Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl ymchwil diweddar gan YouGov, nid oes gan un o bob deg gweithiwr a atebodd yr arolwg yng Nghymru yn deall ei hawliau yn y gweithle yn dda.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r arolwg, a gomisiynwyd gan TUC Cymru, wedi tynnu sylw at y prif feysydd lle’r oedd gweithwyr naill ai ddim yn deall eu hawliau yn y gweithle, neu’n pryderu amdanynt. Roedd 41 y cant o’r gweithwyr a ymatebodd i’r arolwg yn pryderu am gyflog teg, roedd 30 y cant yn pryderu am iechyd a diogelwch yn y gweithle a 27 y cant am yr hyblygrwydd sy’n cael ei gynnig yn y gweithle.

Dengys yr arolwg hefyd na fyddai 12 y cant yn gyfforddus yn trafod mater sy’n ymwneud â’r gwaith gyda rheolwr, tra bo 18 y cant yn credu nad oeddent yn cael eu trin yn deg yn y gwaith, neu ddim yn gwybod a oeddent yn cael eu trin yn deg ai peidio.

Roedd gweithwyr o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn fwy tebygol o deimlo’u bod yn cael eu trin yn annheg yn y gweithle – 19 y cant o’i gymharu â 12 y cant o ymatebwyr o gefndir gwyn – ac o anghytuno bod eu cyflogwr yn deall a pharchu eu hawliau cyflogaeth – 20 y cant o’i gymharu â 14 y cant o ymatebwyr o gefndir gwyn.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â phartneriaid cymdeithasol, sef TUC Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Siambrau Cymru a phartneriaid allweddol eraill, ACAS a Cyngor ar Bopeth er mwyn cyflwyno ymgyrch ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth  sydd ar gael i weithwyr a busnesau gan weithlu arbenigol.

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw bod cyflogwyr, gweithwyr ac undebau llafur yn cydweithio i wneud y gweithle yn lle gwell, mwy diogel a thecach i bawb. 

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae’r data sydd wedi dod i’r amlwg yn yr arolwg hwn yn tanlinellu’r angen i weithwyr yng Nghymru gael gwell dealltwriaeth o’u hawliau yn y gweithle.

“Fel rhywun sydd â chefndir yn y mudiad undebau llafur, rwy’n gwybod o brofiad mai bod yn rhan o undeb llafur yw’r ffordd orau i weithwyr ddeall a sicrhau eu hawliau. Yn yr un modd, mae sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau yno i gefnogi cyflogwyr, gan eu helpu i gael gafael ar gyngor, cynrychiolaeth a dysgu gan gyfoedion, nid yn unig er mwyn goroesi, ond i symud ymlaen.”

Anogir gweithwyr i ymuno ag undeb llafur fel y ffordd orau o feithrin dealltwriaeth o’u hawliau a’u diogelu yn y gwaith.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at yr annhegwch sy’n wynebu degau o filoedd o weithwyr yn y gwaith – p’un a yw hynny yn ymwneud â chyflog teg, hyblygrwydd neu iechyd a diogelwch – a pha mor anghyfartal yw ein profiadau yn y gwaith.   

Dyna pam ei bod yn hanfodol bod gweithwyr yn cael gafael ar yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Y ffordd orau o wneud hyn yw ymuno ag undeb. Mae undebau yn sicrhau bod gan y gweithwyr lais, a phan fo gan y gweithle undeb, mae’n fwy diogel.”

Anogir cyflogwyr hefyd i geisio cael cymorth a chyngor drwy ddod yn aelodau o sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau.

Er mwyn canfod rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael, ewch i Busnes Cymru.