Amcanion eang
Amcanion eang y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Cynnwys
Amcanion
Roedd gan y Comisiwn ddau amcan eang:
- Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni;
- Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Arferion Gweithio
Cafodd y Comisiwn ei gydgadeirio gan yr Athro Laura McAllister a'r Dr Rowan Williams. Gan gynnwys y cydgadeiryddion, roedd gan y Comisiwn 11 aelod yn cwmpasu ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol a rhannau o gymdeithas Cymru. Roedd ysgrifenyddiaeth a phanel arbenigol yn cefnogi gwaith y Comisiwn.
Wrth gyflawni ei waith, datblygodd y Comisiwn raglen ymgysylltu gynhwysol gyda chymdeithas sifil a’r cyhoedd yng Nghymru er mwyn ysgogi sgwrs genedlaethol; a chomisiynwyd ymchwil, dadansoddi a barn arbenigol drwy'r panel arbenigol.
Amserlen
Cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad interim ar 6 Rhagfyr 2022.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad terfynol ar 18 Ionawr 2024.