Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi y bydd safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn elwa o gael rhyddhad ardrethi annomestig 100% am dair blynedd arall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymestyn y rhyddhad ardrethi hyd at 31 Mawrth 2025 yn golygu y bydd £9.7m o gymorth ychwanegol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig. Bydd hyn yn helpu’r rheini sy’n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r pandemig, gan ddiogelu’r lefel o ddarpariaeth y mae ei hangen ar blant a rhieni.

Cafodd y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ei ehangu ym mis Ebrill 2019 i roi rhyddhad o 100% i bob safle gofal plant cofrestredig yng Nghymru am gyfnod o dair blynedd. Nod y cynllun yw helpu’r sector i weithredu’r cynnig gofal plant, sef 30 o oriau o addysg gynnar a gofal plant, ac mae wedi helpu llawer o feithrinfeydd preifat a darparwyr gofal dydd i ymateb i rai o’r heriau ariannol sydd eisoes yn wynebu’r sector.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn sector gofal plant Cymru. Mae’n hollbwysig cydnabod y gwasanaeth hanfodol y mae lleoliadau gofal plant yn ei roi i deuluoedd, drwy gynnig amgylcheddau positif a gofalgar i’n plant a helpu rhieni i allu manteisio ar y cyfle i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant.

Mae’r pandemig wedi cael effaith hynod niweidiol ar fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys effaith enfawr ar leoliadau gofal plant. Mae’r pandemig wedi creu heriau newydd i leoliadau gofal plant, ac wedi gwaethygu’r heriau a oedd yn bodoli eisoes.  Bydd ymestyn rhyddhad ardrethi yn helpu safleoedd gofal plant cofrestredig i barhau â’r gwaith hanfodol y maen nhw’n ei wneud, drwy helpu i sicrhau eu bod yn parhau’n fusnesau hyfyw.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:

Mae’r £9.7m o gymorth ychwanegol rydyn ni’n ei roi i’r sector gofal plant yn rhan o becyn ehangach o gyllid a fydd yn helpu Cymru i symud y tu hwnt i’r pandemig. Mae’n hanfodol ein bod yn helpu darparwyr gofal plant fel y rhain i adfer a chodi nôl ar eu traed.

Dywedodd Purnima Tanuku OBE, Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru:

Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad calonogol hwn gan Lywodraeth Cymru y bydd y gefnogaeth i ddarparwyr gofal plant a rhieni yn parhau drwy fod rhyddhad ardrethi busnes yn dal i fod ar gael am dair blynedd arall.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ac rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod sylw wedi cael ei roi i farn y sector. Mae ymestyn y rhyddhad yn cydnabod y rôl bwysig y mae lleoliadau preifat, gwirfoddol ac annibynnol yn ei chwarae drwy ddarparu lleoedd addysg gynnar a gofal plant hanfodol.

Wrth siarad â darparwyr ynghylch sut mae’r rhyddhad wedi ei helpu hyd yn hyn, dywedodd 35% wrthym ei fod wedi caniatáu iddynt gadw costau gofal plant yn is i rieni, a dywedodd ychydig o dan draean ohonynt ei fod wedi eu helpu i barhau i fod yn gynaliadwy, gan leihau’r perygl y gallai lleoliadau gau.

Roedd y manteision eraill yn ymwneud â buddsoddi mewn staff, adnoddau a’u safleoedd, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r cymorth i leoliadau gofal plant, y rhieni, a’r plant.

Dywedodd un o Ymddiriedolwyr y Gymdeithas, Tina Jones MBE, perchennog clwb y tu allan i oriau ysgol a Meithrinfa Ddydd Tiny Tots:

Mae hyn yn newyddion gwych i leoliadau gofal plant fel fy lleoliad i, ac mae’n golygu y gallwn barhau i gynnig lleoedd fforddiadwy i deuluoedd yn ein hardal. Roedd ardrethi yn gost fawr i’n lleoliadau, a’r eironi oedd po fwyaf o le oedd gennych chi i’r plant, uchaf yn y byd oedd yr ardrethi. Mae’r rhyddhad hwn wedi ein helpu i barhau’n gynaliadwy yn ystod cyfnod hynod ansicr, yn benodol o ganlyniad i’r pandemig.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, oherwydd y rhyddhad ardrethi busnes sydd ar gael, dw i wedi gallu osgoi cynyddu fy ffioedd i’r rhieni. Mae wedi bod yn gymorth mawr ac mae’n newyddion gwych y bydd ar gael am dair blynedd arall.