Ni fydd pobl sy’n prynu eu prif gartref yng Nghymru sy’n costio llai na £250,000 yn gorfod talu treth o gwbl, yn sgil mesurau dros dro a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid heddiw.
Bydd y trothwy cychwynnol ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn cynyddu o £180,000 i £250,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl pan gyflwynir y mesur newydd hwn ddydd Llun 27 Gorffennaf. Mae hwn yn ostyngiad treth a fydd yn para tan 31 Mawrth 2021.
Bydd y trothwy newydd yn lleddfu rhagor ar y baich trethi yng Nghymru. Ni fydd tua 80% o brynwyr tai sy’n agored i dalu prif gyfraddau'r dreth trafodiadau tir yn talu unrhyw dreth. Bydd hyn yn ostyngiad treth o £2,450 ym mhob trafodiad.
Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu natur y farchnad dai, gan fod y prisiau ar gyfartaledd gryn dipyn yn is yng Nghymru (£162,000) nag yn Lloegr (£248,000). Mae pobl sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yn talu £139,000 ar gyfartaledd yng Nghymru, a £208,000 yn Lloegr.
Ni fydd y gostyngiad hwn yn y dreth yn gymwys i eiddo ychwanegol, gan gynnwys tai a brynir i’w gosod ac ail gartrefi.
Bydd y Gweinidog Cyllid hefyd yn cadarnhau y bydd yr arbedion a wneir drwy gyflwyno’r cyfraddau dros dro hyn yng Nghymru yn rhyddhau £30m o gyllid newydd i helpu i adeiladu cartrefi cymdeithasol modern, sy’n effeithlon o ran ynni.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
"Bydd y gostyngiad hwn yn y dreth yn helpu prynwyr tro cyntaf yn ogystal â'r rhai sy'n gwerthu er mwyn symud i dŷ arall, ond rydym yn dilyn trywydd gwahanol er mwyn cefnogi swyddi a’r diwydiant adeiladu tai yng Nghymru.
"Wrth gael gwared ar drethi i’r rhai sydd angen help ychwanegol, mae'r gyfradd dros dro hefyd yn lleihau'r dreth a delir ar eiddo drutach, i helpu'r farchnad dai ehangach.
"Yn sgil y newidiadau hyn, bydd mwy na thri chwarter y rhai sy’n prynu tai yn cael peidio â thalu unrhyw dreth o gwbl, sef cynnydd o 20% o dan ein mesurau presennol.
"Drwy bennu'r cyfraddau hyn ar gyfer Cymru, rwyf hefyd yn gallu cadarnhau y bydd £30m ar gael i gefnogi'r gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, a thrwy hynny greu swyddi y mae gwir angen amdanynt.”