Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ymchwil hwn wedi’i anelu at ddeall profiadau a barn athrawon newydd gymhwyso (ANG) am eu cyrsiau sefydlu.

Canfu’r gwaith ymchwil fod ychydig dros hanner yr athrawon sy’n cychwyn y broses sefydlu yn ei chwblhau o fewn blwyddyn.

Er bod yna ystod eang o wybodaeth fanwl, ragorol i ategu’r broses sefydlu gan nifer o ffynonellau a sefydliadau, nid yw llawer o ANG yn gwbl ymwybodol o ofynion a rôl y broses, ac maent yn colli’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Mae’r trefniadau presennol yn eithaf addas ar gyfer athrawon ANG. Eto i gyd, mae’r profiad sefydlu ar gyfer athrawon ANG sy’n cyflenwi yn heriol.

Gwneir chwech argymhelliad, gan gynnwys:

  • gwella’r cyfathrebu ynghylch proses sefydlu athrawon ANG a’r gefnogaeth sydd iddynt, a chynnig rhywfaint o gefnogaeth ar ôl y cyfnod sefydlu
  • cryfhau gofynion asiantaethau cyflenwi, a darparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau tymor hirach i athrawon ANG sy’n cyflenwi mewn un ysgol

Adroddiadau

Ymchwil ar drefniadau sefydlu statudol athrawon , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Sara James

Rhif ffôn: 0300 025 6812

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.