Heddiw, cadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y bydd y cyfyngiadau ‘aros gartref’ yn parhau yng Nghymru wrth i’r plant lleiaf ddechrau mynd yn ôl i’r ysgol ddydd Llun.
O 22 Chwefror, bydd plant tair i saith oed yn dechrau mynd yn ôl i’r ysgol yn raddol, a bydd rhai dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol ymarferol yn mynd yn ôl i’r coleg.
Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd newidiadau bach i’r rheolau presennol:
- O ddydd Sadwrn 20 Chwefror, bydd pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod y tu allan i wneud ymarfer corff yn lleol gan gadw pellter wrth ei gilydd. Nid yw hyn yn berthnasol i erddi preifat.
- O 1 Mawrth, bydd y gyfraith yn cael ei newid i ganiatáu i leoliadau priodas trwyddedig, megis atyniadau i ymwelwyr a gwestai, ailagor i gynnal seremonïau priodas a phartneriaethau sifil.
- Bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud trefniadau i fwy o’n athletwyr dawnus i ailddechrau hyfforddiant a chwarae.
- Gyda mwy o bobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghartrefi gofal yr henoed yn cael eu brechu, byddwn yn edrych eto ar ein canllawiau ar gyfer ymweld â chartrefi gofal.
Gyda chyfran fwy o breswylwyr a staff yn cael eu brechu, byddwn yn edrych eto ar ein canllawiau ar gyfer ymweld â chartrefi gofal.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Dw i’n gwybod bod misoedd diwethaf y cyfnod clo wedi bod yn her enfawr i gymaint ohonon ni, ond dw i am ddiolch i bawb am gydweithio fel tîm i wthio’r cyfraddau heintio i lawr.
Wrth i’r achosion o’r coronafeirws ostwng, ac wrth i’n rhaglen frechu lwyddiannus ddiogelu mwy o bobl bob dydd, mae gyda ni resymau dros fod yn optimistaidd.
Bydd ein dysgwyr ieuengaf yn dechrau mynd yn ôl i’r ysgol o 22 Chwefror, a chyn belled â bod y sefyllfa yn parhau i wella dros y tair wythnos nesaf, rydyn ni’n gobeithio gweld ein holl ddisgyblion cynradd a myfyrwyr hŷn, yn ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun 15 Mawrth.
Rydyn ni hefyd yn gallu gwneud ychydig o newidiadau bach i’r rheoliadau o 20 Chwefror ymlaen wrth inni gymryd camau gofalus i lacio rhai o’r cyfyngiadau llymaf sydd wedi bod yn eu lle am gryn dipyn o amser. Byddwn yn newid y rheolau i ganiatáu i bedwar o bobl o ddwy aelwyd gyfarfod y tu allan i wneud ymarfer corf, gan helpu pobl sydd wedi ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod clo. Nid yw hyn yn golygu y gallwch yrru i rywle i wneud ymarfer corff ac nid yw’n golygu cymdeithasu.
Rydyn ni’n gweld arwyddion cynnar calonogol wrth inni symud i mewn i’r gwanwyn, gyda gwell tywydd a dyddiau brafiach o’n blaenau, achosion y coronafeirws yn gostwng, a’n rhaglen frechu wych yn symud yn ei blaen yn gyflym. Fodd bynnag, rydyn ni wedi gweld, dro ar ôl tro, ledled y byd, pa mor gyflym y gall pethau ddirywio mewn mater o wythnosau. Ond os gwnawn ni ddal ati i gydweithio i gadw Cymru’n ddiogel, fe welwn ni fwy a mwy o’n bywyd arferol yn dod yn ôl.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau yn ystyried y cyfyngiadau ar siopau dianghenraid a gwasanaethau cysylltiad agos.
Mae cynllun goleuadau traffig Llywodraeth Cymru i reoli’r coronafeirws wedi cael ei ddiwygio i ystyried amrywiolynnau newydd y feirws ac effaith y rhaglen frechu.