Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi croesawu’r ffaith bod y cynllun ffyrlo wedi’i ymestyn tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ond mae'n rhybuddio bod tro pedol munud olaf Llywodraeth y DU eisoes wedi achosi niwed anfesuradwy i fywydau pobl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Anogodd y Gweinidog y Canghellor hefyd i gymryd camau i ôl-ddyddio’r cymorth i fusnesau a gweithwyr yng Nghymru am bob un o 17 diwrnod y cyfnod atal fel nad ydynt o dan anfantais.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Rwy’n falch bod gan fusnesau a gweithwyr rywfaint o sicrwydd y mae ei fawr angen erbyn hyn, ond mae'n annerbyniol bod Llywodraeth y DU wedi aros nes i gyfyngiadau symud gael eu cyflwyno yn Lloegr cyn gweithredu. I lawer o fusnesau a gweithwyr mae'r estyniad hwn wedi dod yn rhy hwyr.

"Mae'n amlwg bellach y gallai'r Canghellor fod wedi rhoi mwy o gefnogaeth i’r cyfnod atal hanfodol yng Nghymru o 17 diwrnod. Byddaf yn parhau i bwyso ar Drysorlys Ei Mawrhydi i ôl-ddyddio’r  gefnogaeth ar gyfer y cyfnod hwn.

“Er bod y warant ariannu a negodwyd gennym yn cynnig rhywfaint o rybudd ynghylch cyllid newydd, mae'r angen am fwy o hyblygrwydd cyllidebol yn bwysicach nag erioed i'n helpu i reoli effaith y pandemig wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.”