Mae lladd, anafu neu gymryd mochyn daear, neu ymyrryd â brochfa yn anghyfreithiol.
Trwyddedau a roddir gennym ni
Gallwn ni roi trwyddedau at ddibenion priodol, fel y gallwch weithio'n gyfreithiol. Mae'r trwyddedau hyn yn caniatáu i rywun wneud y canlynol:
- ymyrryd â brochfeydd:
- i wneud unrhyw waith coedwigaeth neu amaethyddiaeth
- i gynnal a chadw neu wella cyrsiau dŵr neu ddraeniau sydd eisoes yn bodoli
- i wneud gwaith newydd ar gyfer draenio tir, gan gynnwys amddiffynfeydd môr/dŵr llanw
- i reoli cadnoaid (llwynogod) er mwyn gwarchod da byw ac adar hela mewn llociau
- lladd neu gymryd moch daear neu ymyrryd â’u brochfeydd:
- i atal clefydau rhag lledaenu
- i atal niwed difrifol i dir, cnydau, dofednod neu i unrhyw fath arall o eiddo
Am ragor o arweiniad, ffurflen gais neu gyngor, cysylltwch â Chynghorydd Rheoli Bywyd Gwyllt:
- e-bost: bywyd_gwyllt@llyw.cymru
- ffôn: 0300 061 5920
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
TB Gwartheg
O dan y Rhaglen Dileu TB rydym yn rhoi trwyddedau i nodi, trapio a chymryd moch daear. Mae hyn i atal clefydau rhag lledaenu ar ffermydd lle mae buches ag achosion cronig o TB. Mae moch daear sydd â TB yn cael eu lladd heb greulondeb.
Trwyddedau a roddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Mae CNC yn rhoi trwyddedau ar gyfer y canlynol:
- gwaith gwyddonol neu addysgol ar gyfer diogelu moch daear
- gerddi neu gasgliadau sŵolegol
- modrwyo neu nodi moch daear
- datblygiadau a ddiffinnir o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- cadw heneb gofrestredig neu gynnal ymchwiliad archaeolegol iddi
- ymchwilio i droseddau honedig neu gasglu tystiolaeth ar gyfer achos llys
- rheoli cadnoaid (llwynogod) er mwyn diogelu adar hela sydd wedi’u rhyddhau neu anifeiliaid gwyllt
Am ffurflenni cais a rhagor o arweiniad, cysylltwch â 0300 065 3000, neu ymwelwch â thrwyddedau moch daear ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.