Mae Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd i ddarparu cam cyntaf y Gronfa Iach ac Egnïol - cronfa gwerth £5.4m sy'n ceisio gwella iechyd meddyliol a chorfforol drwy alluogi pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw iach ac egnïol ledled Cymru.
Bydd cam cyntaf y Gronfa yn darparu £5.4m o gymorth ariannol, dros gyfnod o 3 blynedd (Ebrill 2019 - Mawrth 2022), i brosiectau sy'n cryfhau ac yn datblygu asedau cymunedol.
Mae arian wedi ei roi i sefydliadau sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso gweithgareddau iach i un neu ragor o'r grwpiau a ganlyn:
- Plant a phobl ifanc
- Pobl ag anabledd neu salwch hirdymor
- Pobl sy'n economaidd anweithgar neu sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig
- Pobl hŷn a'r rhai sy'n agos at oedran ymddeol o'r gwaith
Wrth siarad yn ystod ymweliad â 'Healthy Body – Healthy Mind’, prosiect sy'n cael ei arwain gan Women Connect First ac sydd â'r nod o annog menywod duon a menywod o leiafrifoedd ethnig a'u teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a byw bywydau iach, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Heddiw, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn cyhoeddi'r 17 prosiect a fydd yn elwa ar ein Cronfa Iach ac Egnïol gwerth £5.4m. Bydd pob un o'r prosiectau hyn yn cyfrannu at wella asedau cymunedol a galluogi pobl i fyw'n fwy iach.
“Pan gafodd ein Cronfa Iach ac Egnïol ei lansio fis Gorffennaf y llynedd, pwysleisiwyd bod y manteision i'n hiechyd meddyliol a chorfforol o fyw'n iach ac yn egnïol, yn glir. Mae'r prosiectau hyn yn dangos ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi pobl o bob oedran a chefndir.
Ychwanegodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae'r prosiectau a ddewiswyd yn ceisio lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau a rhwystrau mewn amrywiaeth o ffyrdd. O weithio ar draws cenedlaethau i arddio; annog teuluoedd i gadw'n heini gyda'u babanod newydd; i gynyddu gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae prosiectau eraill yn ceisio cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i fyw bywydau annibynnol a heini yn yr hirdymor, ac mae un yn defnyddio atgofion am chwaraeon i helpu pobl sydd â dementia.
Mae pob un o'r mentrau hyn yn ategu ein strategaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol hirdymor, sef Cymru Iachach.