Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i weithredu cofrestr o feddygon locwm o fis Ebrill eleni.
Bydd llunio cofrestr o feddygon locwm i Gymru gyfan yn gam arloesol mewn darparu gofal sylfaenol, a thrwy’r gofrestr honno bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cael gwybodaeth a fydd yn ei helpu i ddeall mwy am y farchnad meddygon locwm, a sut y gall y meddygon hyn gefnogi'r ddarpariaeth ymarfer cyffredinol yn y dyfodol.
Mae capasiti staffio dros dro yn rhan hanfodol o'r gweithlu gofal sylfaenol, gan ei bod yn ffordd o ymdopi â digwyddiadau annisgwyl megis absenoldeb salwch, yn ogystal â digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio megis gwyliau blynyddol neu absenoldeb mamolaeth.
Er i’r nifer o feddygon teulu sydd gennym yng Nghymru barhau'n sefydlog ar y cyfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y meddygon locwm mewn ymarfer cyffredinol wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn awyddus i gael dealltwriaeth well o'r rhan hon o'r gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru er mwyn inni allu cynllunio'r gweithlu'n fwy effeithiol – bydd y gofrestr i Gymru gyfan yn darparu gwybodaeth hanfodol a fydd yn ein helpu i ymateb i'r twf mewn modd priodol.
Er mwyn cael mynediad at y cynllun, a gefnogir gan y wladwriaeth, sy’n darparu indemniad i unigolion os bydd honiad o esgeulustod clinigol yn eu herbyn wrth iddynt wneud gwaith y GIG, bydd yn rhaid i feddygon locwm mewn ymarfer cyffredinol fod ar y gofrestr.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fydd yn rheoli'r gofrestr a sicrhau bod y gwiriadau angenrheidiol yn cael eu cwblhau. Bydd y gofrestr ar gael i feddygfeydd a byrddau iechyd a fydd yn gallu ei defnyddio fel y cam cyntaf yn y broses o recriwtio meddyg locwm.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Bydd y gofrestr meddygon locwm i Gymru gyfan, sef y gofrestr gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, yn darparu gwybodaeth i gefnogi’r strwythur y mae ei angen i reoli a deall y trefniadau ar gyfer recriwtio meddygon locwm ym maes ymarfer cyffredinol.
“Yn ystod y tri mis cyntaf pan fydd y gofrestr ar waith, byddwn ni’n mynd ati gyda’n rhanddeiliaid i ddatblygu’r telerau gweithio.
“Dros gyfnod o amser, rydyn ni'n bwriadu gweithio gyda meddygon locwm sydd ar y gofrestr i lunio cynnig a fydd yn eu helpu i wireddu eu dyheadau ehangach o ran eu gyrfa ac yn diwallu eu hanghenion datblygu.”