Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fel rheol, caiff eiddo annomestig ei ailbrisio bob pum mlynedd. Ym mis Awst 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig yn nodi y byddai'r ailbrisiad nesaf yn 2023 er mwyn cyfrif am effaith economaidd pandemig y Coronafeirws.

Prif ddiben ymarfer ailbrisio, a gosod y lluosydd yn gysylltiedig â hynny, yw addasu rhwymedigaeth eiddo o'i gymharu ag eraill o fewn sylfaen drethu ardrethi annomestig. Mae hyn yn sicrhau bod y rhwymedigaeth i dalu ardrethi wedi'i rhannu'n deg rhwng talwyr ardrethi a'i bod yn seiliedig ar y gwerthoedd rhent diweddaraf. Ym mhob ymarfer ailbrisio, caiff eiddo werth ardrethol newydd. Yna mae Llywodraeth Cymru yn ailosod y lluosydd i sicrhau y gall y sylfaen drethu ardrethi annomestig gynhyrchu'r un lefel o gyllid yn sgil ailbrisio â chyn hynny yn fras. Caiff yr holl refeniw a godir o ardrethi annomestig yng Nghymru ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau llywodraeth leol ac mae ymarfer ailbrisio yn helpu i sicrhau bod ffrwd gyllido sefydlog yn cael ei chynnal at y diben hwn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno rhestri ardrethi newydd yng Nghymru o 1 Ebrill 2023. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gyfrifol am lunio a chyhoeddi'r rhestri ardrethi newydd a bydd yn sicrhau bod eiddo annomestig yn cael gwerth ardrethol newydd, yn seiliedig ar ei werth rhent blynyddol amcangyfrifedig ar y Dyddiad Prisio Rhagflaenol, sef 1 Ebrill 2021. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

Caiff y rhan fwyaf o unedau o eiddo sy'n atebol am dalu ardrethi annomestig, sef hereditamentau, eu cynnwys ar restri ardrethi awdurdodau bilio (y 22 o brif awdurdodau lleol yng Nghymru). Mae'r hereditamentau yn ymddangos ar y rhestr yn yr ardal lle maent wedi'u lleoli. Mae hereditamentau sy'n croesi mwy nag un ardal yn ymddangos ar restr yr awdurdod bilio sydd, ym marn y Swyddog Prisio, yn cynnwys y rhan fwyaf o ran gwerth.

Yn ogystal â rhestri ardrethi lleol, mae gan Gymru restr ardrethi ganolog sy'n cynnwys hereditamentau nad ydynt, yn ôl eu natur, yn addas i'w cynnwys mewn rhestri lleol (ee rhwydweithiau cyfleustodau). Mae'r rhestr ardrethi ganolog ar gael ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Nid yw'r hereditamentau a gaiff eu cynnwys ar y rhestr ardrethi ganolog yn ymddangos ar restri ardrethi lleol. Caiff y biliau ardrethi annomestig am hereditamentau ar y rhestr ardrethi ganolog eu talu'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, a chaiff y biliau ardrethi annomestig am hereditamentau ar restri ardrethi lleol eu talu i'r awdurdod bilio perthnasol.

Nodir y meini prawf a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i benderfynu a ddylai hereditamentau ymddangos ar y rhestr ardrethi ganolog yn Atodiad 1.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am newidiadau i'r rhestr ardrethi ganolog ar gyfer ymarfer ailbrisio 2023. Nid yw'n ymestyn i asesu gwerth ardrethol hereditamentau na materion megis natur ardrethol peiriannau a pheirianwaith a rhyddhadau.

Dim ond i Gymru y mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys.

Newidiadau arfaethedig i'r rhestr ardrethi ganolog ar gyfer ymarfer ailbrisio 2023

Mae nifer o hereditamentau i'w gweld ar y rhestri ardrethi lleol ar hyn o bryd y gallai fod yn fwy priodol eu cynnwys ar y rhestr ardrethi ganolog, yn unol â'r meini prawf yn Atodiad 1. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried symud rhai hereditamentau i'r rhestr ardrethi ganolog ar gyfer dechrau'r rhestr ardrethi nesaf, ar 1 Ebrill 2023.

Rhwydweithiau telathrebu

Gofrestr o bersonau â phwerau o dan y Cod Cyfathrebu Electronig, oherwydd gall y cwmnïau hyn fod yn fwy tebygol o weithredu ar draws ffiniau awdurdodau lleol sy'n golygu ei bod yn fwy priodol eu cynnwys ar y rhestr ardrethi ganolog. Amcangyfrifwn fod cwmnïau telathrebu sy'n gweithredu rhwydweithiau o'r math hwn yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r gwerth ardrethol yn y sector hwn.

Llinellau ffeibr preifat bach yw'r rhwydweithiau ffeibr eraill ar restri lleol fel arfer, ac maent yn darparu gwasanaeth penodol i fusnes neu ymgymeriad arall (megis banc neu brifysgol), sef llinellau preifat ar les cylched. Ystyrir bod rhwydweithiau bach o'r math hwn y tu hwnt i gwmpas y rhestr ardrethi ganolog ac felly mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod yr hereditamentau hyn yn aros ar restri lleol.

Y sector telathrebu symudol

Ar hyn o bryd, mae gweithredwyr telathrebu symudol yn talu ardrethi annomestig mewn un o ddwy ffordd.  Mae rhai gweithredwyr telathrebu symudol ar y rhestr ardrethi ganolog ac yn cael un bil ardrethi annomestig ar gyfer eu busnes cyfan. Felly maent yn talu un bil am eu rhwydwaith ffeibr, adeiladau gweithredol, mastiau a safleoedd gweithredol eraill.

Mae gweithredwyr telathrebu symudol eraill yn ymddangos ar restri ardrethi lleol. Maent yn talu biliau unigol am y canlynol:

  • eu rhwydweithiau ffeibr cyffiniol, ynghyd ag adeiladau, mastiau a safleoedd eraill sydd wedi'u cysylltu â'r ffeibr hwnnw. Caiff rhwydweithiau o'r fath eu hasesu ar un rhestr ardrethi leol (ar y rhestr yr ymddengys ei bod yn cynnwys y rhan fwyaf o'r rhwydwaith yn ôl gwerth)
  • eu safleoedd nad ydynt yn gyffiniol, safleoedd mastiau neu safleoedd tebyg yn bennaf sydd wedi'u cysylltu drwy rwydwaith ffeibr gweithredwr arall neu mewn modd diwifr.  Caiff safleoedd o'r fath eu hasesu'n unigol ar y rhestr ardrethi leol lle maent wedi'u lleoli.

Wrth i 5G gael ei gyflwyno, nid yw'r dull hwn yn debygol o fod yn addas at y diben.  Bydd 5G yn golygu y caiff niferoedd mawr iawn o bosibl o ‘gelloedd bach’ eu defnyddio, a dim ond ambell un o'r rhain fydd wedi'u cysylltu â rhwydwaith a'u meddiannu gan rwydwaith (bydd y rhan fwyaf wedi'u cysylltu'n ddiwifr neu drwy rwydwaith trydydd parti). Ni ddisgwyliwn i'r celloedd bach hyn fod yn rhan o unrhyw un o'r asesiadau presennol o'r rhestr ardrethi ganolog.  Heb newid y ffordd y pennir ardrethi cwmnïau telathrebu symudol, disgwylir i 5G arwain at gofnodi nifer mawr o hereditamentau gwerth bach ar restri ardrethi lleol.  Nid yw hyn yn gynaliadwy o ran y system ardrethi annomestig a byddai'n creu baich gweinyddol mawr i weithredwyr 5G, awdurdodau bilio ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu sut y dylai hereditamentau yn y sector telathrebu symudol gael eu hasesu er mwyn cyfrif am 5G. Rydym wedi ystyried a all safleoedd 5G gael eu hasesu am ardrethi annomestig ar wahân i weddill y sector telathrebu (er enghraifft, drwy greu un hereditament ar gyfer yr holl gelloedd bach a weithredir gan gwmni mewn un ardal awdurdod bilio) ond nid ystyriwn fod hyn yn ymarferol nac yn ddymunol oherwydd:

  • ni chredwn y byddai modd gwahanu cyfarpar, seilwaith a rhwydweithiau 5G oddi wrth y system delathrebu bresennol at ddibenion ardrethi annomestig;
  • disgwylir i 5G ffurfio rhan o fusnesau telathrebu integredig, gan ei gwneud hi'n anodd prisio 5G ar wahân.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid rhagnodi un hereditament ar gyfer pob gweithredwr telathrebu symudol sy'n cwmpasu ei gyfarpar ardrethadwy gweithredol (megis mastiau, polion, tyrrau, ffeibrau a safleoedd) a'i symud i'r rhestr ardrethi ganolog ar gyfer ymarfer ailbrisio 2023. Yna bydd pob gweithredwr telathrebu symudol yn talu un bil ardrethi annomestig i Gymru ar gyfer ei holl dir a chyfarpar ardrethadwy gweithredol.

Petai hyn yn cael ei wneud, byddai angen i Lywodraeth Cymru nodi'r cwmnïau oedd yn gweithredu rhwydweithiau telathrebu symudol a fyddai'n cael eu rhoi ar y rhestr ardrethi ganolog.  Hefyd byddai angen iddi ystyried pa newidiadau all fod eu hangen i'r rheoliadau sy'n llywodraethu'r rhestr ardrethi ganolog. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r sector telathrebu a chwmnïau unigol i ddatrys y materion hyn.

Ni fydd symud y sector telathrebu symudol i'r rhestr ardrethi ganolog yn golygu y byddai unrhyw beiriant neu beirianwaith nad yw'n ardrethadwy ar hyn o bryd yn dod yn ardrethadwy (neu i'r gwrthwyneb).

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Offer Telathrebu) (Cymru) 2000: ‘y rheoliadau rhannu mast’

Yn 2000, gwnaeth Llywodraeth Cymru reoliadau yn darparu y dylai mastiau telathrebu lle ceir cyfarpar sawl gweithredwr telathrebu symudol gael eu trin fel un asesiad gyda chynhaliwr y safle yn atebol am dalu'r ardrethi annomestig. Mae'r rheoliadau rhannu mast yn gymwys fel a ganlyn:

  • lle mae gweithredwr yn ymddangos ar y rhestr ardrethi ganolog, caiff unrhyw dir a chyfarpar ardrethadwy a feddiennir ganddo ar y safle eu cynnwys yn ei asesiad rhestr ardrethi ganolog; ond
  • lle mae gweithredwr yn ymddangos ar y rhestr ardrethi leol, caiff unrhyw dir a chyfarpar ardrethadwy a feddiennir ganddo ar safleoedd eu cynnwys yn asesiad ardrethu cynhaliwr y mast. Os mai'r gweithredwr yw cynhaliwr y mast, bydd yn talu ardrethi'r mast cyfan.

Cafodd y rheoliadau rhannu mast eu gwneud i wella'r broses o weinyddu'r system ardrethi annomestig a dileu rhwystr posibl i annog darparwyr symudol i rannu mastiau. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o fastiau neu safleoedd tebyg yn debygol o gael eu gweithredu gan gwmnïau a fyddai, os yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn, yn cael eu symud i'r rhestr ardrethi ganolog. Byddem yn disgwyl i'r rhan fwyaf o fastiau neu safleoedd tebyg a'r rhan fwyaf o ranwyr mastiau a gaiff eu hasesu ar restri ardrethi lleol ar hyn o bryd gael eu dileu o 1 Ebrill 2023 a chael eu cynnwys mewn asesiadau newydd ar gyfer y rhestr ardrethi ganolog.

Gallai'r rheoliadau rhannu mast greu ansicrwydd ynghylch prisio'r asesiadau newydd ar gyfer y rhestr ardrethi ganolog. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diddymu'r rheoliadau rhannu mast, o 1 Ebrill 2023.

Efallai y bydd rhai cwmnïau o hyd sy'n gweithredu mastiau a fydd yn ymddangos ar y rhestr ardrethi leol o hyd. Fodd bynnag, mae'r Cod Cyfathrebu Electronig bellach yn darparu bod rhannu mast yn hawl sefydledig ac, fel y cyfryw, ni ddisgwyliwn i'r penderfyniad i ddiddymu'r rheoliadau rhannu mast greu unrhyw rwystr newydd i rannu mast yn y dyfodol.

Rheilffyrdd

Yn Lloegr, mae Network Rail ac ambell reilffordd ranbarthol arall (megis Rheilffordd Danddaearol Llundain) eisoes yn cael eu cofnodi ar y rhestr ardrethi ganolog ar gyfer Lloegr. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried a ddylid symud Cyswllt Rheilffordd Twnnel y Sianel (HS1) i'r rhestr ardrethi ganolog.

Yng Nghymru, er nad oes unrhyw rwydweithiau tebyg yn bodoli ar hyn o bryd, mae posibilrwydd y datblygir gwasanaethau Metro rhanbarthol sy'n croesi sawl ffin awdurdod bilio. Hwyrach y daw'r rhain i fodolaeth yn ystod rhestri ardrethi 2023 ac mae'n briodol, er eglurder, eu dynodi'n gyson â rheilffyrdd mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y byddai unrhyw rwydweithiau o'r fath yn cael eu cynnwys ar y rhestr ardrethi ganolog.

Os caiff gwasanaethau rheilffyrdd lleol, megis systemau tram, eu datblygu a'u bod wedi'u lleoli'n bennaf mewn un ardal awdurdod bilio, rhagwelir y byddai'r rhain yn cael eu dosbarthu ar y rhestr ardrethi leol.

Y camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau terfynol, yn sgil yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, gyda'r nod o wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r rheoliadau yn ystod 2022 a bydd y newidiadau yn cael eu rhoi ar waith o 1 Ebrill 2023. Bydd hyn yn galluogi Asiantaeth y Swyddfa Brisio i baratoi'r rhestri ardrethi drafft ar gyfer 2023 ar sail y rheoliadau diwygiedig ac yn galluogi talwyr biliau i wneud unrhyw newidiadau gweinyddol angenrheidiol.  Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau terfynol mewn ymgynghoriad â thalwyr ardrethi unigol fesul achos fel y bo angen.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o drin rhwydweithiau telathrebu o ran y Rhestr Ardrethi Ganolog?

Cwestiwn 2

Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o drin y sector telathrebu symudol o ran y Rhestr Ardrethi Ganolog?

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn am gynigion i ddiddymu'r rheoliadau rhannu mast?

Cwestiwn 4

Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o drin systemau rheilffyrdd o ran y Rhestr Ardrethi Ganolog?

Cwestiwn 5

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

  1. cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg;
  2. peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6

Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y cynigion, yn eich barn chi, er mwyn:

  1. sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg;
  2. atal unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 15 Ebrill 2022, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG44296

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Atodiad 1: Meini Prawf Rhestr Ardrethi Ganolog

Cyflwyniad

O dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i roi hereditamentau yn y rhestr ardrethi annomestig ganolog. Caiff unrhyw newidiadau eu llywio gan y meini prawf canlynol:

  • Natur yr eiddo a'r defnydd ohono;
  • Maint ac ehangder daearyddol yr eiddo;
  • pa mor addas ydyw asesu'r eiddo ar restri ardrethi annomestig lleol.

Y meini prawf hyn a ddefnyddir o hyd i asesu pa mor addas ydyw rhestru eiddo ar y rhestr ardrethi ganolog. Fel rheol, mae'r mathau o eiddo sy'n bodloni'r meini prawf hyn yn debygol o gael eu defnyddio at ddibenion seilwaith neu gyfleustodau; cael eu hystyried yn rhwydweithiau; a/neu fod yn weinyddol anodd eu hasesu fel endidau unigol.

Maen prawf a: Natur yr hereditament a'r defnydd ohono

Defnyddir y rhestr ardrethi ganolog ar gyfer rhwydweithiau. Er nad oes diffiniad penodol o rwydwaith, fel rheol maent yn cynnwys: ceblau ar gyfer trydan a chyfathrebu; piblinellau ar gyfer dŵr, nwy a deunyddiau eraill; rheilffyrdd; a rhai eitemau penodol sy'n gysylltiedig â'r rhwydweithiau hyn (e.e. mesuryddion trydan a nwy).

Yn gyffredinol, ymgymerwyr statudol sy'n meddiannu hereditamentau rhwydwaith, ond nid yw hyn yn wir bob amser. Cwmnïau neu gyrff eraill yw ymgymerwyr statudol sydd â phwerau cyfreithiol i gyflawni gwaith, megis gosod ceblau trydan neu balu'r ffordd, er mwyn iddynt gyflawni eu swyddogaeth statudol (fel rheol darparu cyfleustod megis dŵr a nwy). Gall meddianwyr gael eu hystyried yn debyg i ymgymerwyr statudol mewn amgylchiadau eraill, megis lle maent yn ymwneud â darparu cyfleustod a bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â rhai amodau rheoleiddiol a osodir gan reoleiddiwr.

Maen prawf b: Maint ac ehangder daearyddol yr eiddo

Gall rhwydweithiau amrywio o ran maint ac nid oes angen i bob un ohonynt gael eu hasesu ar y rhestr ardrethi ganolog. Mewn rhai achosion, bydd yn amlwg eu bod yn perthyn ar restri lleol, efallai am eu bod wedi'u lleoli'n gyfan gwbl o fewn ffin rhestr leol unigol neu am fod ganddynt werth ardrethol bach. Ar gyfer rhwydweithiau mwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pryd maent yn perthyn yn y rhestr ardrethi ganolog.Wrth wneud hyn, mae'n briodol edrych ar faint ac ehangder cyffredinol yr eiddo a sut mae'n perthyn o fewn y system rhestri lleol. Fodd bynnag, gall rhai asesiadau â gwerthoedd ardrethol bach rychwantu sawl ardal rhestr ardrethi o hyd. Felly, gall Gweinidogion Cymru ystyried ond symud asesiadau sydd â gwerth ardrethol uwchlaw lefel benodol, er mwyn sicrhau bod defnydd a nifer talwyr ardrethi ar y rhestr ardrethi ganolog yn gymesur o hyd.

Er y byddai nifer y rhestri y mae'r eiddo yn eu croesi yn rhan o'r ystyriaeth hon, mewn sawl achos ni fydd modd pennu yn union sawl rhestr ardrethi a groesir gan rwydwaith oherwydd arferion gweinyddol y meddiannydd.

Maen prawf c: Pa mor addas ydyw asesu'r eiddo ar restri ardrethi annomestig lleol

Gan fod ardrethi annomestig yn dreth leol, os gall hereditament gael ei asesu'n rhesymol ar y rhestr leol yna dylai aros ar y rhestr leol.

Mae'r rheolau ar gyfer eiddo sy'n croesi ffiniau rhestri ardrethi yn darparu iddynt ymddangos yn y rhestr sydd, ym marn y swyddog prisio, yn cynnwys y rhan fwyaf o'r gwerth ardrethol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn yn rhoi canlyniad rhesymol. Mae eiddo yn annhebygol o rychwantu mwy nag un ffin ac, felly, yn yr achos arferol hwnnw, bydd o leiaf hanner gwerth ardrethol yr eiddo o fewn ardal yr awdurdod lleol sy'n cynnwys yr asesiad ardrethu llawn.

Fodd bynnag, lle mae hereditamentau yn cwmpasu ardaloedd mawr a llawer o awdurdodau lleol, efallai y bydd y rhan fwyaf o'r gwerth ardrethol sydd o fewn ardal ond yn gyfran fach o gyfanswm gwerth ardrethol yr eiddo o hyd. O ganlyniad, gall y gwerth ardrethol i'w briodoli i ardal rhestr leol lle caiff yr eiddo ei asesu fod yn fach o gymharu â chyfanswm gwerth ardrethol yr asesiad ardrethu. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anodd nodi un rhestr ardrethi leol lle byddai asesu rhwydwaith yn ganlyniad rhesymol.

At hynny, gall y rhwydweithiau a gaiff eu cynnwys yn fwyaf priodol ar y rhestr ardrethi ganolog fod yn unedau o eiddo cyffiniol, er enghraifft mewn rhwydwaith telathrebu lle caiff data eu trawsyrru drwy'r rhwydwaith fel rhan o un gweithrediad. Byddai ymgais i nodi'n gywir werth ardrethol y rhwydweithiau ar gyfer pob rhestr ardrethi leol yn creu asesiadau artiffisial heb fod yn gysylltiedig â'r busnes gwirioneddol.