Neidio i'r prif gynnwy

Ymunodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, â theuluoedd a oedd yn cymryd rhan yn nhaith gerdded deuluol GemauStryd yng Nghaerffili er mwyn lansio'r estyniad i’r Gronfa Iach ac Egnïol yn swyddogol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Iau 15 Gorffennaf, ymunodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, â theuluoedd a oedd yn cymryd rhan yn nhaith gerdded deuluol GemauStryd yng Nghaerffili er mwyn lansio'r estyniad i’r Gronfa Iach ac Egnïol yn swyddogol.

Gyda gwasanaethau wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol yn 2020 oherwydd y pandemig, mae cyfanswm o £991,200 o gyllid ychwanegol wedi cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y gronfa am flwyddyn arall. Sefydlwyd y Gronfa yn 2018 i helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol drwy alluogi pobl i fabwysiadu ffyrdd iach ac egnïol o fyw.

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru wedi dangos bod 60% o oedolion yng Nghymru yn bwriadu gwneud mwy o weithgarwch corfforol ac ymarfer corff wrth inni ddod allan o gyfnod y cyfyngiadau. Annog mwy o bobl i fod yn egnïol yw’r gobaith wrth ymestyn y Gronfa Iach ac Egnïol.

Aeth y Dirprwy Weinidog i’r daith gerdded wythnosol a gynhelir yn y Parc Brenhinol yn Rhymni a drefnwyd gan Academi Gymnasteg y Cymoedd a GemauStryd, i weld â’i llygaid ei hun sut mae'r Gronfa Iach ac Egnïol yn gwneud gwahaniaeth i bobl.

Mae'r teithiau cerdded sy’n cael eu trefnu ymlaen llaw yn darparu amgylchedd diogel ac yn rhoi cyfle i bobl gwrdd â theuluoedd eraill yn eu cymuned leol. Mae'r grŵp hefyd yn darparu bwyd iach ar ddiwedd yr holl deithiau cerdded.

Mae'r rhan fwyaf o'r teuluoedd wedi bod yn rhan o'r grŵp cerdded ers dros 18 mis. Siaradodd y rhai a oedd yn cymryd rhan â'r Dirprwy Weinidog gan sôn am y gwahaniaethau cadarnhaol yr oeddent yn eu gweld o ran bod yn fwy egnïol. Yn ystod y pandemig, darparodd y grŵp gefnogaeth o bell ar sut i gadw'n heini a theimlo'n rhan o'r gymuned.

Unwaith eto, bydd y Gronfa Iach ac Egnïol yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau ledled Cymru gyda phwyslais ar brosiectau sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, pobl ag anabledd neu salwch hirdymor, y rhai sy'n ddi-waith neu sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig neu bobl hŷn a'r rhai sydd ar fin ymddeol o'r gwaith.

Yn ystod yr ymweliad siaradodd y Dirprwy Weinidog â rhieni’r plant sy’n dod i’r sesiwn yn rheolaidd.

Dywedodd Kirstie Cavender, y mae ei phlant yn mynychu’r sesiynau:

Dyma’r peth gorau y maen nhw wedi’i wneud. Mae’n bwysig gwneud mwy o weithgareddau y tu allan i’r ysgol. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynnal ers sawl blwyddyn ac mae’r plant wrth eu bodd gyda nhw.

Dywedodd Rachel Sullivan, mam Oliver:

Mae e wedi manteisio yn aruthrol, yn enwedig ar ôl y cyfnod clo. Maen nhw wrth eu bodd yn bod allan gyda phawb.

Yn gynharach yn y mis aeth y Dirprwy Weinidog i ddosbarth bygis yn Abergele dan arweiniad Babi Actif. Mae’r prosiect sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Iach ac Egnïol yn helpu teuluoedd ar draws Conwy, Ynys Môn a Gwynedd drwy gefnogi rhieni a phlant i fod yn egnïol yn ystod 1000 diwrnod cyntaf y baban.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Mae pandemig y coronafeirws wedi gwneud i bob un ohonom ganolbwyntio mwy ar ein hiechyd a'n llesiant. Mae bod yn egnïol o fudd mawr i'n llesiant corfforol a meddyliol. Rydw i wrth fy modd bod gweithgareddau sy’n cael eu hariannu gan y rhaglen bellach wedi ailddechrau a'n bod ni wedi gallu ymestyn y gronfa am flwyddyn arall. Mae hyn yn dod ar ôl cyfnod sydd wedi bod yn anodd inni i gyd. Mae prosiectau sy'n cynnig rhywbeth ar gyfer gwahanol oedrannau a galluoedd yn cael eu cefnogi ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Leigh Williams, Rheolwr Prosiect Ymgysylltu â Theuluoedd GemauStryd:

Rydym yn croesawu’r newyddion am y pedwerydd estyniad o flwyddyn i’r Gronfa Iach ac Egnïol. Mae effaith barhaus y prosiect hwn mor bositif. Hoffem hefyd gydnabod hyblygrwydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid sydd wedi bod ynghlwm â’r Gronfa Iach ac Egnïol yn ystod y pandemig, a diolch iddynt am y cymorth a roddwyd er mwyn galluogi cynnal gweithgareddau mewn ffordd ddiogel, wedi’u haddasu.