Y Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd: meini prawf asesu cais 2022 i 2023
Yn egluro’r mathau o brosiectau y byddwn yn eu cyllido a sut i gyflwyno cais.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Meini Prawf |
Pwysoliad (P) |
Achos strategol: a yw'r cynllun yn ymddangos achos cadarn dros newid? A yw'n cyd-fynd â dibenion / amcanion y grant? |
10 |
Achos trafnidiaeth: a yw'r cynllun yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Llwybr Newydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru? A yw’n cynnig gwerth am arian? |
5 |
Achos rheoli: a ellir darparu’r cynllun ac a yw unrhyw gerrig milltir wedi’u hesbonio? A yw’r risgiau darparu wedi’u nodi a’u lliniaru? |
5 |
Achos ariannol: beth yw cyfanswm cost y cynllun i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol/ Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol? Sgorio: <£0.2 miliwn = 5, £0.2 miliwn - £0.49 miliwn = 4, £0.5 miliwn - £0.99 miliwn = 3, £1 miliwn - £4.99 miliwn = 2, £5 miliwn - £9.99 miliwn = 1, £10 miliwn a throsodd = 0 |
4 |
Arian cyfatebol: a oes arian cyfatebol ar gael? Sgorio: 0% = 0, 1%-9% = 1; 10%-19% = 2; 20%-29% = 3; 30%-39% = 4 ac ati |
4 |
Achos masnachol: sut bydd y cynllun yn cael ei gaffael? A yw'n hyfyw? A yw hyd y contract yn unol â thelerau ac amodau'r grant? |
3 |
Monitro, gwerthuso a hyrwyddo: a yw’r cynnig yn cynnwys cynllun ar gyfer monitro, gwerthuso a hyrwyddo? |
3 |
Sgorio
5 = rhagorol
4 = da Iawn
3 = da
2 = boddhaol
1 = gwael
0 = dim neu dim tystiolaeth
Cyfrifo
Lluosir y pwysoliad â’r sgôr ar gyfer gwerthoedd yr asesiadau, ac maent i gyd yn cael eu hadio i roi’r gwerth terfynol.