Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ag Atherton Bikes, Machynlleth, i glywed am eu llwyddiant ers sefydlu’r cwmni gweithgynhyrchu beiciau yn 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Lansiodd Beiciau Atherton eu brand beiciau yn 2019. Ers hynny maen nhw wedi ennill tri Chwpan y Byd ac wedi cyrraedd podiwm Cwpan y Byd nifer o weithiau; maen nhw wedi gwerthu dros 170 o feiciau i gwsmeriaid mewn 16 gwlad, ac maen nhw newydd lansio eu gwefan gwerthu yn uniongyrchol i'r defnyddiwr sy'n gwerthu dau gynnyrch beic mynydd, yn ogystal ag amrediad o nwyddau cysylltiedig.

Yn ddiweddar enillodd eu cynnyrch cyntaf, yr AM.150, wobr beic llwybr y flwyddyn gan gylchgrawn Enduro – tipyn o gamp ar ôl dim ond dwy flynedd o gynhyrchu.

Mae Atherton Bikes yn brosiect cydweithredol rhwng y teulu Atherton, y teulu sydd wedi ennill mwy o wobrau nag unrhyw un arall yn hanes beicio mynydd, a thîm o beirianwyr sydd ar flaen y gad ym maes technoleg deunyddiau cyfansawdd.

Mae'r siblingiaid Dan, Gee a Rachel Atherton wedi bod ar frig beicio mynydd ers blynyddoedd, a rhyngddyn nhw maen nhw wedi ennill 49 Cwpan y Byd, wyth Cystadleuaeth y Byd – a chystadleuaeth gyffredinol Cwpan y Byd saith gwaith. Gwnaethon nhw ymuno â grŵp o feicwyr mynydd brwd sy'n dod ag arbenigedd o'r radd flaenaf o feysydd awyrofod ac F1, yn ogystal â Piers Linney (Dragon’s Den y BBC, Shark Tank) sy'n darparu arbenigedd busnes.

Yn ystod ei ymweliad, cafodd Gweinidog yr Economi y cyfle i weld y prif brosesau sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r beiciau manyleb uchel hyn drwy weithgynhyrchu haen-ar-haen, ac i weld cynnyrch nesaf y tîm, sydd newydd gael ei gyhoeddi yn anffurfiol, sef yr AM.130, beic llwybr a fydd yn cael ei gyhoeddi i'r cyhoeddi yn hwyrach y mis hwn. Gwelodd y Gweinidog y ffordd mae criw Atherton, yn ei ffordd arloesol nodweddiadol, wedi cefnu ar ddulliau cynhyrchu traddodiadol a chynhyrchu yn y Dwyrain Pell, ac wedi cyflwyno "cynhyrchu haen-ar-haen" (argraffu 3D mewn titaniwm) i'r diwydiant beiciau mynydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae wedi bod yn wych gweld y cwmni hwn tyfu a llwyddo mewn cyn lleied o amser. Heb os mae eu brwdfrydedd dros eu gwaith wedi chwarae rôl enfawr yn eu llwyddiannau, ac mae eu technoleg arloesol yn dod â rhywbeth newydd i'r diwydiant beiciau mynydd. Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r busnes i ddatblygu, a'u bod wedi derbyn grant ymchwil a datblygu gan SMART Cymru ar gyfer datblygu cydsyniad beic newydd.  Hoffwn i ddymuno pob llwyddiant i'r tîm yn y dyfodol."

Mae Dan, Gee a Rachel yn cael eu cydnabod yn fyd-eang am fod ar flaen y gad ym maes beiciau mynydd, ac am wthio ffiniau'r chwaraeon.

A'r un mor gryf â'u brwdfrydedd dros eu chwaraeon mae eu cariad dwfn at y wlad maen nhw wedi'i mabwysiadu, a'u hymdrechion i ddod â chyfoeth a swyddi i ardal Machynlleth. Y brawd hynaf, Dan, yw crëwr Red Bull Hardline, "y ras i lawr anoddaf yn y byd" sydd bellach wedi dathlu ei 8fed flwyddyn yn Ninas Mawddwy, yn ogystal â Pharc Beiciau Dyfi sy'n denu dros 500 o feicwyr bob wythnos o bob cwr o'r DU. Pan ddechreuodd y teulu Atherton Bikes, gan gynhyrchu beiciau mynydd o ansawdd uchel sy'n ffitio'n berffaith, y peth naturiol i'w wneud oedd lleoli eu cyfleuster ym Machynlleth.

Dywedodd Dan Brown, Prif Swyddog Gweithredol Atherton Bikes,

"Roedd yn bwysig gwneud pethau yn ein ffordd ein hunain, ac un o brif elfennau ein gweledigaeth fu dod â gweithgynhyrchu yn ôl i'r wlad hon, gyda holl fanteision cynaliadwyedd a rheoli ansawdd sy'n dod â chynhyrchu’n lleol. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am gymorth Llywodraeth Cymru, ac yn falch o leoli ein busnes ym Machynlleth ac mewn ardal â threftadaeth beicio mynydd gref."