Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Iau 29 Hydref), cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd Byrddau Iechyd Cymru yn cyflogi gweithwyr allgymorth newydd i gefnogi pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), - yn cydnabod yr effaith anghymesur y mae coronafeirws yn ei chael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu penodiad gweithwyr allgymorth, bydd rhain yn darparu cymorth wyneb yn wyneb mewn chwech bwrdd iechyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ariannu ei raglen ymgysylltu ei hun gan weithio gyda phartneriaid yn y gymuned.

Mae tystiolaeth wedi dangos bod y coronafeirws wedi cael effaith anffafriol ar gymunedau BAME a bod mwy o farwolaethau wedi bod yn eu mysg yn sgil y feirws na grwpiau eraill o bobl.

Mewn ymateb i hyn, sefydlodd y Prif Weinidog Grŵp Cynghorol Iechyd BAME Cymru ar COVID-19. Yn adroddiad y Grŵp, a gyhoeddwyd yn yr haf, tynnwyd sylw at yr angen i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ymysg pobl BAME, gan gynnwys atal rhagor o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19.

Bydd y gweithwyr newydd yn helpu i ddymchwel unrhyw rwystrau i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ac yn cefnogi cyfathrebu dwyffordd rhwng sefydliadau a chymunedau. Byddant hefyd yn helpu i gyfleu negeseuon allweddol a hwyluso sgyrsiau ynglŷn â mythau a gwybodaeth ffug.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

Mae’r coronafeirws wedi effeithio ar bob rhan o fywyd a phob cymuned mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Ond mae data a’r dystiolaeth yn dangos bod nifer anghymesur o bobl BAME yn colli eu bywydau ar ôl dal COVID-19.

Rydym wedi datblygu dull gweithredu trawslywodraethol i ddeall effaith y coronafeirws ar gymunedau BAME. Bydd y rôl allgymorth newydd yn darparu cymorth i gymunedau a hefyd yn helpu i gynghori llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau iechyd ar yr arferion gorau i gyrraedd cymunedau, gan feithrin perthynas ag offeiriaid, Imamiaid, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau trydydd sector lleol.

Mae ein Grŵp Cynghorol Iechyd BAME Cymru ar COVID-19 yn helpu ni i ddeall pam mae’r feirws yn effeithio ar rai cymunedau yn fwy nag eraill ac rwy’n falch bod Cadeirydd y Grŵp yn cefnogi’r swyddi Gweithwyr Allgymorth newydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae’n hanfodol bod y cyllid hwn yn cefnogi penodiad gweithwyr allgymorth a fydd yn meithrin perthynas uniongyrchol â chymunedau BAME i gefnogi’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a gweithredu ar bryderon iechyd ehangach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando’n astud ar bartneriaid arbenigol sydd â phrofiad uniongyrchol a’r gallu i ddweud yn union beth yw pryderon a blaenoriaethau cymunedau BAME. Maent hefyd yn ein helpu i gryfhau cyfathrebu dwyffordd.

Bydd profiad a thystiolaeth y gweithwyr allgymorth newydd hyn a’n partneriaid presennol yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru, sy’n ffurfio’r sylfaen a’r map ffordd tuag at newid systematig a chynaliadwy yng Nghymru.

Mae ein gwaith ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol eisoes ar y gweill, ac fe fydd wedi’i gwblhau cyn diwedd tymor y Senedd hon. Ynghyd â’n partneriaid BAME, byddwn ni’n gweithio i ddiogelu cymunedau BAME a bwrw ymlaen tuag at ein huchelgais ar gyfer Cymru gyfartal, heb hiliaeth nac anghydraddoldeb.