Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwasanaethau sy’n helpu pobl yng Nghymru i reoli eu dyledion, a gwella’r incwm sy’n dod i mewn i’r aelwyd, yn cael hwb o £1.4m i’w helpu i ymateb i’r cynnydd yn y galw am gefnogaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod argyfwng y coronafeirws wedi rhoi pwysau ariannol mawr ar bobl yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yn gweld eu hincwm yn gostwng, ac yn wynebu’r perygl o fynd i ddyled ddifrifol.

Bydd y cyllid newydd hwn yn cryfhau’r gwasanaethau sy’n rhoi cyngor ar ddyledion  drwy’r Gronfa Gynghori Sengl, er mwyn sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed, megis tenantiaid yn y sector preifat, yn gallu cael y cyngor a’r cymorth y mae eu hangen i ymdopi â’u sefyllfa ariannol.

Bydd y cyllid a gyhoeddir heddiw hefyd yn mynd at amryw o fentrau sy’n helpu pobl, yn enwedig y rheini sydd fwyaf agored i niwed, i hawlio’r cymorth ariannol sydd ar gael iddynt drwy systemau budd-daliadau Cymru a’r DU.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Er bod argyfwng y coronafeirws yn effeithio ar bawb, rydyn ni’r gwybod ei fod yn cael effeithiau ariannol sylweddol ar rai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

“Bydd y cyllid dw i’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu’r bobl sydd yn y perygl mwyaf o fynd i ddyled oherwydd colli incwm i ymdopi â’u hymrwymiadau ariannol.

“Mae’n glir y bydd effeithiau’r pandemig ar ein heconomi i’w teimlo am yn hir, a byddwn ni’n parhau i weithio i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael yn gallu darparu cymaint o gefnogaeth â phosibl wrth inni i fynd ati i adfer o’r argyfwng hwn.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

“Rydyn ni’n gwybod bod pobl sy’n byw gyda dyledion yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, ac felly mae’n hanfodol bwysig eu bod yn cael cyngor a chymorth mor brydlon â phosibl.

“Mae’n hawdd cael mynediad at y gwasanaethau cynghori ar ddyled sy’n cael eu darparu drwy’r Gronfa Gynghori Sengl, ac mae llawer o bobl yn gwybod am y gwasanaethau hyn sy’n ceisio sicrhau bod pobl agored i niwed ledled Cymru yn cael y cyngor a’r cymorth priodol.”

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

“Mae effeithiau ariannol yr argyfwng yn amlwg - mae llawer o denantiaid yng Nghymru eisoes yn methu â chadw i fyny â’u taliadau rhent, neu’n disgwyl i hynny ddigwydd iddyn nhw.

“Mae gwasanaethau cynghori yn hynod werthfawr gan eu bod yn helpu pobl i wella eu gallu ariannol ac i ganfod eu ffordd drwy’r system fudd-daliadau, drwy sicrhau eu bod yn deall yn union beth y mae ganddyn nhw’r hawl iddo a sut i wneud cais amdano.

 “Mae hyn yn rhan o becyn cymorth yr ydym yn ystyried ei ddarparu yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi mwy o gefnogaeth, yn fwy prydlon, i’r bobl sydd â’r angen mwyaf.”