Heddiw, bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn nodi ei phum egwyddor allweddol a fydd yn pennu sut y bydd addysg yn cael ei chyflwyno'n raddol mewn ysgolion yng Nghymru.
Cyn iddi ymddangos o flaen y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, bydd y Gweinidog yn egluro'i chynlluniau ar gyfer dull graddol o ganiatáu i fwy o ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol.
Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn agored i blant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed yn unig, ac mae llawer o awdurdodau lleol yn gweithredu drwy ysgolion hyb, yn hytrach nag agor pob ysgol yn eu hardal.
Bydd darpariaeth ysgolion yn addasu’n raddol ac yn ehangu ymhellach yn ystod y cyfnod nesaf, yn unol â newidiadau i'r cyfyngiadau cyfredol a amlinellwyd gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Cyhoeddodd y Prif Weinidog fframwaith gyda saith cwestiwn allweddol i helpu i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws.
Bydd y Gweinidog Addysg yn nodi pum egwyddor ganllaw a fydd yn cael eu dilyn i bennu pryd a sut y bydd ysgolion yn dychwelyd at ddarparu addysg ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion ysgol:
- Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol myfyrwyr a staff
- Cyfraniad parhaus i’r ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19
- Hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel y gallant gynllunio ymlaen llaw
- Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig
- Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel pellhau, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.
Dywedodd Kirsty Williams:
Mae ein dealltwriaeth ddiweddaraf o gyfradd drosglwyddo COVID-19 yn caniatáu i ni fod yn obeithiol, ond mae dal gofyn i ni fod yn ofalus.
Mae'n hanfodol bod gan rieni, staff a myfyrwyr hyder i ddychwelyd i'r ysgol. Dim ond pan fydd y dystiolaeth a'r cyngor yn awgrymu mai dyma'r peth iawn i'w wneud y byddwn yn symud tuag at y cam nesaf.
Byddaf yn cyfleu unrhyw benderfyniadau i newid sefyllfa ysgolion ymhell cyn unrhyw gamau gofynnol, gan ganiatáu i staff ysgolion, disgyblion a rhieni gynllunio ymlaen llaw.
Ni fydd ysgolion yn dychwelyd ar unwaith i weithredu i’w capasiti llawn. Bydd yn broses raddol ac nid wyf yn disgwyl y bydd ysgolion yn sydyn ar agor i bob disgybl, o bob blwyddyn, drwy'r wythnos.
Mae her barhaus COVID-19 yn golygu y byddwn yn paratoi ysgolion ar gyfer ystod eang o senarios hyd y gellir rhagweld. Pa mor annhebygol bynnag y bo, rhaid inni baratoi ar gyfer sefyllfa sy'n gofyn i ysgolion leihau eu gweithredu ar adegau penodol yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod ysgolion a hybiau yn gallu darparu cefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen. Fel y dywedais o'r blaen, mae ein hathrawon, ein staff cymorth a'n gweithwyr gofal plant wedi profi eu bod yn arwyr cenedlaethol.