Sut i ychwanegu defnyddwyr newydd ar WEFO Ar-lein.
Sut gall Gweinyddwyr ychwanegu defnyddwyr newydd o fewn eich sefydliad ar WEFO Ar-lein.
Dim ond os oes gan eich cyfrif ganiatâd Gweinyddwr y byddwch yn gallu ychwanegu defnyddwyr newydd. Byddwch yn cael caniatâd Gweinyddwr os mai chi yw'r person sy'n cofrestru eich sefydliad ar WEFO Ar-lein.
Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:
- dewiswch Mewngofnodi
- rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a’ch Cyfrinair a dewis Mewngofnodi
- os ysdych wedi sefydlu mwy nag un cod mynediad, dewis Neges destun, Galwad llais neu Ap dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen, yna dewis Parhau
- rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yr alwad llais neu’r ap dilysu, a dewis Yn eich blaen
- dewiswch enw’r Parti Busnes
- dewiswch Rheoli grŵp
- dewiswch Ychwanegwch aelod o’r tîm
- rhowch Enw llawn a Chyfeiriad e-bost ar gyfer yr aelod newydd o’r tîm, dewiswch Gweinyddwr neu Defnyddiwr safonol a dewis Yn eich blaen
- dewiswch Cadarnhau i ychwanegu’r aelod hwn o’r tîm
- ychwanegwyd aelod o'r tîm, dewiswch Yn eich blaen
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd WEFO Ar-lein yn anfon e-bost at y Gweinyddwr a sefydlodd y defnyddiwr newydd gyda chyfrinar dros dro ar gyfer yr aelod nweydd o’r tim.
Bydd anged I’r Gweinyddwr roi ei gyfrinar dros dro I’r defnyddwiwr newydd fel gallant ei ddefnyddio gydai ID defnyddiwr Porth y Llywodraeth I fewngofnodi. Bydd y defnyddiwr newydd yn derbyn ID defnyddiwr trwy e-bost.
Gall y defnyddiwr nawr fewngofnodi i WEFO Ar-lein, gweler y canllawiau WEFO Ar-lein: sut i fewngofnodi i gael rhagor o wybodaeth