cyrff cyhoeddus wedi bod yn ei wneud o dan Ddeddf LlCD?

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi bod yn casglu astudiaethau achos sy’n dangos sut mae Deddf LlCD yn cael ei gweithredu yn ymarferol ledled Cymru. Roedd Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, a luniwyd ac a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd, hefyd yn rhoi enghreifftiau o gyrff a sefydliadau eraill sy'n gweithio i gyflawni canlyniadau cynaliadwy.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Wedi yn cynnwys pobl mewn ffyrdd arloesol newydd – Llunio Fy Mannau Brycheiniog – drwy Minecraft, gan fabwysiadu cynllun datblygu lleol “cymdogaeth 20 munud”.

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Wedi cyflwyno cerbydau sy'n cael eu pweru gan hydrogen a beiciau trydan i annog staff i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy gymhellion fel 'Siarteri Teithio Iach’.

Amgueddfa Cymru

Wedi cydweithio â byrddau iechyd i roi gwaith celf mewn ysbytai maes adeg y pandemig, ac wedi defnyddi presgripsynu cymdeithasol, gan gynnig  casgliadau amgueddfeydd i bobl â dementia, er enghraifft.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Wedi edrych ar fanteision amgylcheddol a chymunedol posibl eu hystadau ac ysbyty newydd.

Ffynhonnell: Adroddiad Perfformiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2021 i 2022: Crynodeb.

Adolygiad o'r cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i Ddeddf LlCD

Pam adolygu'r rhestr o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i Ddeddf LlCD?

Ers i Ddeddf LlCD ddod yn gyfraith, mae cyd-destun y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi newid ac mae’n briodol ein bod yn asesu a oes cyfiawnhad dros ddynodi cyrff cyhoeddus ychwanegol yn gyrff sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf.

Mae’r penderfyniad i gynnal adolygiad wedi’i lywio a’i hyrwyddo gan:

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Felly, beth sy'n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol (Mai 2020), a nododd bod nifer o gyrff cyhoeddus newydd wedi’u sefydlu ers 2015 ond nad ydynt wedi cael eu dynodi o dan Ddeddf LlCD ac y gallai fod cyfiawnhad dros ddynodi cyrff eraill sydd eisoes yn bodoli (fel Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlyans Cymru) hefyd.

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (5ed Senedd) Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol – y stori hyd yma (Mawrth 2021). Mae argymhelliad 7 yr adroddiad yn nodi "Rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o'r cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf. Dylid gweithredu canfyddiadau’r adolygiad hwnnw mewn digon o amser i unrhyw gyrff cyhoeddus sydd newydd eu hychwanegu dderbyn eu dyraniadau cyllid a’u llythyrau cylch gwaith cysylltiedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiadau uchod, a ddiwedd 2021 ymrwymodd i gynnal adolygiad o’r cyrff cyhoeddus y mae’r Ddeddf yn berthnasol iddynt.

Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Mae'r adolygiad hwn yn cael ei gynnal ochr yn ochr â datblygu a chyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a gyflwynwyd yn y Senedd ar 7 Mehefin 2022 ac mae'n darparu ar gyfer fframwaith i wella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg, a chynnal caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Mae’r Bil yn gosod dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol newydd ar rai cyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru. Bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus geisio consensws neu gyfaddawd â’u hundebau llafur cydnabyddedig neu (os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill eu staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni’r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf LlCD.   

Y cyrff a fydd yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig fydd y cyrff hynny sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant a restrir yn Adran 6 o Ddeddf LlCD.

Bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol yn diwygio Deddf LlCD i roi “gwaith teg” yn y nod llesiant “Cymru lewyrchus” yn lle “gwaith addas”. O ganlyniad, bydd angen i bob corff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf honno – gan gynnwys Gweinidogion Cymru – ystyried gwaith teg wrth anelu at y nod llesiant “Cymru lewyrchus”. Mae’r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil yn cynnig canllawiau anstatudol ar waith teg, nad yw wedi’i ddiffinio ar hyn o bryd. 

Meini prawf ar gyfer ychwanegu cyrff cyhoeddus newydd

Wrth adolygu’r rhestr o gyrff, rydym wedi ystyried yr adroddiadau a’r argymhellion a nodwyd uchod. Rydym hefyd wedi ystyried yr ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol.

Dewiswyd cyrff sy’n cael eu galluogi gan y ddyletswydd llesiant yn Rhan 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar y sail mai eu cylch gwaith neu eu swyddogaethau nhw sy’n cael yr effaith fwyaf ar lesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, ac ar y rhain sydd â’r swyddogaethau cynllunio corfforaethol a pholisi strategol.

Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol diwygiedig ar gyfer Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), cafodd yr awdurdodau cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf LlCD eu nodi ar ôl ystyried cyfres o bedwar maen prawf sy'n cwmpasu cyllid, effaith ar lesiant, swyddogaethau ac a ydynt yn archwiliadwy.

Defnyddiwyd meini prawf wedi'u diweddaru ar gyfer yr adolygiad hwn, sy'n adlewyrchu cynnwys y prawf statudol yn Adran 52 o Ddeddf LlCD, ac a oes gan yr Archwilydd Cyffredinol yr awdurdod i archwilio'r cyrff.

Meini prawf ar gyfer dewis cyrff cyhoeddus i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant yn Rhan 2 o Ddeddf LlCD

Meini Prawf

Statudol (a.52)

Corff cyhoeddus 

Dim ond cyrff sydd â swyddogaethau cyhoeddus y gellir eu hychwanegu at y rhestr.

Meini Prawf

Anstatudol.

Cyllid

Mae dros 50% o gyllid yr awdurdod yn gyllid cyhoeddus.

Effaith ar Lesiant:

Mae’r awdurdod yn cyflawni swyddogaethau neu weithgareddau sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru neu eu hardal leol.

Swyddogaethau:

Mae gan yr awdurdod swyddogaethau strategol.

Archwiliadwy:

Mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yr awdurdod i archwilio'r corff. 

Pŵer i newid y rhestr

Mae adran 52 o Ddeddf LlCD yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r rhestr o gyrff cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu neu dynnu corff cyhoeddus neu ddiwygio’r disgrifiad. Dim ond cyrff sydd â swyddogaethau cyhoeddus y gellir eu hychwanegu at y rhestr.

Rhestr arfaethedig o gyrff

Rydym wedi gweithio â swyddogion polisi ar draws Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad cychwynnol o ba sefydliadau sy’n bodloni’r meini prawf sydd wedi’u nodi ym mharagraff 6 uchod. Edrychwyd ar gyrff cyhoeddus datganoledig newydd a sefydlwyd ers 2015. Rydym wedi nodi wyth corff newydd y bwriadwn ymestyn y ddyletswydd llesiant yn Rhan 2 o Ddeddf LlCD iddynt.

Rhestr arfaethedig o gyrff

Blwyddyn

Cymwysterau Cymru

2015

Gofal Cymdeithasol Cymru

2016

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

2018

Awdurdod Cyllid Cymru

2018

Trafnidiaeth Cymru

2018

Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

2020

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

2021

Cyrff eraill a gynigir:

  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cyrff cynghori ac arolygiaethau

Nid yw cyrff cynghori, tribiwnlysoedd a chyrff arolygu wedi'u cynnwys gan nad oes ganddynt swyddogaethau gweithredol ac nid ystyrir eu bod yn bodloni’r prawf swyddogaethau o fod â swyddogaethau strategol sy'n berthnasol i Ddeddf LlCD. Mae hyn yn cynnwys Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Sefydliadau Addysg Uwch a Chorfforaethau Addysg Bellach

Mae Sefydliadau Addysg Uwch a Chorfforaethau Addysg Bellach yn cael eu heithrio am eu bod yn sefydliadau di-elw sy'n gwasanaethu aelwydydd sy'n annibynnol ar reolaeth y llywodraeth ac nad ydynt yn archwiliadwy.

Mae Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ("y Bil") yn darparu ar gyfer sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd. Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n un o'r cyrff cyhoeddus presennol sy'n ddarostyngedig ddyletswydd llesiant corff unigol. Bydd y dyletswyddau hyn yn cael eu trosglwyddo i'r Comisiwn newydd.

Yn ogystal, mae'r Bil yn creu dyletswydd ar y Comisiwn i hyrwyddo cenhadaeth ddinesig gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy'n sefydliadau yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Diffinnir "cenhadaeth ddinesig" yn is-adran (3) fel "gweithredu at ddiben hybu neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys gweithredu sydd wedi ei anelu at gyflawni unrhyw un neu ragor o'r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc2))”.

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Nid yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi’u cynnwys oherwydd y lefel amrywiol o arian cyhoeddus y maent yn ei dderbyn.

Mae llawer o’r sefydliadau y cyfeirir atynt uchod wedi ymgorffori’r dull Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gwaith a byddwn yn parhau i ystyried sut y gellir rhannu ac ehangu’r arferion hyn ledled Cymru. Trwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am sylwadau ar ba gyfleoedd sydd i’r sefydliadau hyn gyfrannu at y nodau llesiant, a gwneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol.

Amserlenni

Rydym yn cynnig y byddai’r cyrff newydd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant o 1 Ebrill 2023 ymlaen, ac y byddai disgwyl i gyrff bennu eu hamcanion llesiant o fewn 12 mis (erbyn mis Mawrth 2024).

Ar ôl pennu eu hamcanion, bydd yn ofynnol i gyrff adolygu’r rhain yn flynyddol. Ar ôl cyhoeddi’r amcanion llesiant cyntaf, mae’n bosibl y bydd cyrff cyhoeddus yn penderfynu eu bod am newid un neu ragor o’u hamcanion llesiant. Nid oes dyddiad cau nac amser penodol pan dylai hyn ddigwydd.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Nid yw ymestyn y  ddyletswydd llesiant (Rhan 2 – dyletswydd corff cyhoeddus unigol) i’r wyth corff newydd yn newid aelodaeth statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac nid yw ychwaith yn newid y rhestr o gyrff y mae’n rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eu gwahodd i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r bwrdd. Fodd bynnag, byddem yn annog y cyrff newydd hyn i gymryd rhan yng ngwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus pan fo hynny’n berthnasol i gyflawni’r nodau llesiant.

Trefniadau ar gyfer ychwanegu cyrff

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y cyrff yr ydym am ymestyn y ddyletswydd iddynt ym mis Ebrill 2023. Gan nad yw cyrff cyhoeddus newydd yn cael eu hychwanegu'n awtomatig at Adran 6 o Ddeddf LlCD byddwn yn sicrhau, pan gaiff cyrff newydd eu datblygu, ein bod yn ystyried ar yr adeg berthnasol a ydynt yn bodloni’r profion uchod ac y dylent hefyd fod yn ddarostyngedig i Ddeddf LlCD.

Cefnogi cyrff cyhoeddus newydd sy'n ddarostyngedig i Ddeddf LlCD

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i arwain y newid ac yn parhau i gefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy.

Bydd yn gwneud hyn drwy’r amryfal ddulliau ysgogi a chysylltiadau sydd ganddi â chyrff cyhoeddus, ac ar y lefel genedlaethol bydd yn  cynnull Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i roi cyngor ar y gwaith o barhau i weithredu Deddf LlCD.

Ers cyflwyno’r Deddf LlCD, mae’r cyrff cyhoeddus presennol wedi datblygu eu dealltwriaeth o ofynion y ddeddfwriaeth a’u gwybodaeth amdani.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi a datblygu nifer o ddogfennau canllaw ochr yn ochr â gwaith parhaus Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i gefnogi a monitro’r modd y mae’r cyrff cyhoeddus presennol yn rhoi dyletswydd llesiant Ddeddf LlCD ar waith.

Gan fod llawer o ddysg a phrofiad o fewn y cyrff cyhoeddus presennol, bydd Llywodraeth Cymru yn dod â chyrff at ei gilydd i rannu arferion gorau, cysylltu cydweithwyr â’i gilydd a rhannu’r hyn a ddysgwyd. Rydym yn gwahodd y cyrff presennol i rannu eu profiadau a’u gwersi wrth iddynt fabwysiadu’r ddyletswydd llesiant pan ddaeth i rym i ddechrau ym mis Ebrill 2016.

Drwy Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae Deddf LlCD yn darparu ar gyfer diben a rennir sy'n gyfreithiol rwymol, ynghyd â ffyrdd cyffredin o weithio a gwerthoedd a fydd yn ein helpu i wella llesiant pobl a'n planed.

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

O ystyried y newid sydd ei angen yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio i wreiddio datblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol, cydnabuwyd bod angen ffynhonnell annibynnol o gefnogaeth i helpu i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, rhannu arferion da ac ysbrydoli’r trawsnewid sydd ei angen. I gydnabod yr heriau hyn, crëwyd sefydliad newydd o dan Ddeddf LlCD sef Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Rôl y Comisiynydd yw bod yn warcheidwad i genedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn golygu helpu cyrff cyhoeddus a’r rheini sy’n llunio polisïau yng Nghymru i feddwl am effeithiau tymor hir eu penderfyniadau. Eu dyletswydd gyffredinol yw hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am rôl y Comisiynydd ar wefan LLYW.CYMRU yn ogystal ag ar wefan y Comisiynydd.  

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, drwy ei  Hadroddiadau Blynyddol ac Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol wedi manylu ar y gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, drwy ei adroddiadau archwilio unigol, a’i adroddiadau i’r Senedd, wedi nodi arferion da a meysydd i’w gwella o ran sut mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn seiliedig ar eu dyletswyddau archwilio. Mae Archwilio Cymru hefyd yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau dysgu ar y cyd (Cyfnewidfa Arfer Da) ar bynciau sy’n gyffredin ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac sy’n seiliedig ar y ffyrdd o weithio a nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cydlynwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru a Mwy

Mae CDDC+ (Cydgysylltwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru a Mwy) yn rhwydwaith o lunwyr polisi ac ymarferwyr sy'n ymgorffori datblygu cynaliadwy yn ein sefydliadau sector cyhoeddus, gan ymateb i Ddeddf LlCD.

Cymorth polisi

Mae'r nodau llesiant yn cwmpasu amrywiaeth o ganlyniadau polisi y gallai cyrff cyhoeddus fod angen cyngor arbenigol yn eu cylch. Bydd cyrff cyhoeddus yn gallu defnyddio polisi cenedlaethol a ffynonellau tystiolaeth presennol i gefnogi eu gwaith.

Er enghraifft, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cydweithio ag arbenigwyr polisi blaenllaw i roi tystiolaeth a chyngor annibynnol o ansawdd uchel i weinidogion, y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus sy'n eu helpu i wella penderfyniadau a chanlyniadau polisi. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i gael gafael ar, cynhyrchu, gwerthuso a chymhwyso tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio i fynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol allweddol.

Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni Strategaeth Ddigidol Cymru. Bydd safonau gwasanaeth digidol sy'n gyffredin ar draws pob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn ymgorffori dull o ddylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn darparu gwell gwasanaethau a chanlyniadau iddynt. Mae'r Ganolfan yn sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu cynllunio, eu mabwysiadu, eu hyrwyddo a'u cynnal. Defnyddir y safonau i helpu sefydliadau i ystyried yr holl elfennau sy'n arwain at well gwasanaethau i bobl Cymru. Y cyntaf o'r safonau hyn yw canolbwyntio ar lesiant pobl yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Academi Wales

Mae her o ran arweinyddiaeth i bobl ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru feddwl am y tymor hir ac arwain y ffordd o ran gweithio'n wahanol o fewn ysbryd a llythyren Deddf LlCD. Mae rhaglenni a dosbarthiadau meistr Academi Wales yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae Academi Wales yn cefnogi arweinwyr y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn y dyfodol a'r presennol ledled Cymru drwy ystod eang o ymyriadau datblygu arweinyddiaeth, gan gynnwys ei Ysgolion Haf a Gaeaf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, dosbarth meistr 'Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol', a digwyddiadau Dysgu a Rhannu a gyflwynir drwy ei Chymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan (AWCIC).

Cyfnewid Syniadau Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiadau cyfnewid i ddod ag ymarferwyr ar draws y sector cyhoeddus ac eraill at ei gilydd i rannu enghreifftiau a’r hyn a ddysgwyd o ran rhoi Deddf LlCD ar waith. Byddwn yn cynnal gweminar Cyfnewid pwrpasol ar gyfer y cyrff newydd a restrir uchod yn ystod y cyfnod ymgynghori. I gael rhagor o fanylion, anfonwch e-bost i dyfodol.cynaliadwy@llyw.cymru.

Yr effaith ar gyrff newydd

O dan Ddeddf LlCD, mae’n ofynnol i’r cyrff cyhoeddus y mae'n berthnasol iddynt ymgymryd â datblygu cynaliadwy, sy'n ddyletswydd barhaus i sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw'r brif egwyddor drefniadol.

Rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried y nodau llesiant fel set integredig er mwyn sicrhau bod y cysylltiadau sylfaenol rhwng gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn cael eu cydnabod. Os yw'n ymddangos bod dull gweithredu yn gyson ag un nod ond nad yw efallai’n gyson â nodau eraill, bydd cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn helpu i ddod o hyd i ateb sy'n taro cydbwysedd priodol rhwng y nodau a ffactorau perthnasol eraill.

Wrth ddilyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy, rhaid i gyrff cyhoeddus ddilyn y pum ffordd o weithio drwy ystyried y ffactorau a ddisgrifir yn  Neddf LlCD (y pum ffordd o weithio). Mae dyletswydd i ystyried materion yn ddyletswydd i'w hystyried ochr yn ochr â materion eraill cyn gwneud penderfyniad.

Nid yw dyletswydd corff cyhoeddus i ystyried pwysigrwydd y ffyrdd hynny o weithio yn pennu'r penderfyniad y mae'n rhaid iddynt ei wneud mewn unrhyw sefyllfa benodol: yn hytrach mae’n nodi'r ffactorau y mae'n rhaid iddynt eu hystyried cyn gwneud penderfyniad y mae'r ddyletswydd llesiant yn berthnasol iddo. Mae angen i gyrff cyhoeddus sy'n gwneud penderfyniadau o'r fath sicrhau bod ganddynt gofnod dogfennol clir o'u hystyriaethau, gan nodi naratif o sut yr ystyriwyd y ffactorau a'r casgliadau y daeth y cyrff iddynt, ar ôl pwyso a mesur y ffactorau yn erbyn ei gilydd ac unrhyw ffactorau eraill sy'n berthnasol i'r penderfyniad. Gall methu ag ystyried y ffactorau hyn arwain at her adolygiad barnwrol ar y sail bod y corff cyhoeddus wedi methu â rhoi sylw i ystyriaethau perthnasol.

Perthynas â dyletswyddau eraill

Nid yw dyletswydd llesiant Deddf LlCD a'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn disodli nac yn diystyru dyletswyddau a phwerau cyrff cyhoeddus o dan ddeddfwriaeth arall, megis dyletswyddau awdurdodau lleol sy'n ymwneud â chynllunio rheoli datblygu, addysg neu wasanaethau cymdeithasol, neu bwerau a dyletswyddau byrddau iechyd lleol dros ddarparu gofal iechyd. Yn hytrach, mae'r darpariaethau'n dibynnu ar bwerau a dyletswyddau presennol cyrff cyhoeddus, ac yn tybio eu bod yn bodoli. Maent yn pennu strwythur ynghylch sut y mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r pwerau a'r dyletswyddau hynny i geisio cyflawni eu hamcanion

Prif egwyddor drefniadol

Er mwyn gwneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu ar gyfer tri chonglfaen hanfodol i sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth galon y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu a’r ffordd y maent yn arfer eu swyddogaethau. Dyma’r conglfeini hynny:

  • beth mae sefydliad yn canolbwyntio arno
  • sut mae sefydliad yn gweithio
  • cyfleu’r gwahaniaeth a wnaed

Manteision

Dyma rai o’r manteision i sefydliadau wrth weithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn yr hyn y maent yn ei wneud a’r ffordd y maent yn gweithio:

  • Cydnerthedd: bydd sefydliadau wedi’u paratoi’n well ac yn gallu adnabod bygythiadau yn well ac ymateb iddynt
  • Cyfraniad ar y cyd: gwell dealltwriaeth o ble gallai eu heffaith orgyffwrdd ag effaith sefydliadau eraill, sylweddoli y gall sefydliadau'r sector cyhoeddus gyflawni mwy gyda’i gilydd, meithrin trefniadau cydweithredi; rheoli risg yn well – adnabod yn well y risgiau hirdymor a allai godi wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
  • Effeithlonrwydd: hyrwyddo gwariant ataliol
  • Enw da: diogelu a gwella enw da sefydliadau, ac, yn benodol, y cyfleoedd a all godi o ymrwymiad clir i ddatblygu cynaliadwy
  • Adrodd integredig: meithrin yr amodau sy’n galluogi sefydliadau i integreiddio eu trefniadau adrodd yn well er mwyn cyfleu sut maent yn cyfrannu at y nodau llesiant yn y tymor byr a’r tymor hir
  • Gwell tryloywder: gan arwain at well perfformiad a gwell perthynas â rhanddeiliaid a sefydliadau
  • Atebolrwydd: cydnabod bod y proffesiwn archwilio yn cynnwys mwy a mwy o syniadau datblygu cynaliadwy yn eu hymarfer

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (y 5ed Senedd) ymchwiliad i'r rhwystrau i weithredu Deddf LlCD. Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, gofynnodd y Pwyllgor i gyrff cyhoeddus a oedd yn glir iddynt sut beth, yn ymarferol, oedd gweithredu Deddf LlCD. Canfu eu hadroddiad, Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: y stori hyd yma, fod yr eglurder hwn yn bodoli ymysg cyrff cyhoeddus yn gyffredinol. Gwnaeth nifer o argymhellion hefyd i fynd i'r afael â'r rhwystrau rhag gweithredu, ac mae Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt.

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn monitro ac yn adolygu

Rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yw gweithredu fel gwarcheidwad er budd cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi'r cyrff cyhoeddus a restrir yn Neddf LlCD i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy – fel y'i diffinnir gan yr egwyddor datblygu cynaliadwy.

Wrth gyflawni'r diben hwn bydd yn monitro ac yn asesu i ba raddau y mae amcanion llesiant a bennir gan gyrff cyhoeddus yn cael eu cyflawni. Gall y Comisiynydd roi cyngor i gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'u hybu a'u hannog i weithio i gyflawni eu hamcanion llesiant.

Gall y Comisiynydd gynnal adolygiad o’r modd y mae cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, a gwneud argymhellion ar sail y canfyddiadau. Gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gorff cyhoeddus ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd i bennu ac yna cyflawni ei amcanion llesiant.

Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi, flwyddyn cyn etholiad y Senedd, Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol sy’n cynnwys asesiad y Comisiynydd o'r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i gyflawni'r nodau llesiant. Gall adroddiad blynyddol y Comisiynydd hefyd gynnwys asesiad y Comisiynydd o'r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Nid yw Deddf LlCD yn pennu’r penderfyniad y dylai corff cyhoeddus ei wneud mewn unrhyw sefyllfa benodol ac nid yw'n rhoi hawliau i unigolion. Nid yw Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn rheoleiddiwr penderfyniadau unigol gan gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i Ddeddf LlCD. Nid yw'r Comisiynydd yn ymchwilio i gwynion nac yn rhoi cymorth ariannol i unigolion sy'n ceisio datrysiad i’w achosion penodol. Nid yw'n haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol. Fe'i cynlluniwyd i ysgogi trafodaeth, cefnogi a sbarduno gwelliannau i'r ffordd y caiff pethau eu gwneud yng Nghymru fel mai datblygu cynaliadwy yw'r brif egwyddor drefniadol sy'n llywio'r hyn y mae cyrff yn ei wneud a’r ffordd y maent yn gweithio.  

Archwiliadau Archwilydd Cyffredinol Cymru

Byddai cyrff a ychwanegir at adran 6 o Ddeddf LlCD yn destun archwiliadau o’r egwyddor datblygu cynaliadwy gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan Adran 15 o Ddeddf LlCD.

Efallai y bydd angen i Swyddfa Archwilio Cymru godi ffioedd i dalu am gost archwiliadau egwyddorion datblygu cynaliadwy, fodd bynnag, yn gyffredinol, ei harfer ar hyn o bryd yw bod archwiliadau'n cael eu cynnwys mewn rhaglenni gwaith sy'n bodoli eisoes heb godi ffioedd ychwanegol. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo dyletswyddau archwilio presennol yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys gofyniad i fod yn fodlon bod y corff wedi gwneud trefniadau priodol ar gyfer sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau. Fodd bynnag, nid yw pob corff yn ddarostyngedig i ddyletswyddau presennol o'r fath, ac o ganlyniad mae angen cynyddol i ddibynnu ar barodrwydd y Senedd i ganiatáu cyllid o Gronfa Gyfunol Cymru yn lle ffioedd. Felly, nid yw'n bosibl gwarantu y bydd Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa i osgoi codi ffioedd am archwiliadau dros y tymor hwy.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cyffredinol

Cwestiwn 1

Beth yw eich barn chi am ymestyn y ddyletswydd llesiant i’r cyrff ychwanegol sydd wedi’u rhestru yn y ddogfen ymgynghori hon?

Cwestiynau i gyrff newydd

Cwestiwn 2

Pa ganllawiau a chefnogaeth y byddai eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer y ddyletswydd llesiant yn eich sefydliad chi, ac i’w chyflawni?

Cwestiwn 3

Beth ydych chi'n rhagweld fydd y goblygiadau o ran adnoddau wrth baratoi ar gyfer y ddyletswydd llesiant yn eich sefydliad, a'i chyflawni?

Cwestiynau i gyrff cyhoeddus presennol – Dysgu gan eraill

Rydym yn awyddus i ddefnyddio’r ymgynghoriad hwn i gasglu gwybodaeth am brofiad cyrff cyhoeddus wrth newid i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gwreiddio’r Ddeddf yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Cwestiwn 4

Beth yw’r gwersi allweddol a ddysgoch chi wrth baratoi ar gyfer y ddyletswydd llesiant, y byddech am eu rhannu â chyrff cyhoeddus newydd y mae Deddf LlCD yn berthnasol iddynt?

Cwestiwn 5

Pa ganllawiau a chymorth a oedd o gymorth i chi wrth gyflawni datblygu cynaliadwy?

Dylanwadu ar gyrff eraill

Cwestiwn 6

Beth yw’r cyfleoedd sydd ar gael i rannu profiadau rhwng cyrff sydd wedi’u rhestru yn Neddf LlCD ar hyn o bryd a’r rhai y bwriedir eu cynnwys?

Yr iaith Gymraeg

Cwestiwn 7

Hoffem gael eich barn ar yr effeithiau posibl y gallai ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD eu cael ar y Gymraeg, a hynny’n benodol:

  • ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Cwestiwn 8

Esboniwch hefyd sut rydych chi'n meddwl y gellid ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD er mwyn cael:

  • effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Cwestiwn 9

A oes gennych unrhyw farn arall ar ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD mewn perthynas â’r ystyriaethau o ran y Gymraeg?

Arall

Cwestiwn 10

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD i'r cyrff arfaethedig a restrir yn yr ymgynghoriad?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 20 Hydref 2022, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Is-adran Dyfodol Cynaliadwy
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig