Y Cytundeb Cydweithio: rhaglen bolisi lawn
Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydweithio ar yr ymrwymiadau polisi yma o 2021 am 3 blynedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gweithredu radical mewn cyfnod heriol
1. Prydau ysgol am ddim
Ni ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd yn yr ysgol. Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai darparu prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol yn ymyriad a fyddai’n gweddnewid sefyllfa plant sy’n llwglyd neu sy’n byw mewn tlodi. Byddai hefyd yn helpu gyda chyrhaeddiad addysgol a maeth plant ac yn arwain, ar yr un pryd, at gynhyrchu mwy o fwyd yn lleol ac at ragor o gadwyni dosbarthu yn lleol, gan hybu economïau lleol.
Yn ystod oes y cytundeb hwn, byddwn yn rhoi trefniadau ar waith i ddarparu pryd ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru.
2. Gofal plant
Mae gennym uchelgais cyffredin i ddarparu addysg a gofal o ansawdd da i bob plentyn yng Nghymru yn ystod ei blentyndod cynnar. Bydd adnoddau cyfalaf a refeniw sylweddol yn cael eu neilltuo er mwyn gwireddu’r uchelgais hwn yn ystod cyfnod y cytundeb hwn, gan ganolbwyntio ar blant dwy flwydd oed.
Gan adeiladu ar lwyddiant llawer o raglenni Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys Dechrau'n Deg, byddwn yn:
- sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn cael ei hehangu'n raddol i gynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar sicrhau bod ein cymunedau mwy difreintiedig yn cael cyfle cyfartal i fanteisio ar ddarpariaeth o’r fath ac ar ein nod cyffredin o sicrhau 1 Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
- meithrin ymwybyddiaeth ehangach o fanteision siarad mwy nag un iaith o oedran cynnar
- gwneud mwy i alluogi'r rheini sydd mewn addysg/hyfforddiant neu ar gyrion gwaith fanteisio ar ofal plant
- mynd ati gyda'r Mudiad Meithrin ac eraill i edrych ar y posibilrwydd o greu cynllun hirdymor i gryfhau'r gallu i ddarparu rhagor o ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg. strengthen capacity to deliver enhanced Welsh-medium early years provision
3. Dyfodol gofal cymdeithasol
Mae gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru uchelgais cyffredin i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sy'n rhad ac am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen. Llywodraeth Leol sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo ar y cyd i sicrhau ei fod yn parhau’n wasanaeth cyhoeddus.
Byddwn yn sefydlu Grŵp Arbenigol i gyflwyno argymhellion ar gamau ymarferol y gellir eu cymryd, ar ôl mis Ebrill 2022, i wireddu’r uchelgais cyffredin hwnnw, gyda golwg ar gytuno ar gynllun gweithredu erbyn diwedd 2023.
Yn y cyfamser, byddwn yn bwrw ymlaen â chamau i ddarparu ar gyfer system ofal fwy integredig ac i roi chware teg o ran cydnabyddiaeth a thâl i weithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr iechyd. Byddwn yn defnyddio argymhellion y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i sicrhau gwelliannau ehangach ar gyfer y gweithlu, gan gynnwys ei allu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.
4. Ail gartrefi
Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cytuno bod methiannau yn y farchnad dai yn cael effaith ar gymunedau ledled Cymru, ond bod yr effaith honno’n amrywio yn ôl yr amgylchiadau lleol. O’r herwydd, mae ymateb effeithiol o ran polisi yn gofyn am gyfuniad o ymyriadau ar lefel Cymru gyfan ac ymyriadau a gyflwynir yn lleol. Bydd yr ymyriadau hynny’n manteisio ar amrywiaeth o fesurau deddfwriaethol ac ariannol posibl, gan gynnwys defnyddio'r system gynllunio ac eiddo, a threthiant.
Bydd yr holl fesurau a weithredir yn cael eu profi yn unol â’r sylfaen dystiolaeth berthnasol, a bydd yr ymgyngoriadau sy'n ofynnol o dan y gyfraith yn cael eu cynnal am bob un o’r mesurau hynny. Dyma rai o’r camau y bwriedir bwrw ymlaen â nhw ar unwaith:
- cap posibl ar nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn unrhyw gymuned;
- rhagor o fesurau i drefnu perchnogaeth gyffredin, ar y lefel leol, ar gyfran uwch o gartrefi sy’n bodoli eisoes, ac yn enwedig cartrefi gwag
- cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, ar sail yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 17 Tachwedd
- rhoi rhagor o bwerau i’r awdurdodau lleol godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi
- cynyddu’r trethi ar drafodion tir sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi
- ‘cau'r bwlch' − gweithredu ar yr ymgynghoriad diweddar a sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig
Byddwn yn gweithio gyda Phlaid Cymru i ymchwilio i forgeisi awdurdodau lleol.
5. Cwmni adeiladu cenedlaethol
Byddwn yn sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i helpu cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy. Byddwn yn cymryd cyngor gyda'n gilydd ar ei gylch gwaith, ei baramedrau a'i leoliad.
6. Diogelwch adeiladau
Byddwn yn diwygio cryn dipyn ar y system bresennol ar gyfer sicrhau diogelwch adeiladau. Mae’r system honno’n un sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd. Byddwn yn cyflwyno ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.
7. Eiddo a rhenti teg
Byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyn ac ynddo gynigion ar hawl i gartref digonol, gyda golwg ar (a) sefydlu system rhenti teg (rheoli rhenti) yn y farchnad rhentu preifat fel y bo pobl leol ar incwm lleol yn gallu eu fforddio a (b) ffyrdd newydd o sicrhau bod cartrefi’n rhai y gall pobl ar incwm lleol eu fforddio.
8. Digartrefedd
Mae gennym uchelgais cyffredin i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes angen i unrhyw un fyw ar y stryd a bod unrhyw gyfnod o ddigartrefedd yn brin, yn fyr ac na fydd yn digwydd eto.
Gyda'n gilydd, byddwn yn diwygio cyfraith tai yn ystod tymor y Senedd hon, yn gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, gan sicrhau bod unrhyw gyfnod o fod yn ddigartref yn brin, yn fyr ac na fydd yn digwydd eto.
Byddwn yn gweithredu'r Ddeddf Rhentu Cartrefi – gan roi mwy o sicrwydd i rentwyr yng Nghymru.
9. Diwygio'r dreth gyngor
Mae cyllid llywodraeth leol yn faes arall y mae’n hen bryd ei ddiwygio. Mae’r dreth gyngor yn un o’r mathau lleiaf teg o drethu ac yn un sy’n effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach Cymru, gan waethygu anghydraddoldeb daearyddol sydd wedi bodoli ers tro.
Bydd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd i benderfynu ar sut i ddiwygio'r dreth gyngor er mwyn gwneud y system yn un decach a mwy blaengar.
10. Caffael
Mae gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru uchelgais cyffredin i ddefnyddio’n dulliau caffael yng Nghymru i gefnogi twf economaidd cynaliadwy, i hyrwyddo cymunedau lleol cryf ac i feithrin busnesau lleol ffyniannus ym mhob cwr o Gymru.
Mae gennym uchelgais cyffredin i weld y sector cyhoeddus yn caffael mwy o gynhyrchion a gwasanaethau o Gymru, a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, gan ddefnyddio'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, yn ogystal â mesurau ehangach i ddiwygio caffael, i wireddu'r uchelgais hwnnw.
Gan gydnabod bod angen cryn welliant o ran darparu a defnyddio data, byddwn yn gweithio i ddatblygu seilwaith newydd yn y maes hwnnw ac yn gwella ansawdd yr wybodaeth a ddefnyddir, er mwyn helpu i wneud gwell penderfyniadau caffael a gwella tryloywder ac atebolrwydd a’r effaith gymdeithasol ehangach y mae caffael yn ei chael. Byddwn yn tynnu sylw at arferion da sydd i’w gweld eisoes o ran cysylltu ac ymwneud â marchnadoedd lleol drwy gaffael ac yn lledaenu’r arferion da hynny. Byddwn yn mynd ati gyda’n gilydd i ystyried sut y gellir pennu targedau ystyrlon er mwyn cynyddu faint y mae sector cyhoeddus Cymru yn ei gaffael o Gymru o’r lefel bresennol o 52%.
Yn gam cyntaf ac i ategu'r gwaith hwnnw, byddwn yn neilltuo adnoddau er mwyn cynnal dadansoddiad manwl o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn annog busnesau a defnyddwyr ehangach i brynu cynhyrchion a gwasanaethau a wneir yng Nghymru.
11. Ardollau twristiaeth lleol
Byddwn yn cyflwyno ardollau twristiaeth lleol, ac yn ystyried defnyddio deddfwriaeth i ddiwygio cyllid llywodraeth leol er mwyn bwrw ymlaen â hynny.
Gweithredu’n gryfach i greu Cymru wyrddach i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng natur
12. Cwmni ynni sero net
Mae gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru uchelgais cyffredin i sefydlu cwmni ynni i Gymru, Ynni Cymru, a fydd yn eiddo cyhoeddus, er mwyn ehangu gwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i sefydlu'r cwmni yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan gymryd cyngor gyda'n gilydd ar ei gylch gwaith, ei baramedrau a’i leoliad.
13. Adolygiad o lifogydd
Byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o’r adroddiadau Adran 19 a luniwyd mewn ymateb i’r llifogydd a achoswyd gan dywydd eithafol yng Nghymru yn ystod gaeaf 2020 a gaeaf 2021, gan gomisiynu adolygiad hefyd o’r adroddiadau a luniwyd gan CNC. Byddwn yn gweithredu ar yr argymhellion a wneir.
14. Llygredd amaethyddol
Gan weithio gyda'r gymuned ffermio, byddwn yn defnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021 i wella ansawdd dŵr ac ansawdd aer, gan dargedu’r gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd.
15. Sero net
Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru o'r farn bod yn rhaid inni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at gyrraedd sero net, gan sicrhau bod yn rhaid i’r costau a’r manteision sy’n gysylltiedig â gwneud hynny gael eu rhannu’n deg.
Byddwn yn comisiynu cyngor annibynnol i ymchwilio i ffyrdd posibl o gyrraedd sero net erbyn 2035 ac i'r effaith ar gymdeithas a sectorau o’n heconomi, a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol.
Rydym o blaid datganoli rhagor o bwerau, a’r adnoddau cysylltiedig y mae ar Gymru eu hangen i ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol, er mwyn cyrraedd sero net, yn benodol, sut y mae Ystad y Goron a’i hasedau yn cael eu rheoli yng Nghymru.
16. Buddsoddiad cyfalaf a chydnerthedd cenedlaethol o ran llifogydd
Byddwn yn buddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod tymor y Senedd hon. Y tu hwnt i hynny, a chan edrych ar sut y gallwn gynllunio mewn ffordd strategol er mwyn ymateb i’r ffaith bod mwy o berygl llifogydd, byddwn yn gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gynnal asesiad o sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050.
17. Bioamrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i adfer bioamrywiaeth ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd mewn amgylcheddau ar y tir ac ar y môr.
Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru, rydym yn cytuno bod gan osod dyletswydd a phennu targedau statudol, yn ogystal â sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol, rôl allweddol i'w chwarae o ran helpu i wireddu’r uchelgais hwn. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Rhaid i'r targedau hyn adlewyrchu'r uchelgais byd-eang a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddilyn y cyngor gwyddonol yn hyn o beth.
18. Plannu coed
Byddwn yn gweithio gyda’r gymuned ffermio i’w hannog i greu coetiroedd ar dir llai cynhyrchiol a thrwy amaeth-goedwigaeth a thrwy gynnal perthi ac ymylon caeau er mwyn ymateb i’r rheidrwydd i gyrraedd sero net.
Bydd hyn yn cynnwys cymorth i ffermwyr actif a pherchnogion tir sydd wedi’u lleoli yng Nghymru drwy’r cynllun ffermio cynaliadwy. Byddwn yn gweithio ar y cyd â’r grŵp arbenigol, yn ogystal â rhanddeiliaid y sector amaethyddol, i ystyried ffyrdd o ddenu buddsoddiad i greu coetiroedd mewn ffordd sy’n sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.
19. Y cynllun ffermio cynaliadwy
Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cyflwyno cyfnod pontio tuag at Gynllun Ffermio Cynaliadwy'r dyfodol. Bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau’n nodwedd o'r Cynllun drwy gydol tymor presennol y Senedd a thu hwnt.
Yn ystod cyfnod y cytundeb hwn, rydym yn bwriadu cytuno ar y trefniadau ar gyfer amaethyddiaeth Cymru yn y tymor hwy, gan gydnabod anghenion penodol ffermydd teuluol a chan gydnabod yr angen i gynhyrchu bwyd lleol mewn ffordd sy’n ecolegol gynaliadwy.
20. Strategaeth bwyd cymunedol
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn hyrwyddo gwaith i gyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.
21. Trafnidiaeth gyhoeddus
Byddwn yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill ymchwilio i sut y gellir datblygu’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y Gogledd a’r De, gan gynnwys sut i ddiogelu coridorau teithio posibl ar hyd arfordir y Gorllewin o Abertawe i Fangor.
Byddwn yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru ffurfio partneriaeth gyda’r awdurdodau lleol yn y
Gogledd-orllewin a Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer cyflenwi system drafnidiaeth integredig.
Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â datblygiadau’r metro mewn rhannau gwahanol o Gymru, gan ganolbwyntio ar sut y gallwn wella cysylltedd er mwyn sicrhau bod dulliau teithio’n newid.
Diwygio sylfeini Cymru
22. Diwygio'r Senedd
Bydd y ddau Barti i'r cytundeb hwn yn cefnogi cynlluniau i ddiwygio'r Senedd, yn seiliedig ar:
- ehangu'r niferoedd i rhwng 80 a 100 o Aelodau
- math o etholiad sydd mor gyfrannol â’r system bresennol, neu sy’n fwy cyfrannol na hi
- system etholiadol sy'n syml ac yn ddealladwy i'r pleidleisiwr
- integreiddio cwotâu o ran rhywedd, a bennir mewn deddfwriaeth, i'r system etholiadol yn unol â chynigion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol (2017)
Er mwyn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn yn ddi-oed, bydd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith Pwyllgor Diben Arbennig y Senedd a gafodd ei sefydlu er mwyn cyflwyno argymhellion erbyn 31 Mai 2022 ar gyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio'r Senedd.
Yn amodol ar weithdrefnau'r Senedd, ac fel y bo modd pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i ddiwygio'r Senedd cyn yr etholiad cyffredinol nesaf i’r Senedd, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2026, ein nod yw cyflwyno deddfwriaeth i'r Senedd ymhen rhwng deuddeg a deunaw mis i adroddiad Pwyllgor y Senedd.
23. Y Comisiwn Cyfansoddiadol
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2021 y byddai Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cael ei greu, a chyhoeddodd hefyd pwy fyddai’r Cyd-gadeiryddion. Gan mai Llywodraeth Cymru yw’r corff comisiynu, hi sy'n gyfrifol am bennu'r Amcanion Eang ar gyfer y Comisiwn ac am benodi aelodau i wasanaethu ar y Comisiwn.
Rydym yn cefnogi gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru o dan ei
gyd-gadeiryddion, yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, a'r trefniadau ymarferol sydd ar waith i alluogi'r Comisiwn i gyflawni ei waith:
- Bydd y Comisiwn yn cael ei gefnogi gan ysgrifenyddiaeth o swyddogion Llywodraeth Cymru, a fydd yn gweithio i'r Comisiwn gydol ei fodolaeth. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gweithio o dan gyfarwyddyd y cyd-gadeiryddion ac yn gweithredu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd y Comisiwn yn gallu galw ar adnoddau Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'i waith (e.e. am gyngor arbenigol ar faterion ariannol) ac ef fydd yn gyfrifol am, ac yn berchen ar ei raglen waith ei hun o fewn y paramedrau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Gan gydnabod a phwysleisio annibyniaeth y Comisiwn, byddwn yn cadw mewn cysylltiad ar y cyd â'r Comisiwn gan adeiladu ar yr arferion gwaith a ddefnyddiwyd ar gyfer Comisiynau yn y gorffennol (er enghraifft, Comisiynau Thomas, Burns a Holtham).
- Bydd adroddiad interim ac adroddiad terfynol y Comisiwn yn cael eu cyflwyno ar y cyd i’r ddwy blaid.
Bydd rhwydd hynt i Lywodraeth Cymru ac i Blaid Cymru wneud cyflwyniadau a rhyngweithio â'r Comisiwn yn annibynnol yn unol â'u priod safbwyntiau polisi.
24. Darlledu
Er bod y pandemig wedi rhoi proffil uwch i Gymru ac i ddemocratiaeth Cymru yng nghyfryngau’r DU, mae consensws eang bod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn annigonol, ei fod yn llesteirio bywyd democrataidd ein gwlad ac nad yw'n diwallu anghenion y Gymraeg, na’r uchelgais ar ei chyfer. Nid yw'r system bresennol, felly, yn abl i ddarparu’r cyfryngau y mae ar Gymru eu hangen. Mae bygythiadau parhaus hefyd i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac ymosodiadau arno, o du Lywodraeth Geidwadol yr DU. Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylai pwerau darlledu a chyfathrebu gael eu datganoli i'r Senedd.
- Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, a chydag arbenigwyr yn y diwydiant, cymunedau a phartneriaid ehangach, i ystyried creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
- Byddai cylch gwaith y corff hwnnw’n cynnwys ceisio cryfhau democratiaeth Cymru a chau'r bwlch gwybodaeth; dwyn ynghyd a chydgysylltu mewn ffordd strwythuredig ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru, a datblygiadau arloesol i gefnogi'r Gymraeg yn y maes digidol, megis amam.cymru; gwneud y cyfryngau’n fwy lluosogaethol a defnyddio'r Gymraeg ar holl blatfformau’r cyfryngau.
- Byddai'r Awdurdod newydd hefyd yn gyfrifol am lunio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen i Gymru, ac am gymryd camau tuag ato, yn barod ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.
Drwy weithredu fel hyn, bydd modd inni gryfhau'r sector er gwaethaf yr heriau sy’n codi oherwydd nad yw llywodraeth yn y DU yn ymdrin mewn ffordd adeiladol â datganoli yng Nghymru.
25. Cymorth ariannol i'r cyfryngau
Ein hymyriad cychwynnol fydd darparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau sydd eisoes yn bod a mentrau newydd sy'n ceisio gwella newyddiaduraeth yng Nghymru ac i helpu’r cyfryngau yng Nghymru i fynd i'r afael â'r bwlch gwybodaeth.
26. Arfor a'r Cymoedd
Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb rhwng rhannau tlotach a chyfoethocaf y wlad. Mae cysylltu’n cymunedau a sicrhau bod buddsoddiad a datblygiad yn cael eu gwasgaru'n fwy cyfartal ledled Cymru gyfan – gan hoelio sylw penodol ar anghenion economaidd y cymunedau ar draws arfordir y gorllewin a'r cymoedd – yn hanfodol er mwyn dileu'r anghydraddoldeb hwn a hefyd er mwyn cefnogi iaith a diwylliant Cymraeg sy’n ffynnu.
Roedd rhaglen Arfor, a oedd yn werth £2 filiwn ac yn rhan o'n cytundeb ar y gyllideb ddiwethaf, yn treialu ffyrdd arloesol o hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnesau, cydnerthedd cymunedol a'r Gymraeg, gan gydnabod bod cysylltiad rhwng adfywio economaidd a ffyniant y Gymraeg ar draws arfordir y gorllewin. Roedd yn targedu cymorth yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ac fe'i cyflwynwyd dros gyfnod o ddwy flynedd yn ystod 2019/20 a 2020/21.
- Byddwn yn mynd ati ar y cyd â llywodraeth leol i weithredu ail gam rhaglen Arfor. Bydd adnoddau ychwanegol ar gyfer y gwaith hwnnw.
- Byddwn yn gofyn i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ystyried a dylunio’r model gorau posibl ar gyfer datblygu strwythur sefydliadol ar gyfer y tymor hwy lle bydd yr awdurdodau lleol ar draws y Gorllewin yn gallu adeiladu ar weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni nodau cyffredin a mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyffredin gyda'i gilydd. Byddwn hefyd yn gofyn i'r OECD edrych ar fodel posibl ar gyfer datblygu strwythur sefydliadol ar gyfer y tymor hwy lle bydd yr awdurdodau lleol ar draws Cymoedd y De yn gallu adeiladu ar weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni nodau cyffredin ac ymateb i heriau a chyfleoedd penodol.
27. Ysgol Lywodraethu Genedlaethol
Byddwn yn ystyried y cyfraniad y gallai sefydlu Ysgol Lywodraethu Genedlaethol ei wneud er mwyn sicrhau newid sylfaenol o ran sut y gellir mynd ati mewn ffordd ymarferol i wireddu’r syniad o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un.
28. Adolygu trefniadau partneriaethau rhanbarthol
Byddwn yn ceisio sicrhau bod gwaith y partneriaethau rhanbarthol yng Nghymru yn effeithlon ac yn cael ei symleiddio a bod atebolrwydd a rheolaeth ddemocrataidd briodol. Mae newidiadau mawr wedi’u gwneud ym maes llywodraeth leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r Senedd wedi deddfu ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforaethol newydd.
Wrth i’r gwaith hwnnw barhau, mae'n bwysig ein bod yn edrych yn ofalus ar y strwythurau sy’n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol er mwyn sicrhau, yng nghyd-destun y newidiadau hynny, fod y strwythurau hynny’n parhau’n addas i'r diben. Bydd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol, a phartneriaid perthnasol ledled Cymru, i barhau i adolygu trefniadau’r partneriaethau rhanbarthol, gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod strwythurau'n effeithlon yn y maes hwn. Dylai unrhyw newidiadau i drefniadau partneriaeth gael eu harwain yn lleol yn hytrach na chael eu gorfodi o’r tu allan, a dylent gael eu hysgogi gan yr hyn sy’n gweithio orau a chael eu seilio ar flaenoriaethau lleol a chysylltiadau sy’n bodoli eisoes.
29. Y goblygiadau refeniw newydd sy’n gysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy
Byddwn yn parhau i weithio gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ac eraill i feithrin gwell dealltwriaeth o'r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus datganoledig ac anghenion gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol, gan chwilio am ffyrdd newydd o fynd i'r afael ag unrhyw fylchau cyllido a gaiff eu nodi ac o dyfu’n sylfaen drethu, a byddwn yn ystyried goblygiadau'r Comisiwn Cyfansoddiadol sydd newydd ei sefydlu.
30. Athrawon cyflenwi a phlant sy'n derbyn gofal
Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru o'r farn y dylid, pan fo modd, gefnogi gwaith i wrthdroi’r arfer yn y sector cyhoeddus o ddarparu gwasanaethau drwy gontractau gyda chyflenwyr allanol, gan ddod â gweithgareddau yn ôl yn fewnol neu o leiaf o dan reolaeth ddemocrataidd leol a’u darparu’n lleol.
Y camau cyntaf fydd gweithio gyda'n gilydd a chyda phartneriaid cymdeithasol i:
- cyflwyno opsiynau ar gyfer model mwy cynaliadwy o ddarparu athrawon cyflenwi, fydd â gwaith teg wrth ei wraidd ac a fydd yn cynnwys opsiynau amgen a fydd yn cael eu harwain gan yr awdurdodau lleol a chan yr ysgolion
- sefydlu fframwaith i ddileu elw wrth ofalu am blant sy'n derbyn gofal
31. Dyddiadau tymhorau ysgol
Er mwyn lleihau anghydraddoldeb addysgol a chefnogi lles y dysgwyr a’r staff, byddwn yn ystyried diwygio dyddiadau tymhorau ysgol mewn ffordd radical er mwyn iddynt gyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a chyflogaeth.
Mae cefnogi lles corfforol a meddyliol yn ogystal â chynnydd academaidd, yn enwedig ar gyfer disgyblion difreintiedig, yn flaenoriaeth sydd gennym yn gyffredin. Ochr yn ochr â diwygio'r flwyddyn ysgol, byddwn yn ystyried yr opsiynau ar gyfer rhythm y diwrnod ysgol, yn benodol er mwyn creu lle ar gyfer sesiynau ychwanegol a fydd yn darparu gweithgareddau a chyfleoedd mwy eang eu natur, a fydd yn ddiwylliannol hygyrch.
32. Diwygio cymwysterau
Gan weithio gyda'n gilydd, byddwn yn arwain y ffordd drwy ddiwygio cymwysterau mewn ffordd sylfaenol, gan ganolbwyntio ar brofiadau a lles. Bydd ein cymwysterau diwygiedig yr un mor uchelgeisiol â chwricwlwm newydd Cymru. Byddwn yn ehangu cryn dipyn ar yr amrediad o gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu ‘gwneud yng Nghymru’ er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr a’n heconomi.
33. Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Byddwn yn bwrw ymlaen â'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil er mwyn grymuso darparwyr addysg i fod yn rhan o sector amrywiol, ystwyth a chydweithredol a fydd yn darparu ar gyfer dysgwyr drwy gydol eu bywydau, ac ar gyfer cyflogwyr a chymunedau, ac a fydd yn diwallu’n hanghenion fel cenedl wrth inni wynebu'r dyfodol. Byddwn yn mynd ati ar y cyd i ddatblygu strategaeth arloesi genedlaethol newydd a fydd yn seiliedig ar genhadaeth ac a fydd yn cael ei gweithredu ar draws y llywodraeth a chan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sydd â rôl flaenllaw i’w chwarae o ran hyrwyddo arloesedd yng Nghymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n gilydd ar ddiwygio’r cwricwlwm ôl-16, gan wneud hynny ar sail dibenion ein cwricwlwm cenedlaethol newydd, yn ehangu dysgu gydol oes ac yn meithrin datblygiad proffesiynol y gweithlu.
Creu Cymru unedig, sy’n decach i bawb
34. Strategaeth ddiwylliant
Byddwn yn datblygu strategaeth ddiwylliant newydd o'r dechrau’n deg a fydd yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth ac yn sicrhau bod pob adran o'r llywodraeth yn gweithio'n strategol tuag at gyflawni chweched colofn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Wrth wneud hynny, byddwn yn trafod yn ddwfn ac yn ystyrlon â sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector threftadaeth. Ochr yn ochr â datblygu'r strategaeth, byddwn yn sicrhau bod ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol yn gynaliadwy yn ariannol er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gweithredu. Byddwn hefyd yn datblygu mwy ar y cynigion ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.
35. Y cwricwlwm
Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn credu y dylai pawb ddysgu am hanes ein gwlad yn ei holl amrywiaeth ac y dylent fedru ei ystyried ac ymdrin ag ef yn feirniadol. Dylai’n dinasyddion hefyd gael cymryd rhan mewn diwylliant a'i fwynhau.
Rydym yn croesawu adroddiad Estyn ar Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (Hydref 2021). Mae gennym yr un pryder penodol am y canfyddiad nad yw disgyblion 'yn datblygu dealltwriaeth gysyniadol gynyddol a chydlynol o hanes Cymru’ ac 'nad oes gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ddealltwriaeth am gyfraniad unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig at hanes Cymru’.
- Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod addysgu hanes Cymru – yn ei holl amrywiaeth a'i gymhlethdod – yn orfodol yng Nghwricwlwm Cymru a byddwn yn ailystyried y Datganiad o’r Hyn sy'n Bwysig/canllawiau ategol eraill yng ngoleuni adroddiad Estyn er mwyn sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei wireddu.
- Byddwn hefyd yn llunio manyleb o’r adnoddau y bydd eu hangen ar gyfer y cwricwlwm newydd er mwyn cefnogi hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys datblygu llinell amser hanes Cymru. Byddwn yn dechrau yn gynnar yn 2022 ar sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar hanes Cymru, ar gyd-destunau lleol ac ar bwnc "amrywiaeth" ac yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer dysgu proffesiynol er mwyn helpu i addysgu hanes Cymru.
36. Prosiect 2050
Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei siarad mewn rhagor o leoedd, gan gynnwys gweithleoedd, ym mhob cwr o’r wlad. Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl, gan helpu rhagor o’r cyrff a noddir, yr awdurdodau lleol a’r gwasanaeth sifil yng Nghymru i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.
37. (Bil) Addysg Gymraeg
Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg. Bydd hynny, ynghyd ag unrhyw gamau mwy uniongyrchol y gellir eu cymryd cyn cyflwyno deddfwriaeth, yn fodd i:
- gryfhau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg
- pennu uchelgais a chymhellion newydd i ehangu cyfran y gweithlu addysg sy'n gallu addysgu a/neu weithio drwy gyfrwng y Gymraeg
- sefydlu a rhoi un continwwm dysgu Cymraeg ar waith
- hwyluso a galluogi ysgolion sy’n bodoli eisoes i symud i gategori Cymraeg uwch
- cymell rhagor o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob lleoliad addysg, gan gynnwys y rheini lle mai'r Saesneg yw’r cyfrwng addysgu
38. Safonau'r Gymraeg
Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod cyfnod y cytundeb hwn i:
- leihau rhwystrau wrth bennu Safonau'r Gymraeg
- symleiddio'r broses ar gyfer gweithredu Safonau o'r fath, heb wanhau eu heffaith
- rhoi safonau ar waith ar drafnidiaeth gyhoeddus; ar gyfer rheoleiddwyr yn y sector iechyd; cyrff cyhoeddus sy’n dal y tu allan i’r gyfundrefn Safonau ar hyn o bryd, a chwmnïau dŵr
- dechrau gweithio ar weithredu safonau ar gyfer cymdeithasau tai, gan gwblhau’r gwaith yn ystod tymor y Senedd hon
Rydym yn parhau’n ymrwymedig ar y cyd i weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn llawn, a byddwn yn llunio rhestr er mwyn blaenoriaethu’r gwaith o gyflwyno rhagor o Safonau o dan atodlenni’r Mesur hwnnw y tu hwnt i gyfnod y cytundeb hwn. Wrth flaenoriaethu, byddwn yn ystyried hwyluso defnydd dyddiol o'r Gymraeg, newid ymddygiad sefydliadau a rhoi effaith ymarferol i hawliau ieithyddol dinasyddion.
39. Enwau lleoedd Cymraeg
Gweithredu i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
40. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Sicrhau bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael cyllid ychwanegol i gynyddu cyfran y prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg a chynnig darpariaeth dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed.
41. Rhwydwaith Seren
Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod Rhwydwaith Seren yn mynd ati’n benodol i dargedu dysgwyr o'n cefndiroedd mwyaf difreintiedig a byddwn yn creu data sylfaenol ar gyfer pob dysgwr o bob cwr o Gymru sy'n cael prydau ysgol am ddim er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd mwy o ran yn rhaglen Seren.
Byddwn hefyd yn cynnig ysgolion haf ym mhob prifysgol yng Nghymru ar gyfer dysgwyr Sylfaen Seren, yn ehangu’r partneriaethau presennol gyda Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd ac yn sefydlu cynlluniau peilot newydd mewn meysydd pwnc penodol mewn sefydliadau eraill yng Nghymru.
42. Mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb
Mae gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru yr un uchelgais clir i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb ledled y wlad. Rydym yn unedig yn ein gwrthwynebiad i benderfyniadau didostur Llywodraeth Geidwadol y DU ar Gredyd Cynhwysol a'i difaterwch yn wyneb y cynnydd aruthrol yng nghostau byw.
Rydym o blaid datganoli’r gwaith o weinyddu lles a byddwn yn ystyried pa seilwaith sydd ei angen er mwyn paratoi ar gyfer hynny. Rydym yn cytuno y byddai angen trosglwyddo’r cymorth ariannol priodol hefyd wrth drosglwyddo pŵer o’r fath.
43. Iechyd meddwl
Byddwn yn edrych ar estyn y model noddfa i bobl ifanc. Byddai hynny’n cynnwys treialu cyfleusterau penodol gyda'r nod o atal neu leihau'r dirywiad yng nghyflwr emosiynol, ymddygiad neu les person ifanc mewn argyfwng. Byddai'r cyfleusterau hynny yn y gymuned fel y byddai gwasanaethau o fewn cyrraedd mor hwylus â phosibl, ac yn cael eu rhedeg gan staff hyfforddedig o’r trydydd sector, a byddai llwybrau atgyfeirio clir at wasanaethau'r GIG pe bai angen. Bydd hyn yn fodd i helpu pobl ifanc i ddelio â phroblem frys o ran iechyd meddwl neu les emosiynol, er mwyn ei hatal rhag gwaethygu, a byddai’r gwasanaeth ar gael gyda'r nos ac yn ystod y penwythnos.
44. Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu’r un penderfyniad i gryfhau hawliau pobl anabl a mynd i’r afael â’r mathau gwahanol o anghydraddoldeb y maent yn parhau i’w wynebu. Rydym yn ymrwymedig i’r model cymdeithasol o anabledd. Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau llwyddiant y Tasglu Anabledd a sefydlwyd er mwyn ymateb i’r adroddiad ‘Drws ar Glo’.
45. Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu’r un penderfyniad i fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig ac i gefnogi'r camau breision a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, sy'n ceisio mynd i'r afael â hynny, a llawer mwy. Gyda'n gilydd, byddwn yn sicrhau bod yr elfennau yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol sy’n ymdrin â chyfiawnder mor gadarn â phosibl, a byddwn yn mynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r heddlu a'r llysoedd. Byddwn yn gweithio gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru a rhanddeiliaid eraill i benderfynu pa waith ychwanegol y gallai fod ei angen. Byddwn yn cefnogi ymdrechion i sicrhau bod pwerau plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli gan mai dyma’r ffordd fwyaf cynaliadwy o ddarparu system gyfiawnder ddiwygiedig sy'n iawn i Gymru.
46. LHDTC+
Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn unedig o ran yr uchelgais i sicrhau mai Cymru fydd y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop ac rydym yn croesawu’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn y cyd-destun hwnnw. Gan adeiladu ar y gwaith yn ein cytundeb blaenorol ar y gyllideb i greu Clinig Hunaniaeth Rhywedd i Gymru, byddwn yn sbarduno cais o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru i dynnu'r pwerau i lawr o San Steffan i ddeddfu er mwyn gwella bywydau a diogelu pobl drawsryweddol yng Nghymru.