Rwyf yn hyderus bod y system sy’n cael ei goruchwylio gan Cymwysterau Cymru a CBAC, fel ymateb i’r argyfwng presennol, yn deg i fyfyrwyr ac yn gadarn o ran yr hyn mae’n ei fesur a’r arwydd mae’n ei roi i gyflogwyr a phrifysgolion.
Rwyf yn hyderus bod y system sy’n cael ei goruchwylio gan Cymwysterau Cymru a CBAC, fel ymateb i’r argyfwng presennol, yn deg i fyfyrwyr ac yn gadarn o ran yr hyn mae’n ei fesur a’r arwydd mae’n ei roi i gyflogwyr a phrifysgolion.
Fodd bynnag, mae llywodraethau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi cyflwyno newidiadau i’w systemau a rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw’r addasiadau hyn yn peri anfantais i fyfyrwyr Cymru.
Gall myfyrwyr yng Nghymru, a darpar gyflogwyr a phrifysgolion ledled y DU, fod yn dawel eu meddwl bod eu graddau Safon Uwch yn adlewyrchu eu gwaith ac arholiadau a asesir yn allanol.
Mae bron i hanner y radd derfynol yn dod o arholiadau Safon UG – nid dyma’r sefyllfa mewn lleoedd eraill.
Felly wrth adeiladu ar y gwaith hwnnw sydd wedi’i gwblhau, rwyf yn rhoi gwarant na all y radd Safon Uwch derfynol fod yn is na’r radd UG. Os bydd myfyriwr yn derbyn gradd derfynol yfory sy’n is na’i radd UG flaenorol, bydd gradd adolygedig yn cael ei rhoi’n awtomatig gan CBAC.
Bydd hyn yn golygu – ac rwyf wedi cael sicrwydd gan UCAS a’r prifysgolion – y gall myfyrwyr siarad gyda hyder gyda’u darpar brifysgolion ynghylch eu graddau Safon Uwch.
Nid yw OFQUAL wedi cyhoeddi manylion y broses apelio newydd eto yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Lloegr. Rwyf wedi gofyn i Gymwysterau Cymru, gan weithio gyda CBAC, weithio’n agos gyda chyrff cymwysterau gwledydd eraill y DU wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau. Byddaf yn gofyn i Cymwysterau Cymru symud ymlaen yn gyflym gydag addasiadau perthnasol i broses apelio yng Nghymru cyn gynted ag y mae’r cynlluniau hyn yn gliriach, er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr Cymru yn wynebu unrhyw anfantais.
Rwyf yn cadarnhau heddiw y bydd yr holl apeliadau am ddim i fyfyrwyr Cymru, i sicrhau nad oes unrhyw rwystr ariannol i sicrhau bod dysgwyr yn teimlo bod eu graddau yn eu harholiadau yn deg.