Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r prosiectau cyntaf i elwa o Gronfa Band Eang Lleol gwerth £10 miliwn Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cyhoeddi heddiw gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Gronfa Band Eang Lleol yn cefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol, gan helpu cymunedau sydd heb fynediad ato.

Gall awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol wneud cais am gyllid i helpu i ddod â band eang cyflym a dibynbadwy i gymunedau sydd â chysylltiad gwael. Mae cam nesaf y gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau ac i gau ar 28 Ionawr.

Mae dau brosiect yn Sir Fynwy ac un yn Michaelston y Fedw ger Casnewydd i elwa o dros £1.1 miliwn rhyngddynt er mwyn datblygu prosiectau i wella mwy ar gyflymder band eang yn eu hardaloedd.

Caiff ceisiadau eu cyflwyno i’r Gronfa Band Eang Lleol gan awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i fynd i’r afael â phroblemau pendodol gyda cyflymder band eang yn eu cymunedau.

Y prosiectau i elwa yn y cam cyntaf yw:

  • Cwm Llanddewi Nant Honddu, Sir Fynwy: ateb ffibr hybrid / tonfedd i ddod â chysylltiadau gwell i'r ardal. Mae gan y cwm 122 o adeiladau ac mae 30 y cant ohonynt yn fusnesau yn yr ardal dwristiaeth boblogaidd hon. Ar hyn o bryd mae'n un o'r ardaloedd sydd â'r cysylltiadau gwaethaf yn y sir.
  • Cynllun Cyngor Sir Fynwy i adeiladu rhwydwaith mynediad opteg di-wifr a ffibr cymysg sy'n gallu darparu cyflymder o rhwng 50Mbs ac 1Gbs ar draws Sir Fynwy i gymunedau difreintiedig yn ddigidol. Bydd hefyd yn cefnogi prosiect prawf 5G Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o gysylltu cymunedau gwledig yn Sir Fynwy a chymunedau lled-drefol ym Mlaenau Gwent.
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol Rhyngrwyd Michaelston y Fedw: ers 2018 mae'r cwmni wedi darparu 240 o gysylltiadau ffibr i'r safle i adeiladu gwledig a oedd gynt yn ei chael yn anodd derbyn gwasanaeth band eang y gellid ei ddefnyddio. Ar hyn o bryd mae'r holl offer gweithredol wedi'i osod mewn cynhwysydd llongau yn Michaelston y Fedw. Bydd yr arian yn cyfrannu at ganolfan ddata ddiogel a cheblau ffibr o'r ganolfan honno, a fyddai hefyd yn rhoi cyfle i ehangu i fwy o safleoedd yn y dyfodol

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Dros y flwyddyn anodd a heriol hon nid yw pwysigrwydd band eang dibynadwy cyflym erioed wedi bod yn fwy amlwg. Er nad yw’r maes hwn wedi ei ddatganoli i Gymru rydym yn cymryd camau i ddod â band eang cyflymach a chysylltedd symudol gwell ble y bo modd.

“Er y gall y mwyafrif llethol o adeiladau ledled Cymru bellach ddefnyddio band eang cyflym iawn, yn dilyn ein hymyraeth gyda Cyflym Cymru, rydym yn gwybod bod cymunedau yn parhau i dderbyn gwasanaeth gwael.

“Mae’r Gronfa Band Eang Lleol yn caniatáu i awdurdodau lleol enwebu cynlluniau penodol fydd yn targedu cymunedau ble y mae problemau gydag chyflymder isel a signal symudol gwael. Dwi’n falch heddiw o gyhoeddi y tri cynllun cyntaf i elwa o’r cyllid hwn.  Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau hynny.

“Dwi’n edrych ymlaen at wneud rhagor o gyhoeddiadau dros yr ychydig fisoedd nesaf a byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddewis y cymunedau a’r cynlluniau fyddai’n elwa fwyaf o’r gronfa hon.