Neidio i'r prif gynnwy

Mae un miliwn dôs o frechlyn y coronafeirws wedi’u rhoi yng Nghymru, ac mae mwy nag un o bob tri o holl oedolion Cymru wedi cael o leiaf un dôs.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae data heddiw [Sadwrn, 27 Chwefror] yn dangos bod 916,336 o bobl – dros 38% o’r holl oedolion sy’n byw yng Nghymru – wedi cael o leiaf un dôs. O gyfuno hynny â’r 89,053 sydd wedi cael yr ail ddôs, mae cyfanswm o 1,005,389 o ddosau wedi’u rhoi ym mreichiau pobl.

A gwnaed hyn oll mewn cwta 12 wythnos.

Mae data heddiw yn dangos hefyd bod Cymru wedi brechu:

  • 91.2% o’r bobl dros 80 oed
  • 93.4% o’r bobl 75 i 79 oed
  • 92.9% o’r bobl 70 i 74 oed
  • 87.6% o’r rheini yr ystyrir eu bod yn neilltuol o agored i niwed yn glinigol
  • A rhagor na 162,941 o weithwyr gofal iechyd a chymdeithasol y rheng flaen.

Ddydd Mercher, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fod gofalwyr di-dâl, pobl anabl cymwys a’r rheini sydd â salwch meddwl difrifol yn perthyn i’r 6ed grŵp, y grŵp sy’n cael ei frechu ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd hefyd mai amcan Cymru yw cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Gorffennaf, cyn belled â bod y cyflenwad yn parhau.

Cafodd fersiwn newydd o’r Strategaeth Frechu i Gymru ei chyhoeddi ddydd Gwener [26 Chwefror].

Meddai Vaughan Gething:

“Mae’r ffaith bod miliwn o ddosau wedi’u rhoi yn ffrwyth ffantastig gwaith anhygoel o galed ac ymdrechion pawb a fu ynghlwm wrth y rhaglen frechu yng Nghymru. Rhaid peidio â gwneud yn fach o gamp mor aruthrol, mewn cwta 12 wythnos ers i’r brechlynnau cyntaf gyrraedd.

“Mae’n rhaglen frechu’n mynd rhagddi, a chyn belled â bod cyflenwadau’n caniatáu, byddwn wedi brechu pob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf. Rwyf am sicrhau pobl na chaiff neb ei adael ar ôl – mae’r brechlyn ar gael i bawb sydd am ei gael.”

Ar ôl cael y brechlyn, rydym yn gofyn i bawb gadw at yr un camau i ddiogelu’u hunain a diogelu Cymru: gwisgo mwgwd, cadw pellter o 2m, golchi dwylo’n rheolaidd ac awyru ystafelloedd.

Cewch eich gwahodd i apwyntiad pan ddaw’ch tro – peidiwch â ffonio’ch gwasanaeth iechyd lleol, oni bai ein bod yn gofyn ichi wneud hynny neu os ydych yn credu y dylech fod yn y 4 grŵp uchaf (dros 70, neilltuol o agored i niwed neu weithiwr iechyd neu gymdeithasol rheng flaen).