Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3: canllawiau 2022 i 2025
Mae'n esbonio'r math o waith ôl-osod y mae'r rhaglen yn bwriadu ei gefnogi a sut i gyflwyno cais am arian.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Golwg gyffredinol
Mae’r canllaw hwn wedi’i baratoi i helpu ymgeiswyr sy'n gwneud cais am gyllid y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). Cafodd ei lunio i esbonio wrth yr ymgeisydd pa fath o waith ôl-osod y mae’r rhaglen yn rhoi cymorth ariannol ar ei gyfer.
Bydd ORP 3 yn ymdrin â’r cyfnod 2022-2025. Prif thema'r rhaglen yw gwres fforddiadwy a datgarboneiddio, gan wneud hynny yn y ffordd sydd orau ar gyfer pob cartref unigol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol gynnal y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn 2022-2023 a 2023-2024 bob yn gam. Er mwyn gallu ystyried dyrannu cyllid fel rhan o rownd gyllido eleni, bydd angen cyflwyno cais i swyddogion y Rhaglen fydd yn amlinellu costau bwriedig y flwyddyn 2024-25. Cofiwch, bydd y dyraniad cyllid yn dal i gael ei bennu ar sail fformiwla o nifer y stoc yn seiliedig ar ddata cyfrifiad 2020.
Bydd gofyn i gyrff sy’n ymgeisio lenwi’r ffurflen gan gadw at y fformat y ffurflen. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y ffurflenni a fydd wedi dod i law a bydd yn trafod â’r corff sy’n ymgeisio unrhyw feysydd y bydd angen eu hegluro. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y ffurflen wedi’i llenwi ac yn bodloni'r gofynion a nodir isod, caiff llythyr yn cynnig grant ac yn esbonio amodau a thelerau’r grant ei anfon at y corff sy’n ymgeisio.
Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael eu monitro a'u gwerthuso, a bydd gofyn i’r sefydliadau sy'n derbyn cyllid, fel amod ar gyfer derbyn y cyllid, gadw llyfrau agored. Er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru ofyn am gael gweld tystiolaeth o daliadau, diweddariadau o wariant yn erbyn y rhagolygon, ac allbynnau’r prosiect drwy gydol y rhaglen.
2. Cyd-destun strategol
Mewn ymateb i'r argymhellion, cytunwyd y byddai rhaglen 'Ôl-osod er mwyn Optimeiddio' yn cael ei mabwysiadu yma yng Nghymru.
Yn unol â’r ymrwymiad a’r trywydd hwnnw, sefydlwyd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) yn 2020. Dros y tair blynedd diwethaf mae prosiectau ar draws y sector tai cymdeithasol wedi cael eu cefnogi a thua £190m o gyllid wedi'i fuddsoddi. Mae blwyddyn 3 ORP 3 am barhau i adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud a sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yng Nghymru yn ymwneud â’r ORP dros y 2 flynedd nesaf.
Wrth fynd ati i ddatgarboneiddio cartrefi sy’n bod, rydym yn cydnabod bod eu hôl-osod yn broses gymhleth ac ailadroddus. Mae'n debygol y bydd angen i gartrefi fynd trwy sawl cam o waith ôl-osod gan leihau eu carbon fesul cam, gan arloesi ac arbrofi dros amser.
Ein bwriad erioed yw bod yr ORP yn cael ei chynnal fesul cam, gan ddechrau gyda’r sector tai cymdeithasol a defnyddio’r buddsoddiad ynddo i arwain a llywio gwaith ôl-osod ar fathau eraill o gartrefi. Bwriad yr ORP yw gweithredu fel prawf bod dulliau o ôl-osod adeiladwaith a thechnoleg yn gweithio gan greu sylfaen gadarn o dystiolaeth i ddatblygu ein strategaeth ôl-osod tymor hwy.
Ein ffocws o hyd ar gyfer ORP 3 yw gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o wres ac ynni yng nghartrefi cymdeithasol Cymru. Wrth roi’r rhaglen ar waith, byddwn yn gofyn i landlordiaid inswleiddio’u cartrefi cystal ag y gallant, eu gwneud mor aerdyn â phosibl ac ystyried awyru fel ffordd i gadw gwres a gwneud eu cartrefi yn “barod” o ran eu hadeiladwaith. Bydd hyn yn cydbwyso’r gost o wneud cartrefi’n ‘barod o ran eu hadeiladwaith’ ar y naill law a chost defnyddio technoleg i wneud cartrefi'n rhatach i'w rhedeg ac i leihau allyriadau carbon ar y llaw arall.
Allwedd y rhaglen yw:
- Cynnal y rhaglen fel bod tai fforddiadwy’n cael eu dylunio a’u darparu’n gyson â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Annog landlordiaid i feddwl yn strategol ac yn gyson â’r targedau a’r ffordd o weithio a ddisgrifir yn Rhan 3 o Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 wrth ystyried mesurau i wneud gwres yn fwy fforddiadwy a datgarboneiddio cartrefi.
- Dangos y manteision sy’n gysylltiedig â ffyrdd newydd o ôl-osod, er mwyn denu mwy i gymryd rhan.
- Manteisio ar gyfleoedd i greu swyddi, dysgu sgiliau a datblygu diwydiannau lleol, gan fabwysiadu egwyddorion yr economi sylfaen a chefnogi mwy o adfywio.
- Cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch lleihau gwastraff a’r economi gylchol.
- Cael pobl i gyfranogi, trwy rannu prif ganfyddiadau a’u dysgu.
Adnoddau Ychwanegol
Cewch ragor o wybodaeth am yr ORP a gwybodaeth gyd-destunol am ddatblygiadau ehangach ar wefan Llywodraeth Cymru neu’r dolenni canlynol:
Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio | LLYW.CYMRU
Safon ansawdd tai Cymru | LLYW.CYMRU
Sgiliau sero net Nghymru | LLYW.CYMRU
Newid yn yr hinsawdd | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
Yn cefnogi busnesau Cymru | Busnes Cymru (gov.wales)
GwerthwchiGymru: croeso i GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)
Cyflwynwch bob Astudiaeth Achos i:
Ffurflen astudiaeth achos (tai) - Hwb Carbon
Ffurflen astudiaeth achos (arall) - Hwb Carbon
Dangosfwrdd Contractwyr Ôl-Osod Cymru
Mae’r dangosfwrdd yn rhestru contractwyr sy’n gweithio o dan wahanol fframweithiau caffael yng Nghymru. Nid yw bod ar y rhestr yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n eu hargymell a dylai defnyddwyr wneud eu hymchwil eu hunain cyn dewis cwmni o’r rhestr.
3. Amserlenni
Cam | Dyddiad |
---|---|
Cychwyn | Ebrill 2024 Canllaw a Dogfennau ymgeisio– eu cyhoeddi Ebrill 2024 |
Dogfennau ymgeisio | I’w dychwelyd 16 Mai 2024 |
Dyfarnu’r grant | Erbyn 16 Mehefin 2024 (os bydd y cais yn llwyddiannus) |
Hawlio’r arian | Erbyn 31 Mawrth 2025 |
4. Amcanion y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio
Dyma amcanion y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio:
- Cefnogi landlordiaid cymdeithasol i ddatblygu strategaeth sy‘n gyson ag elfennau ‘Gwres Fforddiadwy a Datgarboneiddio’ Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 wrth i Lywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol weithio tuag at greu safon newydd.
- Cefnogi landlordiaid cymdeithasol i ddatgarboneiddio cartrefi gan ystyried ffactorau sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni hynny megis sgiliau, caffael, modelau cyllid a dewis deunyddiau.
- Cefnogi landlordiaid cymdeithasol i fod yn arloesol wrth ddatgarboneiddio eu stoc dai ac i fagu parodrwydd i fentro sy’n cyfateb i lefel y gweithgarwch arloesol ac entrepreneuraidd sydd ei angen i ddatgarboneiddio'n effeithiol ac yn effeithlon.
- Helpu i ddatblygu ffyrdd priodol o ddatgarboneiddio'r sector rhent preifat a'r sector perchen-feddiannydd.
5. Gofynion Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3 Blwyddyn 2
- Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ymgymryd â mesurau ôl-osod cartrefi gan ddefnyddio PAS 2035 (PAS 2035:2019 Manyleb ar gyfer ôl-osod ynni mewn adeiladau domestig).
Rhaid gosod y gwaith ar borthol TrustMark Data Warehouse (sylwch fod lle ar y gwymplen ar gyfer dewis gosod ORP a landlordiaid ar TrustMark Data Warehouse)
PAS 2035:2019 / PAS 2035/2030:2023 • TrustMark (Rydym mewn cyfnod pontio lle mae Safonau 2019 yn cael eu dileu ar 30 Mawrth 2025 a’u disodi â Safonau Newydd 2023)
Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol osod Synwyryddion Monitro’r Amgylchedd ac Ynni sy'n cydymffurfio â 'Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio: Monitro ynni a’r amgylchedd’.
Anogir landlordiaid i gynnwys Synwyryddion Amgylcheddol yn eu ceisiadau ar gyfer y cartrefi hynny fydd yn rhan o raglenni ôl-osod yn y dyfodol er mwyn cynhyrchu data am gartrefi cyn eu hôl-osod fydd yn help wrth ddewis mesurau ar gyfer cartrefi.Y landlord sy’n gyfrifol am ddweud wrth gyflenwr y synhwyrydd i anfon y data i ddangosfwrdd yr ORP (sydd wedi’i greu gan TrustMark) y mae landlordiaid ORP yn cael ei ddefnyddio.
- Mae angen i landlordiaid cymdeithasol ddefnyddio gwybodaeth gyfredol a data arolygon i ddatblygu Asesiad Stoc Cyfan o’u cartrefi.
Dylai landlordiaid cymdeithasol baratoi Llwybr Ynni Targed ar gyfer pob cartref lle cynhelir mesurau ôl-osod ORP, gan nodi sut y bydd y cartref hwnnw yn y pen draw yn cyrraedd y targedau o ran gwres fforddiadwy a datgarboneiddio.
Mae canllaw wedi’i gyhoeddi gyda WHQS ’23 ar sut y dylai landlord gynnal Asesiad Stoc Cyfan a pharatoi Llwybr Ynni Targed.
- Bydd angen i landlordiaid cymdeithasol roi gwybod i swyddogion Llywodraeth Cymru sawl safle y cynhelir mesurau ôl-osod ynddynt a'r math o ymyrraeth a ddefnyddir ac allbynnau allweddol eraill.
- Mae gofyn i landlordiaid baratoi astudiaeth achos ar gyfer pob prosiect.
- Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol nodi manylion cyflenwyr eu cynnyrch a’u gwasanaethau (e.e. enw cwmni, gwefan, cyfeiriad busnes, y cynnyrch/gwasanaeth sy’n cael ei gaffael, dull caffael, sut cafwyd hyd i’r cyflenwr).
- Bydd gofyn i landlordiaid cymdeithasol nodi manylion yr hyfforddiant y mae eu staff a’u cyflenwyr yn ei dderbyn yng Nghymru fel rhan o Rhaglen ôl-osod er mwyn Optimeiddio: hyfforddiant | LLYW.CYMRU a chynnig sylwadau ar hynny.
- Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ddisgrifio ffrydiau ariannu ychwanegol yr ymgeisir amdanynt ar gyfer cynnal gweithgareddau ôl-osod, gan gynnwys eu cyfraniad eu hunain a ffrydiau ariannol eraill e.e. y rheini sy’n gysylltiedig â phrosiectau wedi’u gosod yn ogystal â chynlluniau ariannu/gwasanaethau ariannol eraill gyda phartneriaid eraill.
Y nod yw datblygu’r sector gwasanaethau ariannol ac yswiriant sy’n gysylltiedig ag ôl-osod cartrefi a’r gadwyn gyflenwi gysylltiedig o gynhyrchion a gwasanaethau.
6. Pwy sy’n gymwys
- Caiff taliadau eu rhyddhau fel ôl-daliadau yn unol â’r gwaith fydd wedi’i wneud fel rhan o’ch rhaglen. Defnyddir cylch talu chwarterol gydol blwyddyn ariannol 2024/25, gyda gofyn bod yr holl waith yn cael ei orffen erbyn 31/03/2025 fan hwyraf. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw waith oedd heb ei orffen o fersiynau blaenorol o’r rhaglen. Ni fydd grant ar gael ar gyfer unrhyw waith fydd heb ei orffen ar ôl y pwynt hwn.
- Mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i newid dyddiadau a gofynion y cynllun. Trafodir hyn yn uniongyrchol ag ymgeiswyr llwyddiannus ar adeg briodol.
- Er mwyn helpu landlordiaid cymdeithasol i dalu am waith sy’n ychwanegol at eu rhaglenni ‘Trwsio, Cynnal a Gwella’ (RMI) ac yn cynnwys peidio â defnyddio arian RMI o’r dyfodol i’w ddefnyddio gyda’r grant ORP. Mae’r rhaglenni RMI hyn yn gyson gan fwyaf â Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) 2008.
- Mae costau cyfalaf cymwys yn golygu costau y gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r rhaglen fel inswleiddio, pympiau gwres ac ymyriadau eraill. Mae costau refeniw cymwys hefyd yn gostau y gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r rhaglen, fel costau llafur.
- Gellir defnyddio hyd at 10% o drothwy ariannu’r dyraniad grant i gynnal y gweithgareddau anuniongyrchol canlynol:
- Gwaith arloesi ac ymchwil ar gyfer datgarboneiddio’ch stoc dai.
- Ffioedd rheoli rhaglenni mewnol.
- Ffioedd rheoli trydydd parti (ystyrir pob achos yn ôl ei rinweddau)
- Caffael meddalwedd fewnol ar gyfer rheoli asedau a modelu stoc
Dadansoddwyd costau bras ‘Inswleiddio Waliau Allanol’ y 23 cynllun a gyflwynwyd gan landlordiaid cymdeithasol fel rhan o ORP3 Bl 2:
- Ar gyfer tai, heb gynnwys yr achosion drutaf / rhataf, y pris ar gyfartaledd yw £179m2 a £19,600 fesul tŷ- Ar gyfer fflatiau, mae arwynebedd waliau allanol yn amrywio’n fawr, felly mae’r gost fesul m2 yn amrywio’n fawr. Y gost ar gyfartaledd fesul fflat yw £15,000.
Disgwylir i landlordiaid nodi costau Inswleiddio Waliau Allanol ac Inswleiddio Waliau Mewnol fflatiau a thai ar y ‘Ddalen Costau Cymwys a Manylion y Cynllun’ (gweler Tabiau’r Cynllun – Cell D5).
Bydd angen esbonio’r rhesymau os bydd y costau lawer yn uwch na’r costau llinell sylfaen hyn.
- Mae ffioedd arolygon a systemau monitro amgylcheddol ac ynni yn gostau cymwys.
- Bydd TAW (Treth ar Werth) ar wariant a ysgwyddir ond yn cael ei ystyried yn wariant cymwys os na allwch adennill y TAW o fewn eich rheolau trethu eich hun.
7. Gwerthuso
Bwriad Llywodraeth Cymru yw casglu tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd ddim, er mwyn llywio penderfyniadau buddsoddi a pholisi yn y dyfodol. Fel rhan o’r gwerthusiad, bydd agen cyhoeddi astudiaethau achos ar yr Hwb Carbon Sero Net.
Bydd y Llythyr Cynnig Grant a roddir i’r prosiectau llwyddiannus yn cadarnhau beth fydd y gofynion gwerthuso.
Bydd gofyn i bob prosiect llwyddiannus gynnal ymarferion gwerthuso fel amod o’r grant. Gellir comisiynu gwerthusiad ychwanegol penodol er mwyn asesu ffocws cynllun unigol ar arloesedd. Trafodir hyn fesul cynllun cyn cytuno arno. Mae darparu data amserol hefyd yn amod o’r cyllid.
Ar ôl dadansoddiad cychwynnol bydd y data a gesglir ar gael i'r cyhoedd. Noder y cyhoeddir y data ar wefan yr ORP a bydd y cyfan yn ddienw. Efallai y bydd hefyd angen datblygu astudiaethau achos ac efallai y bydd cymorth ar gael ar gyfer hynny.
8. Y broses ymgeisio
8.1 Cyflwyno Ceisiadau
Dylech e-bostio pob gohebiaeth a phob cais at: OptimisedRetroFitProgramme@gov.wales. Dylech anfon copi hefyd at arweinydd perthnasol yr ORP yn Llywodraeth Cymru:
- Daniel Dunning (daniel.dunning@gov.wales) – Arweinydd cyffredinol ac ar faterion ariannol
- Katie Bryant (katie.bryant@gov.wales) – gweinyddu’r grant ac ymholiadau cyffredinol
- Patrick Myall (patrick.myall001@gov.wales) – ar faterion monitro a manylebau technegol
- Malcolm Davies (Malcolm.Davies2@gov.wales) – ar faterion ynghylch Cadwyni Cyflenwi a Sgiliau
- Bethan King (bethan.king@gov.wales) – ar faterion monitro, Dangosyddion Perfformiad ac adroddiadau cynnydd
8.2 Asesu Cydymffurfiaeth
Dylai ymgeiswyr nodi’r canlynol:
- Rhaid cyflwyno ffurflen gais wedi’i llenwi, y costau cymwys a manylion y cynllun ac unrhyw atodiadau sydd eu hangen.
- Bydd ymgeiswyr wedi ymrwymo i fodloni’r holl feini prawf a ddisgrifir yn y ffurflen gais.
- Bydd ymgeiswyr wedi ymrwymo i fonitro a gwerthuso’r prosiectau a gyllidir.
- Rhaid i ymgeiswyr ystyried y Canllaw Rheoli Cymorthdaliadau. Bydd Llywodraeth Cymru’n cadarnhau hyn.
- Bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn am ragor o fanylion neu wybodaeth a/neu am esboniadau yn ôl y gofyn i fedru asesu a chymeradwyo cais yr ORP a disgwylir i ymgeiswyr ymateb ar fyrder i’r ceisiadau hyn.
9. Y broses asesu
Caiff y cynigion eu hasesu yn ôl y graddau y maent yn cyd-fynd ag amcanion a nodau’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ac â’r gofynion a ddisgrifir uchod.
Gallem ofyn i ymgeiswyr am ragor o wybodaeth a/neu esboniadau fel a ddisgrifir uchod. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn hysbysu ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno cynigion llwyddiannus a/neu gynigion gydag amodau cyn cynnig a dyfarnu’r grant.
9.1 Cynnig Grant Yr Orp
Caiff llythyr cynnig grant ei anfon ar ôl cwblhau’r holl archwiliadau a phrosesau a ddisgrifir uchod. Rhaid cyflwyno proffil talu gyda’r cais.
10. Cyfathrebu a brandio
Dylid cydnabod cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar bob cyhoeddusrwydd, datganiad i'r wasg a deunydd marchnata sy’n ymwneud â'r prosiect, yn ogystal ag ar y safle wrth ei ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys hysbysfyrddau ar y safle.
Mae'n rhaid i’r gydnabyddiaeth honno fod ar ffurf a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a rhaid iddi gydymffurfio â chanllawiau brandio Llywodraeth Cymru.
11. Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ragor o gyngor neu wybodaeth am yr ORP, e-bostiwch OptimisedRetroFitProgramme@gov.wales