Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 24 Mawrth).

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

Mae'r don Omicron yn parhau i gael effaith ar lefelau staffio, a oedd yn rhoi straen sylweddol ar y GIG, gyda Ionawr 2022 yn gweld y lefel uchaf o salwch staff oherwydd COVID ers mis Ebrill 2020.

Er gwaethaf nifer yr absenoldebau staff, diolch i ymdrechion arwrol staff y GIG, ym mis Ionawr gwelwyd y cynnydd lleiaf ond un fis ar ôl mis o gyfanswm y rhestr aros ers dechrau'r pandemig.

Mae amseroedd aros diagnostig dros wyth wythnos, er cynnydd bach y mis hwn, 14% yn is nag ym mis Ionawr 2021 a gwelliant o 22% ar sefyllfa Mai 2020. 

Yn anffodus roedd y cyfuniad o staffio, pwysau'r gaeaf a'r don Omicron yn golygu bod rhai pobl yn parhau i aros yn hirach am driniaeth nag yr hoffem, gyda'r sefyllfa dros 36 wythnos yn cynyddu eto'r mis hwn. Mae ymgynghorwyr yn parhau i weld pob claf yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, gyda'r cleifion mwyaf brys yn cael eu gweld yn gyntaf.  Rydym hefyd yn canolbwyntio ar arosiadau hir ac mae ffigur mis Ionawr ar gyfer aros dros flwyddyn wedi dangos gostyngiad o 2% o'i gymharu â mis Rhagfyr a dyma'r isaf ers mis Awst 2021. 

Ym mis Chwefror 2022 gwelwyd cynnydd yng nghyfanswm y galwadau a wnaed i'r gwasanaeth ambiwlans o'i gymharu â'r mis blaenorol - a'r un mis y llynedd. Er gwaethaf hyn, cynyddodd perfformiad yn erbyn y targed ymateb ambiwlans o wyth munud 2.5 pwynt canran ar Ionawr 2022.

Mae adrannau achosion brys hefyd wedi gweld mwy o weithgarwch - gyda dros draean yn fwy o bresenoldebau na mis Chwefror 2021 - sydd wedi creu heriau sylweddol i dimau ysbytai ac mae perfformiad yn erbyn y targed pedair awr yn parhau'n llawer is na'r hyn y dylai fod.

Fel bob amser, mae galw mawr am wasanaethau canser, mae nifer yr atgyfeiriadau i wasanaethau canser wedi cynyddu o fis Rhagfyr 2021. Er bod nifer y cleifion sy'n dechrau triniaethau canser wedi gostwng ym mis Ionawr 2022, cynyddodd nifer y cleifion y dywedwyd wrthynt nad oes ganddynt ganser o'i gymharu â'r misoedd blaenorol, gyda dros 11,500 o gleifion yn cael clywed nad oes ganddynt ganser. 

Mae hyn yn rhannol oherwydd agor Canolfannau Diagnostig Cyflym (RDC) ledled Cymru sydd wedi helpu i wneud diagnosis o gleifion sydd â symptomau pryderus yn gyflymach. Bydd y clinigau hyn, ynghyd â'r £248m i gefnogi ein cynllun adfer GIG, yn ein helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau canser yn ystod y misoedd nesaf.

Ym mis Ebrill byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl ar sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r amseroedd aros ar gyfer cleifion sydd wedi gweld gohirio ar eu triniaeth oherwydd y pandemig.