Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Dadansoddiad dosbarthiadol

Dengys y dadansoddiad canlynol effaith ddosbarthiadol tri chynllun y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno mewn ymateb i’r argyfwng costau byw. Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Taliad Cymorth Costau Byw. Mae hyn yn rhoi £150 i bob aelwyd ym mandiau’r dreth gyngor A i D ac aelwydydd sy’n cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
  2. Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Gall aelwydydd sy’n gymwys hawlio taliad untro o £200.
  3. Cronfa Cymorth Dewisol. Grantiau y gellir eu darparu i bobl sy’n wynebu caledi ariannol neu i helpu rhywun i fyw’n annibynnol mewn eiddo y mae’n symud i mewn iddo.

Yn gyffredinol, mae’r taliad Cymorth Tanwydd Gaeaf ychwanegol a chynyddu’r cyllid ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn gwneud y pecyn yn fwy graddoledig o lawer na’r cynllun Cymorth Costau Byw yn unig. Bydd yn mynd yn fwy graddoledig fyth os bydd nifer y bobl sy’n manteisio ar y cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn cynyddu uwchlaw’r gyfradd ddisgwyliedig bresennol.

Bydd effaith gyfartalog y cynlluniau a ddangosir yn ôl grŵp incwm yn wahanol i’r symiau llawn y bydd rhai aelwydydd yn gymwys iddynt. Mae hyn oherwydd na fydd pob aelwyd o fewn pob grŵp incwm yn gymwys ar gyfer pob cynllun ac oherwydd efallai na fydd rhai o’r rheini sy’n gymwys yn manteisio ar y cyllid. Mae hyn yn lleihau’r taliad cyfartalog ar draws grwpiau incwm.

Er mwyn modelu’r pecyn cymorth, mae nifer o ragdybiaethau wedi cael eu gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Pob aelwyd sy’n gymwys i gael Cymorth Costau Byw yn cael y £150.
  • Cyfradd fanteisio ar y cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf o 75%, gan adlewyrchu’r gyfradd ddisgwyliedig bresennol.
  • Amcangyfrifir y Gronfa Cymorth Dewisol drwy gymhwyso gwariant disgwyliedig y flwyddyn bresennol ar draws yr un aelwydydd sy’n gymwys ar gyfer y cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Gan fod gan y Gronfa Cymorth Dewisol elfen ddewisol, mae cryn ansicrwydd ynghylch sut y caiff y Gronfa Cymorth Dewisol ei dosbarthu yn ôl incwm.

Dengys ffigur un y ganran o aelwydydd sy’n elwa ar y pecyn cymorth cyfan yn ôl cwintel. Caiff hyn ei yrru’n bennaf gan y cynllun Cymorth Costau Byw. Disgwylir i gyfanswm o tua 75% o aelwydydd gael eu cefnogi gan un neu fwy o’r cynlluniau hyn.

Ffigur 1: Canran yr aelwydydd y disgwylir iddynt gael eu cefnogi, yn ôl incwm aelwydydd 2022 i 2023

Image
Ffigur un: Siart bar yn dangos y bydd mwy o aelwydydd tua gwaelod y dosbarthiad incwm yn cael eu cefnogi.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu ac UKMOD [troednodyn 1]

Dengys ffigurau dau a thri, werth ariannol cyfartalog y pecyn cymorth ar draws pob un o’r cynlluniau yn ôl incwm aelwydydd. Y cynllun Cymorth Costau Byw yw elfen ariannol fwyaf y pecyn i aelwydydd, ond mae’r ddau gynllun ariannol arall yn darparu cyllid ychwanegol sylweddol i bobl ar incwm is. Dengys ffigur dau y bydd bron i deirgwaith cymaint o gyllid yn mynd i aelwydydd yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm o’i gymharu â’r rheini yn y pumed uchaf. Dengys ffigur tri y bydd bron i ddwywaith cymaint o gyllid yn mynd i aelwydydd yn yr hanner isaf o ddosbarthiad incwm o’i gymharu â’r rheini yn yr hanner uchaf.

Mae’r siart olaf yn debyg i’r ail un, ond mae’n dangos gwerth y pecyn cymorth fel canran o incwm gwario aelwydydd. Dengys y bydd y cynlluniau yn rhoi hwb o bron i ddau y cant i incwm gwario’r rheini yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm o’i gymharu â hwb o 0.1 y cant i incwm gwario’r rheini yn y pumed uchaf, ar gyfartaledd.

Ffigur 2: Gwerth cyfartalog y cymorth a gaiff aelwydydd (£), yn ôl cwintel incwm aelwydydd 2022 i 2023

Image
Siart bar yn dangos y bydd aelwydydd tua gwaelod y dosbarthiad incwm yn derbyn mwy o gefnogaeth mewn termau arian parod.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu ac UKMOD [troednodyn 1]

Ffigur 3: Gwerth cyfartalog y cymorth a gaiff aelwydydd (£), yn ôl canolrif incwm aelwydydd 2022 i 2023

Image
Siart bar yn dangos bod y gefnogaeth wedi ei ffocysu ar hanner isaf y dosbarthiad incwm.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu ac UKMOD [troednodyn 1]

Ffigur 4: Gwerth cyfartalog y cymorth a gaiff aelwydydd (fel canran o incwm gwario blynyddol), yn ôl incwm aelwydydd 2022 i 2023

Image
Siart bar yn dangos y bydd aelwydydd yng ngwaelod y dosbarthiad incwm yn derbyn mwy o gefnogaeth fel canran o’u hincwm.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu ac UKMOD [troednodyn 1]

Mae’r canlyniadau a gyflwynir yma yn seiliedig ar fersiwn A2.51+ o UKMOD. Caiff UKMOD ei gynnal, ei ddatblygu a’i reoli gan y Ganolfan Microefelychu a Dadansoddi Polisi ym Mhrifysgol Essex. Caiff y broses o ymestyn a diweddaru UKMOD ei chefnogi’n ariannol gan Sefydliad Nuffield (2018-2021). Cyfrifoldeb llwyr yr awduron yw’r canlyniadau a’u dehongliad.

Troednodiadau

[1] Richiardi M, Collado D, Popova D (2021). UKMOD: A new tax-benefit model for the four nations of the UK. International Journal of Microsimulation, 14(1): 92-101. DOI: 10.34196/IJM.00231.