Trosolwg ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd y GIG a sefydliadau cysylltiedig â’r GIG.
Cynnwys
Trosolwg
Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau drwy 7 bwrdd iechyd lleol a 3 ymddiriedolaeth GIG.
Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaethau:
- deintyddol
- optegol
- fferyllol
- iechyd meddwl
Hefyd mae’r byrddau hyn yn gyfrifol am:
- wella canlyniadau corfforol ac iechyd meddwl
- hyrwyddo llesiant
- lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws eu poblogaethau
- comisiynu gwasanaethau oddi wrth sefydliadau eraill er mwyn bodloni anghenion eu preswylwyr
Mae ymddiriedolaethau’r GIG yn gyfrifol am wasanaethau iechyd y cyhoedd a gwasanaethau ambiwlans, ynghyd â gwasanaethau canser a gwaed.
Hefyd mae nifer o sefydliadau cysylltiedig sy’n cefnogi GIG Cymru.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym:
- Mlaenau Gwent
- Caerffili
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Torfaen
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym:
- Mhen-y-bont ar Ogwr
- Merthyr Tudful
- Rhondda Cynon Taf
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Sir Benfro
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym Mhowys.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol.
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar draws y De-ddwyrain. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau gwaed arbenigol ar draws Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw’r gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gynnal y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, drwy ddarparu:
- addysg
- hyfforddiant
- cyfleoedd datblygu
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn awdurdod iechyd arbennig sy’n adeiladu ac yn cynllunio gwasanaethau digidol ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau ac yn darparu gwahanol wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer GIG Cymru.