Neidio i'r prif gynnwy

Cylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Cefndir

Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu ar gais y Prif Weinidog sydd wedi gofyn am archwiliad o henebion a chofebion, enwau strydoedd ac enwau adeiladau ledled Cymru sydd â chysylltiad ag agweddau ar hanes pobl dduon. Mae hefyd wedi gofyn i’r grŵp sy’n goruchwylio’r archwiliad nodi ac ystyried materion sy’n codi o’r archwiliad a allai fod yn sail i ail gam y prosiect.

Cylch Gwaith ac Amcanion

Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn goruchwylio’r archwiliad hwn drwy ddarparu cyngor arbenigol ar:

  • gerfluniau, cofebion a strwythurau coffa eraill mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru sy’n gysylltiedig â hanes pobl dduon, yn cynnwys casglu gwybodaeth am eu hanes, eu perchnogaeth a’r cyrff sy’n gyfrifol amdanynt ac a ydynt wedi’u dynodi ai peidio
  • enwau strydoedd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â hanes pobl dduon
  • nodi materion a godir gan y safleoedd, enwau ac adeiladau hyn a datblygu syniadau cychwynnol ar gyfer gwaith pellach.

Er bod llawer o’r cofnodion yn yr archwiliad yn debygol o fod yn ddadleuol, cydnabyddir hefyd bod nifer o weithiau celf cyhoeddus yn dathlu cyfraniad hanesyddol y gymuned pobl dduon i fywyd Cymru. Bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal gan swyddog prosiect arbenigol gyda chymorth tîm prosiect bychan, yn cynnwys staff o Cadw a chyrff perthnasol eraill, a fydd yn adrodd i’r grŵp gorchwyl a gorffen. Bydd y swyddog yn ymgynghori ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill sy’n cynnal arolygon tebyg.

Cyfansoddiad

Prif amcan cam archwilio’r prosiect yw casglu ac adolygu’r dystiolaeth ar gyfer agweddau ar ein hamgylchedd hanesyddol sy’n gysylltiedig â hanes pobl dduon, yn enwedig rôl yr Ymerodraeth Brydeinig a’r fasnach mewn caethweision fel mae’n berthnasol i Gymru. Felly, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys unigolion a ddewiswyd am eu gwybodaeth arbenigol am y Fasnach mewn Caethweision ar draws yr Iwerydd a phresenoldeb hanesyddol pobl dduon yng Nghymru.

Bydd yr aelodaeth yn cynnwys saith unigolyn ac yn cynnwys cynrychiolaeth o blith:

  • Academyddion sy’n arbenigo mewn hanes y fasnach mewn caethweision a choloneiddio
  • Partneriaeth Cymru Hanesyddol
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Bydd y Grŵp yn cael ei gadeirio gan Gaynor Legall.

Er mwyn ehangu’r ymgynghoriad ar yr archwiliad, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhannu drafft cyntaf gyda grŵp cyfeirio allanol, i’w sefydlu mewn ymgynghoriad â’r Is-adran Cydraddoldeb, ac i gynnwys cynrychiolaeth eang o blith rhanddeiliaid yn cynnwys pobl ifanc, awdurdodau lleol a Sefydliad Bevan.

Ffyrdd o weithio/trefniadau gweithredu

Bydd y grŵp yn cyfarfod bedair gwaith:

  • Cyfarfod 1: i gytuno ar y cylch gwaith a phennu rhaglen waith - yn cynnwys cytuno ar friff ar gyfer yr archwiliad
  • Cyfarfod 2: i ystyried drafft cyntaf yr archwiliad a chyfansoddiad y grŵp cyfeirio allanol a’r ymgynghoriad yn Llywodraeth Cymru, Cynghorwyr Arbennig a Gweinidogion
  • Cyfarfod 3: i ystyried sylwadau yn dilyn yr ymgynghoriad
  • Cyfarfod 4: i gytuno ar yr adroddiad terfynol a gwneud argymhellion ar gyfer ail gam y gwaith i’w gyflwyno i Weinidogion

Efallai y gofynnir am gyngor gan aelodau unigol y grŵp ar adegau eraill pan mae ymholiadau penodol yn codi wrth gynnal yr archwiliad.

Allbwn

Bydd y Grŵp yn cyflwyno’r archwiliad a’r adroddiad naratif sy’n cyd-fynd ag ef i’r Prif Weinidog erbyn diwedd Hydref 2020.

Bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio fel sail i ail gam y prosiect a fydd yn nodi ymatebion priodol i’r wybodaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.