Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adolygiad mewnol, ar raddfa fach, yn cynnwys canfyddiadau o arolwg ar-lein a gynhaliwyd gyda sampl o unigolion wnaeth ddefnyddio’r cynllun, ac a gafodd daliad gan y cynllun rhwng 1 Mehefin a 30 Tachwedd 2021.

Diben yr arolwg oedd cofnodi profiadau a chanfyddiadau pobl sydd wedi cael Taliad Cymorth Hunanynysu COVID-19 a deall yn well a yw’r taliad wedi lliniaru effeithiau ariannol disgwyliedig y cyfnod hunanynysu, ac i ba raddau.

Gellir crynhoi’r casgliadau o’r ymchwil graddfa fach hwn fel a ganlyn:

  • Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn teimlo bod y taliad a gawsant wedi’u galluogi i hunanynysu ac wedi’u hatal rhag mynd i ddyled. Cytunodd ychydig o dan draean o’r ymatebwyr na fyddent wedi hunanynysu heb daliad, ac roedd un o bob pump yn cytuno na fyddent wedi hunanynysu pe bai’r taliad yn llai na’r swm a gawsant.
  • Nododd mwy na thraean o’r ymatebwyr bod y Taliad Cymorth Hunanynysu wedi’u helpu i dalu eu biliau yn ystod eu cyfnod hunanynysu.
  • Pan ofynnwyd iddynt a oeddent wedi colli llawer o arian o ganlyniad i hunanynysu, roedd yr ymatebwyr a oedd wedi colli arian, a’r ymatebwyr nad oeddent wedi colli arian yn gyfartal. Nododd mwy na hanner y rhai a gafodd daliad o £500 eu bod wedi colli arian o ganlyniad i hunanynysu, o gymharu ag ychydig o dan chwarter o’r rhai a gafodd daliad o £750.
  • Nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr na wnaethant adael eu cartref o gwbl yn ystod y cyfnod hunanynysu, er nad oedd yn bosibl dod o hyd i unrhyw gysylltiad rhwng derbyn y Taliad Cymorth Hunanynysu a chydymffurfio â’r rheolau hunanynysu.
  • Rhoddodd dros chwarter o’r ymatebwyr adborth positif pan ofynnwyd iddynt sut y gellid gwella’r Cynllun Cymorth, gyda 12 y cant yn nodi nad oedd angen unrhyw newidiadau. Taliad cyflymach a thaliad uwch oedd yr awgrymiadau gwelliant mwyaf cyffredin.

Adroddiadau

Cynllun Cymorth Hunanynysu COVID-19: adolygiad mewnol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nina Prosser/Jennie Mack

Rhif ffôn: 03000250090

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.