Daeth yr ymgynghoriad i ben 24 Mehefin 2022.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bysiau newydd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r papur gwyn hwn yn amlinellu cynigion ar gyfer gwasanaethau bysiau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cynllunio a datblygu'r rhwydwaith bysiau yn well, sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y cyhoedd, sicrhau’r gwerth mwyaf posibl am ein buddsoddiadau mewn gwasanaethau bysiau a thorri ein dibyniaeth ar geir preifat.
Mae'r papur gwyn yn cynnig:
- gwneud masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn ofynnol ledled Cymru
- caniatáu i Awdurdodau Lleol greu cwmnïau bysiau trefol newydd
- llacio'r cyfyngiadau ar gwmnïau bysiau trefol presennol i sicrhau eu bod yn yr un sefyllfa â rhai newydd
Dogfennau ymghynghori
