Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Gymru weld cynnydd yn nifer yr achosion o amrywiolyn Delta, mae pobl yn cael eu hannog i fanteisio ar eu cynnig o frechlyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta yn parhau i godi yng Nghymru, gyda’r mwyafrif ohonynt ymhlith pobl nad ydynt wedi cael eu brechu eto. Mae pob oedolyn yng Nghymru bellach wedi cael cynnig y brechlyn, a hoffwn annog pawb sydd wedi cael  y cynnig hwn i sicrhau ei fod yn manteisio arno. Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal y coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn newydd hwn, rhag lledaenu, ac atal salwch difrifol.  

Mae hefyd yn bwysig iawn bod pobl yn cael yr ail frechiad, sy’n cadw pobl yn llawer mwy diogel. Yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, rydym yn lleihau’r cyfnod rhwng y dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechlyn ar gyfer pobl lle mae mwy o risg y gallent ddal COVID-19.

Felly, cofiwch fanteisio ar y cyfle i gael eich brechu, eich mwyn diogelu chi eich hunan a hefyd eich anwyliaid, a helpu Cymru i symud allan o gyfyngiadau’r pandemig.

Yng Nghymru, mae gennym bolisi o beidio â gadael neb ar ôl, ac mae gan bob bwrdd iechyd system sy’n galluogi pobl i gael apwyntiad os ydynt yn meddwl eu bod wedi colli eu tro, neu os ydynt wedi newid eu meddwl.

Os na allwch gadw eich apwyntiad, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd i drefnu un arall. Ni ddaw eich cynnig i gael eich brechu i ben. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.