Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yn cadarnhau yr hyn y mae rhanddeiliaid yn ei wybod yn barod am Waith Ieuenctid yng Nghymru. Mae’n gosod theori ar gyfer newid, ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu model gwaith ieuenctid cynaliadwy.

Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth sy'n bodoli eisoes am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae'n nodi canfyddiadau, argymhellion a theori ar gyfer newid yn seiliedig ar gyfweliadau a gweithdai a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr sefydliadau a phobl ifanc sy'n datblygu ac yn gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Er mai dim ond ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol y mae tystiolaeth am wasanaethau gwaith ieuenctid ar gael, mae'n dangos bod llai o bobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau ac mae argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn amrywio'n sylweddol.

Canfyddiad y sector gwaith ieuenctid yw mai argaeledd cyllid i gefnogi gwaith ieuenctid yw'r brif her. Gellid sicrhau model cyflawni gwaith ieuenctid mwy cynaliadwy drwy’r canlynol:

  • cryfhau sail ddeddfwriaethol gwaith ieuenctid
  • parhau i ddarparu arweinyddiaeth gadarn a chlir ar gyfer gwaith ieuenctid
  • sicrhau mwy o gydlynu gwaith ieuenctid ar lefel genedlaethol
  • meithrin mwy o weithio mewn partneriaeth a chydgysylltu rhwng sefydliadau cyflenwi lleol
  • recriwtio gweithlu sy’n gynrychioladol o amrywiaeth Cymru
  • cefnogi datblygiad y gweithlu i sicrhau ei fod yn gallu cyflawni gwaith o ansawdd uchel
  • llenwi bylchau data a defnyddio'r data diweddaraf i deilwra'r cynnig gwaith ieuenctid
  • cynnwys pobl ifanc wrth ddatblygu strategaeth a dylunio gwasanaethau

Adroddiadau

Ymchwil ar gyfer datblygu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Beth rydyn ni'n ei wybod am waith ieuenctid yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 82 MB

PDF
82 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Helen Shankster

Rhif ffôn: 0300 025 9247

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.