Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw ar safonau a dyletswyddau'r Gymraeg i ddarparwyr gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Safonau'r Gymraeg mewn gofal sylfaenol

Mae safonau'r Gymraeg yn gymwys i wasanaethau gofal sylfaenol y GIG sydd dan gontract gan y byrddau iechyd, gan gynnwys deintyddion y GIG.

Ar hyn o bryd, nid yw safonau'r Gymraeg yn gymwys i ddarparwyr annibynnol. Fodd bynnag, rhaid iddynt ddilyn dyletswyddau'r Gymraeg.

Safonau’r Gymraeg: Darparwyr gofal sylfaenol y GIG

Mae gofyn i chi:

  • helpu staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg
  • darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
  • asesu'r angen am sgiliau Cymraeg wrth hysbysebu swyddi

Mae gofyn i gyrff y GIG wneud y canlynol hefyd:

  • cyhoeddi cynllun pum mlynedd yn nodi i ba raddau mae modd iddynt gynnal ymgyngoriadau clinigol cyfrwng Cymraeg
  • cyhoeddi'r camau maent yn bwriadu eu cymryd i wella eu gallu i wneud hynny
  • cadw cofnod o sgiliau Cymraeg y staff
  • dangos yn eu cynlluniau ar gyfer newid a gwella gwasanaethau eu bod wedi rhoi sylw dyledus i'r angen i fynd ati'n rhagweithiol i gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg heb i bobl orfod gofyn amdanynt, sef cynnig rhagweithiol 

Dyletswyddau'r Gymraeg: darparwyr gofal sylfaenol annibynnol

Ers 30 Mai 2019, mae 6 dyletswydd mewn perthynas â’r Gymraeg wedi cael eu gosod ar gontractwyr gofal sylfaenol annibynnol.

Ar gyfer unrhyw wasanaeth sy'n cael ei ddarparu dan y contract, rhaid i ddarparwyr:

  • hysbysu'r bwrdd iechyd lleol os ydynt yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • darparu fersiynau Cymraeg o'r holl ddogfennau neu ffurflenni sy'n cael eu rhoi iddynt gan y bwrdd iechyd lleol
  • sicrhau bod unrhyw arwydd neu hysbysiad newydd yn ddwyieithog. Gall Contractwyr ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu byrddau iechyd lleol at y diben hwn
  • annog staff i wisgo bathodyn neu laniard i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg, os ydynt yn darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg
  • sefydlu a chofnodi dewis iaith y claf
  • annog a chynorthwyo staff i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynychu cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau a ddarperir gan y bwrdd iechyd lleol