Bydd cyllid ychwanegol o bron i £3 miliwn yn cefnogi rhai o’r defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19.
Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Eluned Morgan wedi gwneud addewid i roi ‘help llaw’ i’r rheini sy’n chwilio am waith, llety parhaol, ac a allai fod phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau ynghanol y pandemig hwn.
Bydd y cyllid ychwanegol yn darparu cymorth cynnar wedi’i dargedu, ar gyfer yr unigolion mwyaf agored i niwed mewn ffordd ataliol er mwyn atal anghenion, sy’n aml yn rhai cymhleth, rhag gwaethygu.
Caiff y cyllid ei rannu i saith maes penodol, a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ’r Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol, yr heddlu a’r Byrddau Cynllunio Ardal, yn ogystal chynorthwyo byrddau iechyd i ddarparu cymorth iechyd meddwl dan arweiniad y sector gwirfoddol yn eu hardaloedd.
Mae’r cyllid yn cynnwys:
- £1.4 miliwn tuag at gynlluniau dan arweiniad y trydydd sector er mwyn diwallu anghenion iechyd meddwl a llesiant ar lefel isel
- bydd £75,000 yn ariannu’r rhaglen ‘Gallaf Weithio’ i helpu pobl sydd phroblemau iechyd meddwl ysgafn neu gymedrol i gael gwaith am dl
- £25,000 i gefnogi datblygiad y gweithlu camddefnyddio sylweddau i sicrhau bod gan yr aelodau y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau hanfodol
- £750,000 i ddarparu llety adsefydlu preswyl i’r rheini sydd ag anghenion cymhleth i allu byw’n annibynnol mewn llety parhaol
- £500,000 i ddarparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i wasanaethau camddefnyddio sylweddau sy’n darparu ystod o wahanol gymorth i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas
- £150,000 ar gyfer Cronfa Cynhwysiant Digidol er mwyn gwella gwasanaethau digidol ar gyfer defnyddwyr sy’n cael eu hallgau’n ddigidol ar hyn o bryd
- £50,000 i gefnogi gwaith gyda heddluoedd ar draws Cymru yn treialu pecynnau naloxone trwynol fel rhan o’r ymdrech i leihau marwolaethau sy’n gysylltiedig
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg:
Gwyddom fod ymyrraeth gynnar yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y mae’r pandemig hwn wedi’i chael ar aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, ac mae’n rhaid i ni roi help llaw ychwanegol pan fo angen.
Mae’r cyllid hwn yn rhan allweddol o’n cynllun adfer, lle rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella llesiant unigolion, cefnogi pobl ddigartref, a lleihau diweithdra er mwyn rhoi’r cyfle gorau i bobl.
Dyma gyfnod heriol i bobl un ohonom, ond os byddwn yn gofalu am ein gilydd ac yn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed, fe ddown drwyddi. Gall unrhyw un sy’n pryderu am ei iechyd meddwl neu am iechyd meddwl berthynas neu ffrind ffonio Llinell Gymorth C.A.L.L. ar 0800 132 737 neu anfon neges destun ‘help’ i 81066.