Heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 29) mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi datgan ei chynigion ar gyfer cyflog athrawon yng Nghymru.
Mae’r cynigion yn dilyn cyhoeddi adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB).
Mae’r Gweinidog wedi derbyn mewn egwyddor holl brif argymhellion yr adroddiad ac mae hefyd wedi cynnig gwelliannau pellach i sicrhau bod athrawon yng Nghymru’n cael yr un cynnydd â’r rhai yn Lloegr.
Byddai’r cynigion yn arwain at y canlynol:
- cynnydd o 8.4% yng nghyflogau dechreuol athrawon newydd
- cynnydd cyffredinol o 3.1% i’r bil cyflog athrawon yng Nghymru
- codiad cyflog o 3.75% i athrawon ar y Brif Raddfa Gyflog
- diwedd ar godiad cyflog cysylltiedig â pherfformiad
- ailgyflwyno graddfeydd cyflog cenedlaethol
Dyma’r ail flwyddyn i’r Gweinidog Addysg dderbyn cyngor ar gyflog athrawon gan yr IWPRB.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:
Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn helpu i alluogi datblygu system genedlaethol nodedig sy’n decach ac yn fwy tryloyw ar gyfer pob athro yng Nghymru.
Hon yw’r ail flwyddyn yn unig ers i’r pwerau hyn gael eu datganoli ac mae eisoes yn glir bod y dull o weithredu yma yng Nghymru’n datblygu’n wahanol iawn i’r un a fabwysiadwyd yn flaenorol.
Hefyd mae nifer o faterion pwysig wedi cael sylw, gan gynnwys cyflwyno codiad cyflog yn seiliedig ar brofiad a graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol; dau welliant y mae’r gweithlu wedi bod yn galw amdanynt.
Hefyd mae’r Gweinidog wedi cynnig codiad cyflog o 2.75% i benaethiaid, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol, athrawon heb gymhwyso ac ymarferwyr arweiniol, yn ogystal â lwfansau athrawon – a phob un yn fwy na’r 2.5% sydd wedi’i argymell gan yr IWPRB.
Gan adeiladu ar y camau a gymerwyd y llynedd i annog recriwtio athrawon newydd, mae’r cyflog cychwynnol arfaethedig ar gyfer athrawon newydd yn cynyddu i fwy na £27,000 y flwyddyn, gydag athrawon ar y Brif Raddfa Gyflog yn derbyn codiad o 3.75% o leiaf ac athrawon ar y Raddfa Gyflog Uwch yn derbyn codiad o 2.75% o leiaf.
Byddai graddfa gyflog statudol, pum pwynt, yn cael ei chyflwyno hefyd, fel bod athrawon newydd yn gallu symud ymlaen i’r uchafswm o Brif Ystod Cyflog mewn pedair blynedd – blwyddyn yn gynt nag yn flaenorol.
Dywedodd y Gweinidog:
Fe hoffwn i ailbwysleisio ein penderfyniad i hybu addysgu fel proffesiwn o ddewis i raddedigion a phobl sy’n newid gyrfa.
Rydw i’n credu y bydd y newidiadau hyn i gyflog ac amodau’n parhau i ddenu athrawon o ansawdd uchel i’r proffesiwn yng Nghymru.
Bydd ymgynghoriad wyth wythnos gyda rhanddeiliaid yn dechrau yn awr, cyn cytuno ar gytundeb terfynol ar gyfer y cyflog.
Mae cyhoeddiad heddiw’n ymateb i adroddiad y Corff Adolygu Cyflogau Athrawon.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gyflog cydradd a bydd cyhoeddiad pellach yn cael ei wneud mewn perthynas ag Addysg Bellach yn fuan.