Ar hyn o bryd mae 40% o geidwaid da byw yn elwa ar ddefnyddio Rheoli Fy CPH.
Cynnwys
Mapio ar-lein
Mae'r mapio ar-lein yn eich galluogi i:
- drosglwyddo eich CPH presennol i'r rheolau newydd at ddiben cofnodi symudiadau da byw.
- creu cais CPH newydd at ddibenion cofnodi symudiadau da byw;
- ychwanegu tir dros dro at CPH drwy Gysylltiadau Tir Dros Dro (TLA);
- gwneud diwygiadau i dir sydd eisoes wedi'i gynnwys mewn CPH
O fis Medi ymlaen, bydd RPW yn cysylltu'n uniongyrchol â chwsmeriaid ar-lein RPW nad ydynt wedi trosglwyddo i'r rheolau newydd i fapio eu tir ar Reoli Fy CPH.
Beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl i chi gael y llythyr gan RPW:
- Ymgyfarwyddwch â'r rheolau CPH newydd.
- Trosglwyddwch eich CPH presennol gan ddefnyddio'r offer cymorth ar-lein.
- Fel arall, cysylltwch â ni a threfnwch alwad ffôn cymorth digidol i'ch helpu i fapio tir da byw i'ch CPH.
Sut ydw i'n gwneud hyn?
Mewngofnodwch i'ch cyfrif RPW Ar-lein yn a dewiswch "Rheoli Fy CPH" o dan y ddewislen "Tir" i gofnodi'r holl dir a ddefnyddir ar gyfer da byw a dilyn y tiwtorial ar-lein.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r dasg hon, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid gan ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein neu ar 0300 062 5004.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys llyfryn canllaw manwl a dogfen holi ac ateb ar gael ar ein gwefan.