Gall busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron wneud cais am gymorth ariannol brys gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.
![decorative](/sites/default/files/styles/600x400/public/announcements/2022-01/vaughan-gething_0.jpg?itok=ChBcBkYZ)
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y byddai £120 miliwn ar gael ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt gan y symud i Lefel Rhybudd 2 a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar ddydd Mercher 22 Rhagfyr. Mae’n cynnwys busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ynghyd â’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig.
Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500 a £25,000, gyda grantiau'n dibynnu ar faint y busnes a nifer y gweithwyr.
Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor am bythefnos, gyda thaliadau'n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi busnesau ledled Cymru ers dechrau’r pandemig, ac rydyn ni’n parhau i weithredu i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.
"Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol â busnesau, undebau llafur a phartneriaid eraill, newidiwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gan y gronfa hon yn ddiweddar. Mae grant y Gronfa Cadernid Economaidd yn gwneud taliad ychwanegol, sydd ar gael yng Nghymru yn unig, i gefnogi busnesau cymwys mae eu hincwm wedi gollwng 60% rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror o gymharu â’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl. Mae’r meini prawf newydd yn golygu bellach y bydd busnesau yn y sectorau hyn mae eu trosiant wedi gollwng 50% hefyd yn gallu cael mynediad at y Gronfa Cadernid Economaidd.
"Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o fusnesau yn cael rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Gall busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol yng Nghymru hefyd gael cymorth gan y grant sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig, sy'n cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Bydd gan fusnesau hawl i gael taliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol.
Mae awdurdodau lleol hefyd yn gweinyddu cronfa ddewisol ar gyfer unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsis a busnesau sy'n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes. Yr wythnos diwethaf cafodd y cymorth hwn ei ddyblu i £1,000.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £2.5 biliwn o gyllid ar gyfer busnesau Cymru ers dechrau'r pandemig. Gan ganolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau yng Nghymru, mae wedi cael ei weinyddu mewn ffordd dargedig helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi cael eu colli fel arall.
Gwnewch gais am gymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd yma: COVID-19 Cymorth i Fusnes