Neidio i'r prif gynnwy

Mae ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw gan UCAS yn dangos cynnydd o 2% mewn ceisiadau prifysgol gan ieuenctid 18 oed o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ystadegau’n dangos bod 21.6% o’r ieuenctid 18 oed o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig wedi gwneud cais hyd at ddiwedd mis Mehefin, i fyny o 19.4% y llynedd.

Hefyd mae’r data’n dangos bod cyfran uwch nag erioed o ieuenctid 18 oed o Gymru wedi gwneud cais i brifysgol. Roedd canran y ceisiadau yn 33.6%, y fwyaf erioed a chynnydd o 0.7 pwynt canran.       

Hefyd mae prifysgolion Cymru wedi derbyn mwy o geisiadau, gyda chynnydd o 6% mewn ceisiadau i ddarparwyr yng Nghymru, i fwy na 128,000.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r system cyllid myfyrwyr yn radical yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda newid sylfaenol tuag at gefnogi myfyrwyr gyda’u costau byw o ddydd i ddydd, a chefnogaeth gynyddol drwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

Rydw i’n hynod falch o weld yr ystadegau hyn, sy’n dangos bod y bwlch rhwng ymgeiswyr o’r ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn lleihau.

Fel Llywodraeth, rydyn ni’n credu bod addysg o ansawdd uchel yn rym sy’n gyrru symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth weithredol.

Rydyn ni’n agor addysg uwch i fwy o bobl nag erioed, gan ddarparu’r pecyn cefnogi haelaf i fyfyrwyr yn y DU. Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop sy’n cynnig cymorth costau byw cyfatebol i fyfyrwyr israddedig llawn amser a rhan amser a myfyrwyr ôl-radd.   

Hefyd mae cynnydd arwyddocaol o 6% wedi bod yn y ceisiadau i sefydliadau yng Nghymru. Mae prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad myfyrwyr ac ymchwil ac mae’n wych gweld mwy a mwy o fyfyrwyr yn dewis ein prifysgolion ni.