Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Llun 1 Tachwedd) bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn mynd ar drên o Gaerdydd i Glasgow i ymuno ag arweinwyr y byd ar gyfer Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn yr Alban.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ei neges i bobl yng Nghymru yw pŵer gweithredu ar y cyd. Gall gwledydd llai, fel Cymru, gyflawni pethau gwych pan fydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd - a dyna'r gwahaniaeth sydd ei angen ar y byd nawr i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac ers hynny mae wedi gwneud y canlynol:

  • Cyhoeddi cynllun sero net yn datgan degawd o weithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
  • Dechrau adolygiad ffyrdd o brosiectau ffyrdd newydd yng Nghymru, gan gydnabod yr angen am symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, ac yn hytrach ailgyfeirio cyllid tuag at gynnal a chadw ffyrdd presennol a buddsoddi mewn dewisiadau amgen gwirioneddol yn lle trafnidiaeth breifat, fel trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
  • Ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel o ansawdd uchel i'w rhentu yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae Cymru yn rhagori ar yr holl ddisgwyliadau o ran ailgylchu ac mae’n falch o fod ar y blaen ymhlith gwledydd y DU ar gyfer ailgylchu cartrefi; yr ail orau yn Ewrop a'r drydedd orau yn y byd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae hwn yn gyfnod cwbl allweddol i ni i gyd. Rydyn ni yn dechrau ar ddegawd o weithredu gwirioneddol yng Nghymru. Fel rydyn ni wedi dangos gyda'n cyfraddau ailgylchu sy'n flaengar ar lefel byd, mae gwneud y pethau bychain yn ein bywydau bob dydd yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

“Ond mae angen i ni wneud llawer mwy yn ystod y 10 mlynedd nesaf nag yr ydym wedi’i wneud yn ystod y 30 diwethaf i gyrraedd ein targed sero net. I gyflawni hyn, mae angen i bawb weithio gyda’i gilydd - mae angen i bawb chwarae eu rhan.

“Drwy weithio gyda'n gilydd a gweithredu ar y cyd gallwn greu Cymru gadarnach, decach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Yn Glasgow, yng nghynhadledd COP26, byddwn yn dangos bod Cymru yn barod i chwarae ei rhan. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r gynhadledd fel cyfle i ddysgu gan eraill.”